- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006(1);
ystyr “Cyfarwyddeb 2002/72/EC” (“Directive 2002/72/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(2);
ystyr “Cyfarwyddeb 2007/42/EC” (“Directive 2007/42/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC, sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(3);
ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC(4);
ystyr “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006, sy'n ymwneud ag arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(5);
mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) o'r Ddeddf, ond nid yw'n cynnwys awdurdodau iechyd porthladd;
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Afiechydon) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y cylch hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
ystyr “caen cellwlos atgynyrchiedig” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd ar ffurf dalen denau a geir o gellwlos puredig sydd wedi ei ddeillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gan neu heb ychwanegu sylweddau addas, naill ai mewn crynswth neu ar un neu'r ddau o'r wynebau; ond nid yw'n cynnwys casinau synthetig sydd wedi eu gwneud o gellwlos atgynyrchiedig;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu roi nwydd ar ddangos i'w werthu, neu fod mewn meddiant arno er mwyn ei werthu, a dylid dehongli “gwerthiant” a “gwerthwyd” yn unol â hynny.
ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio, yn ystod busnes, o rywle heblaw Aelod-wladwriaeth ;
mae “paratoad” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, a dylid dehongli “paratoi” (“prepare”) yn unol â hynny;
ystyr “plastigion” (“plastics”) yw'r deunyddiau ac eitemau hynny y mae Cyfarwyddeb 2002/72/EC yn gymwys iddynt;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson (boed yn un o swyddogion yr awdurdod sydd â chyfrifoldeb am weithredu a gorfodi o dan reoliad 14, ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw i weithredu mewn materion sydd yn codi o dan y Rheoliadau hyn;
(2) Ac eithrio yn rheoliadau 5 a 7, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl rifedig yn gyfeiriad at yr Erthygl sydd yn dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 1935/2004.
(3) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004 neu Reoliad 2023/2006 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad 2023/2006 neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2002/72/EC neu i Gyfarwyddeb 2007/42/EC yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.
OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18. Cafodd y Gyfarwyddeb hon ei chywiro gan gywiriad (OJ Rhif L39, 13.2.2003, t.1), a chafodd ei diwygio ar y dyddiad y gwnaed y Rheoliadau hyn gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45), 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8), 2005/79/EC (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.35) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2007/19/EC (OJ Rhif L97, 12.4.2007, t.50).
OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71. Yr oedd y Gyfarwyddeb hon yn diddymu ac yn cydgrynhoi, heb ddiwygiad pellach, Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC, fel y cafodd ei diwygio ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC.
OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.
OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: