- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
TAI, CYMRU
Gwnaed
12 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Tachwedd 2007
Yn dod i rym
14 Rhagfyr 2007
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar y 14 Rhagfyr 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fydd awdurdod tai lleol yng Nghymru yn ymgymryd ag adolygiad o anghenion tai yn ei ardal o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985.
2. At ddibenion adran 225 o Ddeddf Tai 2004 (dyletswyddau awdurdodau tai lleol: anghenion llety sipsiwn a theithwyr) ystyr “sipsiwn a theithwyr” (“gypsies and travellers”) yw —
(a)personau sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn carafan; a
(b)pob person arall ag arferion byw nomadaidd, beth bynnag fo eu hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—
(i)y personau hynny sydd, ddim ond ar sail anghenion addysg neu anghenion iechyd nhw eu hunain, eu teulu neu eu dibynyddion neu oherwydd henaint, wedi rhoi'r gorau i deithio naill ai dros dro neu'n barhaol; a
(ii)aelodau o grwp trefnedig o bobl sioe neu bobl syrcas sy'n teithio (p'un a ydynt yn teithio gyda'i gilydd felly ai peidio).
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 225 o Ddeddf Tai 2004 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau tai lleol i gyflawni asesiad o anghenion llety sipsiwn a theithwyr sy'n preswylio yn eu hardal neu'n cyrchu iddi, pan fyddant yn ymgymryd ag adolygiad o anghenion tai yn eu hardal o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diffinio “sipsiwn a theithwyr” at ddibenion y ddyletswydd honno o ran Cymru.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Gymunedau, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful CF48 1UZ, ffôn 01685 729210, neu drwy e-bostio Laura.Evans@wales.gsi.gov.uk.
2004 p.34. Mae'r pwer a roddir gan adran 225 yn arferadwy o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o “appropriate national authority” yn adran 261(1) o Ddeddf 2004.
Trosglwyddwyd pwer Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 225 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: