Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a Dwr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 28 Tachwedd 2007.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “crynodiad neu werth a ragnodwyd” (“prescribed concentration or value”), o ran unrhyw baramedr, yw'r crynodiad neu werth a bennir ynghylch y paramedr hwnnw yn unrhyw Dabl yn Rhan 2 o Atodlen 2 fel y mesurir ef drwy gyfeirio at yr uned fesur a bennir felly;

ystyr “Cyfarwyddeb 80/777” (“Directive 80/777”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 80/777/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch datblygu a marchnata dŵr mwynol naturiol(1);

ystyr “Cyfarwyddeb 98/83” (“Directive 98/83”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ynghylch ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl(2);

ystyr “Cyfarwyddeb 2003/40/EC” (“Directive 2003/40/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/40/EC sy'n sefydlu'r rhestr, terfynau crynodiad a gofynion labelu ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol a'r amodau ar gyfer defnyddio aer a gyfoethogwyd gan osôn ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynhonnau(3);

ystyr “dŵr mwynol naturiol” (“natural mineral water”) yw dŵr—

(a)

sy'n iachus yn ficrobiolegol;

(b)

sy'n tarddu o lefel trwythiad neu ddyddodion tanddaearol ac sy'n codi allan o ffynnon a dapiwyd mewn allanfa neu allanfeydd naturiol neu wedi'u tyllu;

(c)

y gellir ei wahaniaethu'n amlwg oddi wrth dŵr yfed cyffredin oherwydd y nodweddion canlynol a gafodd eu cadw'n ddifreg oherwydd tarddiad tanddaearol y dŵr, a rhaid bod y tarddiad hwnnw wedi cael ei ddiogelu rhag pob risg o lygredd—

(i)

ei natur, a nodweddir gan ei gynnwys mwynol, elfennau hybrin neu ansoddau eraill a, pan fo hynny'n briodol, gan effeithiau penodol,

(ii)

yn ei gyflwr gwreiddiol; ac

(ch)

sydd am y tro'n cael ei gydnabod yn unol â rheoliad 4;

ystyr “dŵr mwynol naturiol eferw” (“effervescent natural mineral water”) yw dŵr mwynol naturiol sydd, yn ei ffynhonnell neu ar ôl ei botelu, yn gollwng carbon deuocsid yn ddigymell ac mewn dull a welir yn eglur o dan amodau tymheredd a phwysedd arferol;

ystyr “dŵr yfed” (“drinking water”) yw dŵr a fwriadwyd ar gyfer ei yfed gan bobl heblaw —

(a)

dŵr mwynol naturiol; neu

(b)

dŵr a botelwyd mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu “spring water” neu “dŵr ffynnon” yn unol â rheoliad 11;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae i “hysbyseb” a “hysbysebu” yr ystyr a roddir i “advertisement” ac “advertise” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(4);

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cael rhywbeth yn eich meddiant i'w werthu, cynnig neu ddangos neu hysbysebu rhywbeth i'w werthu;

ystyr “paramedr” (“parameter”) yw priodwedd, elfen, organeb neu sylwedd a restrir yn yr ail golofn o unrhyw Dabl yn Rhan 2 o Atodlen 2;

ystyr “potel” (“bottle”) yw cynhwysydd caeedig o unrhyw fath y gwerthir dŵr ynddo i'w yfed gan bobl neu o'r lle y daw dŵr a werthir i'w yfed gan bobl ohono, a dehonglir “potelu” ac ymadroddion cytras yn unol â hynny; ac

ystyr “techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn” (“authorised ozone-enriched air oxidation technique” ) yw—

(a)

triniaeth ag aer a gyfoethogwyd ag osôn a awdurdodwyd ac a gyflawnwyd yn unol ag Atodlen 1; neu

(b)

yn achos dŵr a ddygwyd i Gymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig neu o Wladwriaeth AEE arall, triniaeth sy'n cydymffurfio ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2003/40 fel y'i gweithredir yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig neu'r Wladwriaeth AEE honno.

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 80/777 neu Gyfarwyddeb 98/83 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb o dan sylw.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â Rhif , ac eithrio lle yr ymddengys bwriad i'r gwrthwyneb, yn gyfeiriad at yr Erthygl neu'r Atodiad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yng Nghyfarwyddeb 80/777.

(4Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at farcio neu labelu potel yn cynnwys y marcio a'r labelu a wnaed cyn bod unrhyw ddŵr yn cael ei botelu a'r marcio a'r labelu a wnaed ar ôl potelu.

Esemptiadau

3.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ddŵr —

(a)sydd â thrwydded cynnyrch a ddyroddwyd o dan ddarpariaethau Deddf Meddyginiaethau 1968(5), neu awdurdodiad marchnata o fewn ystyr Rheoliadau Meddyginiaethau ar gyfer Defnydd Dynol (Awdurdodiadau Marchnata etc.) 1994(6), neu awdurdodiad marchnata o fewn ystyr Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005(7);

(b)sy'n ddŵr mwynol naturiol a ddefnyddir yn ei darddiad at ddibenion iachaol mewn sefydliadau thermol neu hydrofwynol;

(c)nas bwriadwyd ar gyfer ei werthu i'w yfed gan bobl; neu

(ch)sy'n ddŵr mwynol naturiol y bwriedir ei allforio i wlad heblaw Gwladwriaeth AEE.

(2Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddognau o rew a becynnwyd a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio i oeri bwyd.

RHAN 2dŵr mwynol naturiol

Cydnabyddiaeth fel dŵr mwynol naturiol

4.—(1Cydnabyddir dŵr yn ddŵr mwynol naturiol—

(a)yn achos dŵr a echdynnwyd o'r ddaear yng Nghymru, rhoddir cydnabyddiaeth gan yr awdurdod perthnasol yn unol â Rhan 1 o Atodlen 3;

(b)yn achos dŵr a echdynnwyd o'r ddaear mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig, cydnabyddir ef yn y fan honno yn unol â Chyfarwyddeb 80/777 gan awdurdod cyfrifol yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig;

(c)yn achos dŵr a echdynnwyd o'r ddaear mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig, cydnabyddir ef yn y fan honno yn unol â Chyfarwyddeb 80/777 gan awdurdod cyfrifol yn y Wladwriaeth AEE honno; ac

(ch)yn achos dŵr a echdynnwyd o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE—

(i)cydnabyddir ef gan yr Asiantaeth, yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3, neu

(ii) mae ganddo gydnabyddiaeth gyfartal a roddir gan awdurdod cyfrifol —

(aa)rhan arall o'r Deyrnas Unedig, neu

(bb)Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig.

(2Os gwelir, o ran unrhyw ddŵr a gydnabuwyd o dan baragraff (1)(a) neu (ch)(i),—

(a)drwy ddadansoddiad yn unol â Rhan 3 o Atodlen 3, na fodlonir gofynion paragraff 3 o'r Rhan honno;

(b)na fodlonir gofynion Atodlen 4; neu

(c)nad yw cynnwys y dŵr yn unol â pharagraff 2(c) o Ran 1 neu, yn ôl y digwydd, paragraff 2(c) o Ran 2 o Atodlen 3,

caniateir i'r awdurdod perthnasol neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth, dynnu'r gydnabyddiaeth honno yn ôl hyd nes y bodlonir y gofynion o dan sylw.

(3Os—

(a)bydd yr awdurdod perthnasol yn peidio â rhoi cydnabyddiaeth o ddŵr neu'n ei thynnu'n ôl; neu

(b)bydd yr Asiantaeth yn peidio â rhoi cydnabyddiaeth o ddŵr neu'n ei thynnu'n ôl;

caiff y person sy'n datblygu neu sy'n dymuno datblygu'r ffynnon y mae'r dŵr hwnnw'n tarddu ohoni neu, os yw'n wahanol, y person sy'n berchen y tir y lleolir y ffynnon arno, wneud cais i'r Asiantaeth am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw.

(4Pan wneir cais am adolygiad o benderfyniad o dan baragraff (3), rhaid i'r Asiantaeth ymchwilio i'r mater fel y mae'n ystyried sy'n briodol ac, ar ôl iddo ystyried canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw ac unrhyw ffeithiau perthnasol a ddaw i'r golwg drwyddo, rhaid iddo naill ai—

(a)cadarnhau'r penderfyniad; neu

(b)cyfarwyddo'r awdurdod perthnasol i roi neu adfer, neu adfer ei hun, fel y bo'n briodol, gydnabyddiaeth o'r dŵr o dan sylw.

(5Caiff person sy'n datblygu ffynnon yr echdynnir dŵr ohoni a gydnabyddir yn ddŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff (1)(a) neu (ch)(i), wneud cais i'r awdurdod perthnasol neu i'r Asiantaeth, fel y bo'n briodol, i gael tynnu'r gydnabyddiaeth honno yn ôl.

(6O ran yr awdurdod perthnasol—

(a)os bydd yn rhoi cydnabyddiaeth, yn ei hadfer neu'n ei thynnu'n ôl, rhaid iddo ar unwaith hysbysu'r Asiantaeth o'r ffaith honno;

(b)os hysbysir ef o unrhyw newid i ddisgrifiad masnachol dŵr mwynol naturiol neu i enw ffynnon yr echdynnir dŵr mwynol naturiol ohoni, rhaid iddo ar unwaith hysbysu'r Asiantaeth o'r newid hwnnw; neu

(c)os cyfarwyddir ef gan yr Asiantaeth o dan baragraff (4)(b) i roi neu adfer cydnabyddiaeth, rhaid iddo ar unwaith gydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwnnw.

(7O ran unrhyw gydnabyddiaeth o ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a roddir o dan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol 1985(8) neu Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, dŵr Ffynnon a dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999(9) ac sy'n bodoli ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym—

(a)yn achos dŵr a echdynnwyd o'r ddaear yng Nghymru, rhaid ei thrin fel pe bai'n gydnabyddiaeth gan yr awdurdod perthnasol o dan baragraff (1)(a).

(b)yn achos dŵr a echdynnwyd o'r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE, rhaid ei thrin fel pe bai'n gydnabyddiaeth a roddwyd gan yr Asiantaeth o dan baragraff (1)(ch)(i); a

(8Mae cyhoeddiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd o enw unrhyw ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir yn y Gymuned at ddibenion Cyfarwyddeb 80/777, ac eithrio pan roddwyd y gydnabyddiaeth yn unol ag Atodlen 3, yn dystiolaeth derfynol bod y dŵr hwnnw'n cael ei gydnabod at ddibenion y Gyfarwyddeb honno.

(9Mae Atodlen 5 yn effeithiol at y dibenion a bennir yn Atodlen 3.

Datblygu ffynhonnau dwr mwynol naturiol

5.—(1Ni chaiff neb ddatblygu unrhyw ffynnon at ddibenion marchnata'r dŵr ohoni fel dŵr mwynol naturiol oni bai—

(a)bod y dŵr a echdynnwyd o'r ffynnon honno'n ddŵr mwynol naturiol;

(b)bod yr awdurdod perthnasol wedi rhoi caniatâd i'r ffynnon honno gael ei datblygu; a

(c)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni.

(2Os gwelir yn ystod y datblygu bod dŵr mwynol naturiol wedi cael ei lygru ac y byddai potelu'r dŵr yn mynd yn groes i baragraff 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu'r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi'i ddileu ac y gallai potelu'r dŵr gydymffurfio â'r paragraffau hynny.

Triniaethau i ddŵr mwynol naturiol ac ychwanegiadau ato

6.—(1Ni chaiff neb roi dŵr mwynol naturiol yn ei gyflwr wrth y tarddiad —

(a)drwy unrhyw driniaeth heblaw—

(i)techneg awdurdodedig ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn,

(ii) gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, p'un a cheir ocsigeniad cyn hynny ai peidio, i'r graddau nad yw'r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy'n rhoi iddo ei briodoleddau, neu

(iii) dilead cyfan neu rannol o garbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol; neu

(b)unrhyw ychwanegiad heblaw cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid i gynhyrchu dŵr mwynol naturiol eferw.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal defnyddio dŵr mwynol naturiol wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn.

Potelu dŵr mwynol naturiol

7.—(1Ni chaiff unrhyw berson botelu unrhyw ddŵr mwynol naturiol sydd, ar adeg y potelu, yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Atodlen 6 ar lefel sy'n uwch na'r terfyn uchaf penodedig o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

(2Rhaid i'r dulliau a ddefnyddir ar gyfer canfod y sylweddau a restrir yn Atodlen 6 gydymffurfio â'r nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi a bennir yn Atodlen 7.

(3Ni chaiff neb botelu unrhyw ddŵr mwynol naturiol nad yw'n bodloni gofynion Atodlen 4.

(4Ni chaiff neb botelu unrhyw ddŵr mwynol naturiol mewn unrhyw botel heblaw potel sydd â chaeadau a luniwyd i osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddifwyno neu halogi.

Marcio, labelu a hysbysebu dŵr mwynol naturiol

8.—(1Ni chaiff neb beri i ddŵr mwynol naturiol gael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r canlynol—

(a)disgrifiad masnachol sy'n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw'r disgrifiad masnachol yn cyfeirio at ddŵr mwynol naturiol y mae'r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan y disgrifiad hwnnw ac nad yw'n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon;

(b)disgrifiad masnachol sy'n wahanol i enw'r ffynnon neu'r lle y caiff y cyfryw ddŵr ei ddatblygu, onid yw lle'r datblygu wedi'i farcio neu wedi'i labelu neu enw'r ffynnon hefyd wedi'i marcio neu wedi'i labelu ar y botel, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw;

(c)unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un ai'n arwyddluniol ai peidio, y mae'r defnydd ohonynt yn awgrymu nodweddion nad yw'r dŵr yn meddu arnynt, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i'w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu;

(ch)unrhyw fynegiad heblaw'r rhai a bennir yn is-baragraff (dd) ac (e) sy'n priodoli i'r dŵr mwynol naturiol briodoleddau ynghylch atal, trin neu wella salwch dynol;

(d)unrhyw fynegiad a restrir yng ngholofn 1 o'r Tabl yn Atodlen 8, ac eithrio pan fo'r dŵr mwynol naturiol yn bodloni'r maen prawf a restrir yno sy'n cyfateb i'r mynegiad hwnnw;

(dd)y mynegiad “may be diuretic” neu “gall fod yn ddiwretig” neu'r mynegiad “may be laxative” neu “gall fod yn garthydd” onid aseswyd y dŵr mwynol naturiol fel un sy'n meddu ar y priodoledd a briodolir yn unol â dadansoddiad ffisigocemegol neu archwiliad ffarmacolegol, ffisiolegol neu glinigol, fel y bo'n briodol;

(e)y mynegiad “stimulates digestion” neu “mae'n ysgogi treuliad” neu'r mynegiad “may facilitate the hepato-biliary functions” neu “gall hyrwyddo'r swyddogaethau hepato-bustlog” onid aseswyd y dŵr mwynol naturiol fel un sy'n meddu ar y priodoledd a briodolir yn unol â dadansoddiad ffisigocemegol neu archwiliad ffarmacolegol, ffisiolegol neu glinigol, fel y bo'n briodol; neu

(f)disgrifiad gwerthu heblaw—

(i)yn achos dwr mwynol naturiol eferw, un o'r canlynol, fel y bo'n briodol—

(aa)“naturally carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu yr un ag a geir wrth y ffynhonnell, gan gymryd i ystyriaeth pan fydd yn briodol ailgyflwyno mesur o garbon deuocsid o'r un lefel trwythiad neu ddyddodion cyfatebol i'r hyn a ollyngir yng nghwrs y gweithrediadau hynny ac yn ddarostyngedig i'r goddefiannau technegol arferol,

(bb)“natural mineral water fortified with gas from the spring” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid o'r lefel trwythiad neu ddyddodion ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu yn fwy nag a geir wrth y ffynhonnell, neu

(cc)“carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr yr ychwanegwyd carbon deuocsid ato o darddiad heblaw'r lefel trwythiad neu'r dyddodion y daw'r dŵr ohono; a

(ii)yn achos dŵr mwynol naturiol heblaw dwr mwynol naturiol eferw “natural mineral water”.

(2Ni chaiff neb beri bod dŵr mwynol naturiol yn cael ei botelu mewn potel oni chafodd y botel ei marcio neu'i labelu â'r canlynol—

(a)datganiad o gyfansoddiad dadansoddol sy'n dangos ansoddion nodweddiadol y dŵr;

(b)enw'r lle y datblygir y ffynnon ac enw'r ffynnon;

(c)yn unrhyw achos lle yr aeth drwy driniaeth o ddilead cyfan neu rannol o garbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol, y mynegiad “fully de-carbonated” neu “partially de-carbonated”, fel y bo'n briodol;

(ch)mewn unrhyw achos lle y mae wedi mynd drwy dechneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn, y geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, y mae'n rhaid iddynt ymddangos yn agos at gyfansoddiad dadansoddol yr ansoddion nodweddiadol; a

(d)mewn unrhyw achos y mae ei grynodiad fflworid yn fwy na 1.5 mg/l—

(i)y geiriau “contains more than 1.5 mg/l of fluoride: not suitable for regular consumption by infants and children under 7 years of age”, y mae'n rhaid iddynt ymddangos yn agos at yr enw masnachol mewn llythrennau y gellir eu gweld yn glir, a

(ii)y cynnwys fflworid gwirioneddol o ran y cyfansoddiad ffisigocemegol, y mae'n rhaid ei gynnwys yn y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(a).

(3Os, yn unol â pharagraff (1)(b), mae'n ofynnol i botel sy'n cynnwys dŵr mwynol naturiol gael ei marcio neu'i labelu â lle'r datblygu neu ag enw'r ffynnon—

(a)mae'r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig am y dŵr mwynol naturiol hwnnw; a

(b)mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi o leiaf amlygrwydd cyfartal i le'r datblygu neu i enw'r ffynnon ag a roir i'r disgrifiad masnachol.

(4Ni chaiff neb hysbysebu unrhyw ddŵr mwynol naturiol o dan unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnach, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un ai'n arwyddluniol ai peidio, y mae'r defnydd ohonynt yn awgrymu nodweddion nad yw'r dŵr yn meddu arnynt, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i'w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu.

(5Ni chaiff neb hysbysebu unrhyw ddŵr mwynol naturiol yn groes i baragraff (3).

Gwerthu dŵr mwynol naturiol

9.—(1Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu'i labelu â'r enw “natural mineral water” neu “dŵr mwynol naturiol” yn enw'r dŵr neu fel enw'r dŵr onid yw'r dŵr hwnnw'n ddŵr mwynol naturiol.

(2Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr mwynol naturiol wedi'i botelu—

(a)sy'n cynnwys—

(i)Parasitiaid neu ficro-organebau pathogenig,

(ii)Escherichia coli neu golifformau a streptococi ysgarthol eraill mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir,

(iii) Anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50 ml a archwilir, neu

(iv)Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir;

(b)pan nad yw cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn y ffynhonnell y cymrwyd y dŵr ohoni yn cydymffurfio â pharagraff 7 o Atodlen 4;

(c)pan fo cyfanswm cyfrif cytref y dŵr hwnnw' y gellir ei adfywio'n fwy na'r hyn fyddai canlyniad cynnydd normal yng nghynnwys y bacteria a oedd ganddo yn y ffynhonnell; neu

(ch)pan fo'r dŵr hwnnw'n cynnwys unrhyw ddiffyg organoleptig.

(3Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr mwynol naturiol wedi'i botelu—

(a)a echdynnwyd o ffynnon a ddatblygir yn groes i reoliad 5;

(b)a gafodd unrhyw driniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 6; neu

(c)sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu yn groes i reoliad 8.

(4Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr mwynol naturiol o un ffynnon benodol o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.

RHAN 3dŵr ffynnon

Potelu dŵr ffynnon a datblygu ffynhonnau dŵr ffynnon

10.—(1Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” onid yw'r dŵr hwnnw—

(a)wedi'i echdynnu o ffynnon; a

(b)yn bodloni gofynion Atodlenni 2 a 4.

(2Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr which a gafodd ei drin ag aer a gyfoethogwyd ag osôn yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu'n ddŵr ffynnon, onid yw'r driniaeth honno'n dechneg awdurdodedig ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn.

(3Os gwelir yn ystod datblygu bod dŵr ffynnon yn llygredig ac y gallai potelu'r dŵr hwnnw fynd yn groes i baragraff 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu'r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes y caiff achos y llygredd ei ddileu ac y gallai potelu'r dŵr gydymffurfio â'r paragraffau hynny.

Marcio, labelu a hysbysebu dŵr ffynnon

11.—(1Ni chaiff neb beri bod unrhyw botel yn cael ei marcio neu'i labelu gyda'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” onid yw'r dŵr a gynhwysir ynddi —

(a)wedi'i botelu fel a bennir yn rheoliad 10; a

(b)wedi'i fwriadu ar gyfer ei yfed yn ei gyflwr naturiol.

(2Ni chaiff neb beri bod unrhyw botel sy'n cynnwys dŵr sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” gael ei farcio neu'i labelu â'r canlynol—

(a)disgrifiad masnachol sy'n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw'r disgrifiad masnachol hwnnw'n cyfeirio at ddŵr y mae'r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan y disgrifiad hwnnw ac nad yw'n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon; neu

(b)disgrifiad masnachol sy'n wahanol i enw'r ffynnon neu'r lle y caiff y cyfryw ddŵr ei ddatblygu, onid yw lle'r datblygu neu enw'r ffynnon hefyd wedi'i farcio neu wedi'i labelu ar y botel, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw.

(3Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon” oni chafodd y botel hefyd ei marcio neu'i labelu â'r canlynol—

(a)enw'r lle y datblygir y ffynnon o dan sylw; a

(b)enw'r ffynnon; a

(c)mewn unrhyw achos lle y mae'r dŵr wedi mynd drwy dechneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn, y geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, y mae'n rhaid i'r geiriau ymddangos yn agos at y manylion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b).

(4Os yw'n ofynnol, yn unol â pharagraff (2)(b), i botel sy'n cynnwys dŵr ffynnon gael ei marcio neu'i labelu â lle'r datblygu neu ag enw'r ffynnon—

(a)mae'r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig am y dŵr ffynnon hwnnw; a

(b)mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi o leiaf amlygrwydd cyfartal i le'r datblygu neu i enw'r ffynnon ag a roir i'r disgrifiad masnachol.

(5Ni chaiff neb hysbysebu unrhyw ddŵr ffynnon yn groes i baragraff (4).

Gwerthu dwr ffynnon

12.—(1Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon”—

(a)na chafodd ei botelu yn unol â rheoliad 10; neu

(b)na chafodd ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 11.

(2Ni chaiff neb werthu dŵr o un ffynnon benodol wedi'i botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “spring water” neu “dŵr ffynnon”, o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.

RHAN 4dŵr yfed wedi'i botelu

Potelu dŵr yfed

13.  Ni chaiff neb beri bod unrhyw ddŵr yfed yn cael ei botelu onid yw'r dŵr hwnnw'n bodloni gofynion Atodlen 2.

Marcio, labelu a hysbysebu dŵr yfed wedi'i botelu

14.  Ni chaiff neb —

(a)peri bod unrhyw ddŵr yfed nad yw'n bodloni darpariaethau Adran I o Atodiad I yn cael ei botelu mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r canlynol—

(i)unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un ai'n arwyddluniol ai peidio, y mae'r defnydd ohono yn dueddol o beri y gellir drysu'r dŵr gyda dŵr mwynol naturiol, neu

(ii)y disgrifiad “mineral water” neu “dŵr mwynol”; neu

(b)peri bod unrhyw ddŵr yfed wedi'i botelu nad yw'n bodloni darpariaethau Adran I o Atodiad I yn cael ei hysbysebu o dan—

(i)unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un a yw'n arwyddluniol ai peidio, y mae'r defnydd ohono yn dueddol o beri y gellir drysu'r dŵr gyda dŵr mwynol naturiol, neu

(ii)y disgrifiad “mineral water” neu “dŵr mwynol”.

Gwerthu dŵr yfed wedi'i botelu

15.  Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr yfed wedi'i botelu —

(a)na chafodd ei botelu yn unol â rheoliad 13; neu

(b)na chafodd ei farcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 14.

RHAN 5Amrywiol ac atodol

Gorfodi

16.—(1Rhaid i bob awdurdod perthnasol, o fewn ei ardal gyflawni archwiliadau cyfnodol ar unrhyw ddŵr a gydnabyddwyd yn ddŵr mwynol naturiol i sicrhau—

(a)bod cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn parhau'n sefydlog o fewn terfynau anwadaliad naturiol,

(b)heb ragfarnu paragraff (a) uchod, nad yw cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn cael eu heffeithio gan unrhyw amrywiad yng nghyfradd y llif,

(c)bod cyfrif cytref hyfyw wrth y ffynhonnell (cyn i'r dŵr fynd drwy unrhyw driniaeth) yn rhesymol gyson, gan gymryd i ystyriaeth gyfansoddiad ansoddol a meintiol y dŵr a ystyriwyd wrth roi cydnabyddiaeth i'r dŵr a ph'un a yw'n parhau i fodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 3, a

(d)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni ynghylch y dŵr.

(2Rhaid i bob awdurdod perthnasol, o fewn ei ardal, gynnal archwiliadau cyfnodol ar unrhyw dechneg i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn a awdurdodwyd ganddo yn unol ag Atodlen 1, er mwyn sicrhau bod gofynion yr Atodlen honno'n parhau i gael eu bodloni.

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd o fewn ei ardal—

(a)gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn; a

(b)er mwyn cyflawni'r swyddogaeth honno, gymryd y camau sy'n ofynnol gan Aelod-wladwriaethiau ac awdurdodau cymwys gan Erthygl 7.1, 7.2, 7.3, a 7.6 o Gyfarwyddeb 98/83 o ran cynhyrchion y mae'r Gyfarwyddeb honno a'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.

Trefniadau ar gyfer samplau a gymrwyd i'w dadansoddi

17.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylid ei ddadansoddi at ddibenion y Rheoliadau hyn ymdrin â'r sampl yn unol â'r rheoliad hwn ac at ddibenion y rheoliad hwn mae “sampl” yn cynnwys potel neu boteli o unrhyw ddŵr.

(2Rhaid i'r swyddog awdurdodedig yn ddiymdroi rannu'r sampl yn dair rhan, a rhaid marcio a selio neu sicrhau pob rhan yn y fath fodd y mae ei natur yn caniatáu, a rhaid i'r cyfryw swyddog—

(a)ynglyn ag un rhan o'r sampl gydymffurfio â pharagraffau (3) i (6); a

(b)ymdrin â gweddill y rhannau yn unol â pharagraff (7).

(3Os cafodd y sampl ei brynu gan y swyddog awdurdodedig, rhaid i'r swyddog roi'r rhan o'r sampl i'r person y prynwyd ef ganddo.

(4Os yw'r sampl yn sampl o ddŵr a ddygwyd i Gymru ac a gymrwyd gan y swyddog awdurdodedig cyn iddo gael ei drosglwyddo i berson sy'n bwriadu gwerthu'r dŵr hwnnw yng Nghymru, rhaid i'r swyddog roi'r rhan o'r sampl i'r person hwnnw.

(5Os na fydd naill ai paragraff (3) na pharagraff (4) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig roi'r rhan o'r sampl i'r person y mae'n ymddangos iddo mai ef yw perchennog y dŵr y cymrwyd y sampl ohono.

(6Ym mhob achos pan fo paragraff (3), (4) neu (5) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig hysbysu'r person y rhoir y rhan o'r sampl iddo bod y sampl wedi'i brynu neu'i gymryd, fel y bo'n briodol, at ddibenion dadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus.

(7Rhaid i'r swyddog awdurdodedig, oni fydd yn penderfynu peidio â chynnal dadansoddiad, gyflwyno un o'r rhannau sy'n weddill o'r sampl i'w ddadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf a dal gafael yn y rhan arall.

(8Caniateir i unrhyw ran o sampl y mae'n rhaid ei roi o dan y rheoliad hwn i unrhyw berson gael ei roi drwy ei drosglwyddo i'r person hwnnw neu i'w asiant neu drwy ei anfon at y person hwnnw drwy'r post cofrestredig neu drwy wasanaeth dosbarthiad cofnodedig; ond pan na fydd y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymchwilio'n rhesymol, yn gallu canfod enw a chyfeiriad y person y mae'r rhan o'r sampl i'w rhoi iddo, caniateir i'r swyddog, yn hytrach na rhoi'r rhan i'r person hwnnw, ddal gafael ynddi.

(9Os yw'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig bod unrhyw ddŵr, y mae'r swyddog wedi caffael sampl ohono at ddibenion dadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus, wedi cael ei ddatblygu neu'i botelu gan berson (nad yw'n berson y mae'n ofynnol rhoi un rhan o'r sampl iddo yn ôl y rheoliad hwn) y mae ei enw a'i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig yn cael eu harddangos ar y botel neu ar unrhyw gynhwysydd arall, rhaid i'r swyddog, onid yw'r swyddog yn penderfynu peidio â chynnal dadansoddiad, o fewn tri diwrnod o gaffael y sampl anfon hysbysiad at y person hwnnw sy'n ei hysbysu—

(a)bod y sampl wedi'i gaffael gan y swyddog; a

(b)ymhle y cymrwyd y sampl neu, yn ôl y digwydd, gan bwy y'i prynwyd.

(10Pan fydd sampl a gymrwyd neu a brynwyd gan swyddog awdurdodedig wedi cael ei ddadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus, mae gan unrhyw berson y rhoddwyd rhan o'r sampl o dan y rheoliad hwn iddo yr hawl, wrth wneud cais i'r awdurdod bwyd, i gael derbyn copi o'r dystysgrif dadansoddi gan yr awdurdod hwnnw.

Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth

18.—(1Pan fydd rhan o'r sampl wedi ei chadw o dan reoliad 17(7) ac—

(a)y bwriedir codi achos neu fod achos wedi cychwyn yn erbyn person am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)bod yr erlyniad yn bwriadu dangos fel tystiolaeth ganlyniad y dadansoddiad a grybwyllir yn rheoliad 17,

bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

(2O ran y swyddog awdurdodedig—

(a)caiff o'i wirfodd ei hun;

(b)rhaid iddo os gofynnir iddo gan yr erlynydd (os yw hwnnw'n berson gwahanol i'r swyddog awdurdodedig);

(c)rhaid iddo os yw'r llys yn gorchymyn hynny; neu

(d)rhaid iddo (yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os gofynnir iddo gan y diffynnydd,

anfon y rhan o'r sampl y daliwyd gafael ynddi at Gemegydd y Llywodraeth ar gyfer ei dadansoddi.

(3Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonir ato o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif dadansoddi.

(4Rhaid bod unrhyw dystysgrif dadansoddi a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth wedi'i llofnodi gan y Cemegydd neu ar ei ran, ond caniateir i'r dadansoddiad gael ei gynnal gan berson o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.

(5Rhaid i'r swyddog awdurdodedig yn ddiymdroi pan fydd yn derbyn y dystysgrif dadansoddi roi i'r erlynydd (os yw hwnnw'n berson gwahanol i'r swyddog awdurdodedig) ac i'r diffynnydd gopi o'r dystysgrif dadansoddi gan Gemegydd y Llywodraeth.

(6Os gwneir cais o dan baragraff (2)(ch) caniateir i'r swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i dalu rhai neu'r cyfan o dreuliau Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac yn absenoldeb cytundeb gan y diffynnydd i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caniateir i'r swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

(7Yn y rheoliad hwn mae “diffynnydd” yn cynnwys diffynnydd arfaethedig.

Dulliau Dadansoddi

19.  Rhaid defnyddio dulliau dadansoddi sy'n cydsynio ag Erthygl 7.5 o Gyfarwyddeb 98/83 at ddibenion penderfynu p'un a yw dŵr yn bodloni darpariaethau Atodlen 2 ai peidio.

Tramgwyddau a chosbau

20.  Mae person yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw'n mynd yn groes i reoliad 5, 6(1), 7(1), (3), neu (4), 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15 neu 22(3).

Amddiffyniadau

21.—(1Mewn unrhyw achosion o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn mae'n amddiffyniad i'r cyhuddedig ddangos—

(a)bod y dŵr wedi'i botelu a'i farcio neu wedi'i labelu cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; a

(b)na fyddai unrhyw dramgwydd wedi'i gyflawni gan y cyhuddedig o dan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999.

(2Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn os honnir nad yw dŵr yn bodloni'r gofynion ym mharagraff 1(c) o Ran 1 o Atodlen 2, mae'n amddiffyniad i'r person a gyhuddir ddangos—

(a)bod y dŵr o dan sylw wedi'i botelu neu'i werthu mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig; a

(b)bod y dŵr yn cydymffurfio â'r gyfraith yn y Wladwriaeth AEE honno pan gafodd ei botelu neu'i werthu.

Cymhwyso darpariaethau eraill

22.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(f)adran 33(2) gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e)

(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);

(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'u cymhwysir gan is-baragraff (f)

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

(2Mae rheoliad 38 (hawdd ei ddeall) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i unrhyw enw, disgrifiad, mynegiad, gwybodaeth neu eiriad arall y mae'n ofynnol i ddŵr neu y caniateir iddo gan y Rheoliadau hyn gael ei farcio neu'i labelu, fel y mae'n gymwys i fanylion y mae'n ofynnol eu labelu o dan Reoliadau Labelu Bwyd 1996.

(3Ni chaiff neb werthu unrhyw ddŵr y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo os nad yw'r botel y potelwyd ef ynddi wedi'i marcio neu'i labelu yn unol â rheoliad 38 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 fel y'u cymhwysir gan baragraff (2).

Dirymu

23.  Dirymir Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr wedi'i Botelu 1999 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

5 Tachwedd 2007