- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu Rheoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999 (O.S. 1999/1540), sy'n rhychwantu Prydain Fawr gyfan, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, ac maent yn ailddeddfu'r Rheoliadau hynny gyda newidiadau o ran Cymru. Diwygiwyd y Rheoliadau hynny ddiwethaf o ran Cymru gan Reoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr Yfed wedi'i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1509 (Cy.158)).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu o ran Cymru ac i'r graddau a bennir ym mharagraff 3 isod yr offerynnau Cymunedol a bennir yn y paragraff hwnnw.
3. Yr offerynnau Cymunedol yw—
(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 80/777/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch datblygu a marchnata dŵr mwynol naturiol (OJ Rhif L229, 30.8.80, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ L284, 31.10.2003, t.1);
(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/40/EC sy'n sefydlu'r rhestr, terfynau crynodiad a gofynion labelu ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol a'r amodau ar gyfer defnyddio aer a gyfoethogwyd gan osôn ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynhonnau (OJ Rhif L126, 22.5.2003, t.34); ac
(c)o ran dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi'i botelu, Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ynghylch ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl (OJ Rhif L330, 3.11.98, t.32).
4. Dyma'r prif newidiadau—
(a)darperir yn benodol nad yw'r Rheoliadau'n gymwys i ddognau o rew a becynnwyd a ddefnyddir i oeri bwyd;
(b)estynnir y gofynion yn y Rheoliadau ynghylch marcio a labelu dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon i gynnwys hysbysebu dŵr o'r fath; ac
(c)gwneir darpariaeth ar gyfer rhannau o samplau a gedwir gan swyddogion awdurdodedig awdurdodau bwyd at ddibenion dadansoddi sydd i'w cyflwyno ar gyfer eu dadansoddi i Gemegydd y Llywodraeth mewn amgylchiadau penodedig.
5. Mae'r Rheoliadau yn—
(a)darparu ar gyfer esemptiadau o'r Rheoliadau ynghylch mathau penodedig o ddŵr a rhew ar gyfer oeri bwyd (rheoliad 3);
(b)rhagnodi'r amodau ar gyfer cydnabod dŵr mwynol naturiol a'r gweithdrefnau dros dynnu'r fath gydnabyddiaeth yn ôl a darparu ar gyfer adolygu penderfyniadau i beidio â rhoi cydnabyddiaeth neu dynnu cydnabyddiaeth yn ôl pan ofynnir am hynny gan y person y mae'r penderfyniad yn effeithio arno (rheoliad 4);
(c)gosod yr amodau sy'n rhaid eu bodloni i ddatblygu ffynhonnau er mwyn marchnata dŵr ohonynt fel dŵr mwynol naturiol a gwahardd datblygu ffynhonnau a lygrwyd hyd nes y caiff achos y llygredd ei ddileu (rheoliad 5);
(ch)gwahardd rhoi dŵr mwynol naturiol dan driniaethau a rhoi ychwanegiadau heblaw'r rhai penodedig, yn ddarostyngedig i eithriad yn achos dŵr o'r fath pan gaiff ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn (rheoliad 6);
(d)gwahardd potelu dŵr mwynol naturiol sy'n cynnwys sylweddau penodedig sy'n uwch na therfynau penodedig a rhagnodi'r dulliau sydd i'w defnyddio ar gyfer canfod sylweddau o'r fath (rheoliad 7(1) a (2));
(dd)gwahardd potelu dŵr mwynol naturiol pan na chydymffurfir â gofynion penodedig ynghylch datblygu'r ffynnon y daw'r dŵr ohoni a photelu'r dŵr (rheoliad 7(3));
(e)gwahardd potelu dŵr mwynol naturiol mewn cynwysyddion nad ydynt yn bodloni gofynion penodedig (rheoliad 7(4));
(f)cyfyngu ar y marcio a'r labelu y gellir ei roi ar ddŵr mwynol naturiol wedi'i botelu (gan gynnwys dŵr mwynol naturiol eferw), ei gwneud yn ofynnol bod dŵr o'r fath yn cael ei farcio neu'i labelu â gwybodaeth benodedig ac mewn dau fodd rheoleiddio hysbysebu dŵr o'r fath yn ychwanegol at ei farcio a'i labelu (rheoliad 8);
(ff)gwahardd gwerthu dŵr mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r enw “natural mineral water” neu “dŵr mwynol naturiol” oni bai ei fod yn ddŵr o'r fath; gosod gwaharddiadau eraill ynghylch gwerthu dŵr mwynol naturiol wedi'i botelu; a gwahardd gwerthu dŵr mwynol naturiol o ffynnon unigol o dan fwy nag un disgrifiad masnachol (rheoliad 9);
(g)gwahardd potelu dŵr mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu “spring water” neu “dŵr ffynnon” oni bai bod y dŵr yn bodloni gofynion penodedig, gwahardd potelu o'r fath os cafodd y dŵr ei drin ag aer a gyfoethogwyd gan osôn onid yw'r driniaeth yn un awdurdodedig a gwahardd datblygu ffynhonnau a lygrwyd nes bod achos y llygredd yn cael ei ddileu (rheoliad 10);
(ng)cyfyngu ar y marcio a'r labelu y caniateir ei roi ar ddŵr ffynnon, ei gwneud yn ofynnol bod dŵr o'r fath wedi'i farcio neu wedi'i labelu â gwybodaeth benodedig ac mewn un modd rheoleiddio hysbysebu dŵr o'r fath yn ychwanegol at ei farcio a'i labelu (rheoliad 11);
(h)gwahardd gwerthu dŵr wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu “spring water” os nad yw'r dŵr yn cydymffurfio â'r gofynion o ran potelu, labelu a hysbysebu yn rheoliad 10 a 11 yn eu trefn, a gwahardd gwerthu dŵr o'r fath o un ffynnon benodol o dan fwy nag un disgrifiad masnachol (rheoliad 12);
(i)gwahardd potelu dŵr yfed onid yw'n bodloni gofynion Atodlen 2 (rheoliad 13);
(j)gosod cyfyngiadau ar farcio, labelu a hysbysebu dŵr yfed wedi'i botelu (rheoliad 14);
(l)gwahardd gwerthu dŵr yfed wedi'i botelu na chafodd ei botelu yn unol â rheoliad 13 neu na chafodd ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 14 (rheoliad 15);
(ll)dyrannu cyfrifoldeb ar gyfer gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau, gan gynnwys cyflawni archwiliadau penodedig er mwyn sicrhau bod gofynion penodedig ynghylch dwr mwynol naturiol a gofynion o ran bod technegau ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn sy'n gymwys ar gyfer dŵr mwynol naturiol a dwr ffynnon yn cael eu bodloni (rheoliad 16);
(m)rhagnodi'r trefniadau ar gyfer trafod samplau o ddwr a gymrwyd ar gyfer ei dadansoddi at ddibenion y Rheoliadau, darparu ar gyfer cyflwyno rhan o'r sampl i Gemegydd y Llywodraeth mewn amgylchiadau penodedig a'i gwneud yn ofynnol, at ddibenion penderfynu p'un a yw dŵr yn cydymffurfio ag Atodlen 2, bod yn rhaid defnyddio dulliau dadansoddi sy'n unol ag Erthygl 7.5 o Gyfarwyddeb 98/83/EC (rheoliadau 17 i 19 yn eu trefn);
(n)darparu bod mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig y Rheoliadau yn dramgwydd a rhagnodi'r gosb sy'n gymwys pan geir collfarniad (rheoliad 20);
(o)darparu amddiffyniadau ar gyfer unrhyw dramgwydd o'r fath mewn cysylltiad â dŵr wedi'i botelu, wedi'i farcio ac wedi'i labelu cyn i'r Rheoliadau ddod i rym a dŵr wedi'i botelu neu wedi'i werthu mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r DU ac sy'n cydymffurfio â'r gyfraith yn y Wladwriaeth AEE honno pan gafodd ei botelu neu ei werthu (rheoliad 21);
(p)cymhwyso at ddibenion y Rheoliadau ddarpariaethau penodol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499 fel y'i diwygiwyd) (rheoliad 22(1) a (2));
(ph)gwahardd gwerthu dŵr sydd heb gael ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 38 (hawdd ei ddeall) o'r Rheoliadau hynny (rheoliad 22(3)); ac
(r)dirymu Rheoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr wedi'i Botelu 1999 (OS 1999/1540 fel y'i diwygiwyd) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (rheoliad 23).
6. Hysbyswyd y gofyniad a geir ym mharagraff 1(ch) o Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn i'r Comisiwn Ewropeaidd yn unol â gofynion Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer rhoi gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L 204, 21.7.98, t.37) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L217, 5.8.98, t.18).
7. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: