xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Rhaid i berson sy'n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE yn ddŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 wneud cais ysgrifenedig i'r Asiantaeth, gan roi'r manylion a osodir ym mharagraff 2.
2. Dyma'r manylion —
(a)y rheini a bennir ym mharagraff 1o Ran 3;
(b)unrhyw wybodaeth arall sy'n dangos bod y materion a bennir ym mharagraff 2 a 3 o Ran 3 wedi'u sefydlu; a
(c)y dystiolaeth honno sy'n foddhaol i ddangos nad yw'r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodlen 6 ar lefel sy'n fwy na'r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.
3. I'r graddau y mae'n ofynnol rhoi manylion o unrhyw anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio neu elfennau hybrin a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 5 yn unol ag is-baragraff (b) o baragraff 2, rhaid mynegi'r crynodiad o bob anion, cation, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio neu elfen hybrin yn y manylion hynny yn yr uned fesur a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno.
4. Rhaid i'r Asiantaeth gydnabod y cyfryw ddŵr os bydd yr awdurdod yn y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi ardystio—
(a)ei bod wedi'i bodloni —
(i)bod y gofynion ym mharagraff 2 a 3 o Ran 3 wedi'u sefydlu, a
(ii) gyda'r dystiolaeth a roir yn unol ag is-baragraff (c) o baragraff 2; a
(b)bod archwiliadau cyfnodol wedi cael eu gwneud i ganfod —
(i)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy'n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I,
(ii) bod nodweddion y dŵr wedi'u hasesu yn unol â'r canlynol—
(aa)y pwyntiau a rifir 1 i 4 a osodir ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I,
(bb)y gofynion a'r meini prawf a restrir yn Rhan 3; a
(cc) dulliau gwyddonol cydnabyddedig, a
(iii)bod darpariaethau Atodlen 4 yn cael eu cymhwyso gan y person sy'n datblygu'r ffynnon.
5. Bydd cydnabyddiaeth o'r cyfryw ddŵr yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o bum mlynedd oni fydd awdurdod cyfrifol y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi adnewyddu'r ardystiad sy'n ofynnol gan baragraff 4.
6. Rhaid i'r Asiantaeth, pan fydd yn cydnabod dŵr yn unol â'r Rhan hon o'r Atodlen hon, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o'r fath yn y London Gazette, yr Edinburgh Gazette a'r Belfast Gazette.