xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Gwnaed
7 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Tachwedd 2007
Yn dod i rym
30 Tachwedd 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 74(A) ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1).
Bu ymgynghori yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu, fel y bo'n briodol, o Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(2) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(3) yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Ym mharagraff 11(2)(c)(iv) o Ran 1 o Atodlen 3 (cynnwys yr offeryn statudol neu ddatganiad arall etc), yn lle'r gair “soluble” rhodder “insoluble”.
(3) Mae'r cofnodion tabl a'r troednodiadau sy'n ffurfio Pennod D o Atodlen 5 (terfynau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol) wedi'u disodli gan y cofnodion a'r troednodiadau a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Mae'r cofnodion tabl a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn wedi'u hychwanegu ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 6 (rheoli ffynonellau protein penodol).
(5) Yng ngholofn 4 o Bennod A o Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir ac a fwriedir at ddibenion maethol neilltuol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio), gyferbyn â'r cofnod yng ngholofn 1 ynghylch lleihau cyfraddau ffurfiant cerrig cystin, yn lle'r gair “acidifying” rhodder “alkalising”.
G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Tachwedd 2007
Rheoliad 2(3)
“Column 1 | Column 2 | Column 3 |
---|---|---|
Undesirable substances | Products intended for animal feed | Maximum content in mg/kg of feeding stuffs referred to a moisture content of 12% |
(1) Singly or combined, expressed as dieldrin. | ||
(2) Maximum level for aldrin and dieldrin, singly or combined, expressed as dieldrin. | ||
(3) Numbering system according to Parlar, prefixed by either “CHB” or “Parlar”:
| ||
Aldrin(1) | All feeding stuffs | 0.01(2) |
Dieldrin(1) | except: | |
— fats and oils | 0.1(2) | |
— feeding stuffs for fish | 0.02(2) | |
Camphechlor (toxaphene) — sum of indicator congeners CHB 26, 50 and 62(3) | Fish, other aquatic animals, their products and by-products | 0.02 |
except: | ||
— fish oil | 0.2 | |
Feeding stuffs for fish | 0.05 | |
Chlordane (sum of cis- and trans-isomers and of oxychlordane, expressed as chlordane) | All feeding stuffs | 0.02 |
except: | ||
— fats and oils | 0.05 | |
DDT (sum of DDT-, TDE- and DDE- isomers, expressed as DDT) | All feeding stuffs | 0.05 |
except: | ||
— fats and oils | 0.5 | |
Endosulphan (sum of alpha- and beta-isomers and of endosulphan sulphate, expressed as endosulphan) | All feeding stuffs | 0.1 |
except: | ||
— maize and products derived from the processing thereof | 0.2 | |
— oilseeds and products derived from the processing thereof, with the exception of crude vegetable oil | 0.5 | |
— crude vegetable oil | 1.0 | |
— complete feeding stuffs for fish | 0.005 | |
Endrin (sum of endrin and delta-keto-endrin, expressed as endrin) | All feeding stuffs | 0.01 |
except: | ||
— fats and oils | 0.05 | |
Heptachlor (sum of heptachlor and of heptachlorepoxide, expressed as heptachlor) | All feeding stuffs | 0.01 |
except: | ||
— fats and oils | 0.2 | |
Hexachlorobenzene (HCB) | All feeding stuffs | 0.01 |
except: | ||
— fats and oils | 0.2 | |
Hexachlorocyclohexane (HCH) | ||
— alpha-isomers | All feeding stuffs | 0.02 |
except: | ||
— fats and oils | 0.2 | |
— beta-isomers | All feed materials | 0.01 |
except: | ||
— fats and oils | 0.1 | |
All compound feeding stuffs | 0.01 | |
except: | ||
— compound feeding stuffs for dairy cattle | 0.005 | |
— gamma-isomers | All feeding stuffs | 0.2 |
except: | ||
— fats and oils | 2.0 |
Rheoliad 2(4)
“Name of product group | Permitted products | Designation of nutritive principle or identity of micro-organisms | Culture substrate (specifications, if any) | Composition characteristics of product | Animal species | Name of product and specified particulars |
---|---|---|---|---|---|---|
2.2 By-products from the production of amino acids by fermentation | ||||||
2.2.1 Concentrated liquid by-products from the production of L-glutamic acid by fermentation with Corynebacterium melassecola | Ammonium salts and other nitrogenous compounds | Sucrose, molasses, starch products and their hydrolysates | Nitrogen expressed as crude protein: minimum 48% Moisture: maximum 28% | Ruminants from the beginning of rumination | Declarations to be made on the label or packaging of the product:
| |
2.2.2 Concentrated liquid by-products from the production of L-lysine monohydrochloride by fermentation with Brevibacterium lactofermentum | Ammonium salts and other nitrogenous compounds | Sucrose, molasses, starch products and their hydrolysates | Nitrogen expressed as crude protein: minimum 45% | Declarations to be made on the label or packaging of compound feeding stuffs:
|
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 (OS 2006/116 (Cy.14) fel y'u diwygiwyd eisoes gan OS 2006/617 (Cy.69), OS 2006/2928 (Cy.263) ac OS 2006/3256 (Cy.296) (“y Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/77/EC sy'n diwygio Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran cyfansoddion organoclorin mewn bwyd anifeiliaid (OJ Rhif L271, 30.9.2006, t.53).
Mae'r Rheoliadau yn diwygio Pennod D o Atodlen 5 i'r Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid, yn bennaf drwy —
(a)pennu terfynau newydd mewn perthynas ag aldrin a dieldrin:
(b)pennu terfynau newydd mewn perthynas ag endosylffan mewn olew llysiau crai; ac
(c)rhoi yn lle'r term “fats” y term “fats and oils”, (rheoliad 2(3) ac Atodlen 1).
Mae'r Rheoliadau hefyd yn cywiro gwall hepgor yn Atodlen 6 a gwallau teipograffyddol yn Atodlenni 3 a 7 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (rheoliad 2(2), (4) a (5)).
Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
1970 p.40. Mae adran 66(1) yn cynnwys y diffiniadau o'r ymadroddion “the Ministers”, “prescribed” a “regulations”. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion a'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan OS 1999/672 ac i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), Atodlen 4, paragraff 6.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).
OS 2006/116 (Cy.14), fel y'i diwygiwyd gan OS 2006/617 (Cy.69), OS 2006/2928 (Cy.263) ac OS 2006/3256 (Cy.296).