Search Legislation

Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

RHAN 2Gwybodaeth ynglyn â'ch hawliau

Deddf Cartrefi Symudol 1983

1.  Gan y bydd gennych gytundeb â pherchennog safle fydd yn rhoi'r hawl i chi gadw'ch cartref symudol ar ei safle ac i fyw ynddo fel eich cartref, bydd gennych hawliau penodol o dan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983, yn effeithio'n enwedig ar ddiogelwch eich tenantiaeth, gwerthu'ch cartref a'r adolygiad o ffi'r llain.

Telerau goblygedig

2.  Bydd yr hawliau hyn, sydd wedi'u cynnwys yn y telerau goblygedig a osodir yn Rhan 3 o'r datganiad hwn, yn gymwys yn awtomatig ac ni ellir eu diystyru, cyhyd â bod eich cytundeb yn parhau i fod yn un y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo.

Telerau datganedig

3.  Os nad ydych yn fodlon ar unrhyw un neu fwy o delerau eich cytundeb arfaethedig (fel a osodir yn Rhan 5 o'r datganiad hwn) dylech eu trafod â'r perchennog, a ddichon gytuno i'w newid.

Yr hawl i herio

4.  Os gwnewch y cytundeb ac yna eich bod yn anfodlon â'r telerau datganedig ynddo gellwch eu herio yn y modd a eglurir ym mharagraff 5. Ond rhaid i chi wneud hynny o fewn chwe mis i'r dyddiad y gwnaethoch y cytundeb neu i'r dyddiad y cawsoch y datganiad ysgrifenedig, p'un bynnag yw'r diweddaraf. Os ydych yn dymuno herio'ch cytundeb, efallai y byddech am ymgynghori â chyfreithiwr neu â chanolfan cyngor ar bopeth.

5.  Gellir gwneud her naill ai yn y llys sirol neu gerbron cymrodeddwr. Gellwch—

(a)gofyn i unrhyw delerau datganedig yn y cytundeb (y rheini a osodir yn Rhan 5 o'r datganiad hwn) gael eu newid neu eu dileu; neu

(b)gofyn i delerau pellach gael eu cynnwys yn y cytundeb ynghylch y materion a osodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (gweler paragraff 8).

Gall perchennog y safle hefyd fynd i'r llys neu at gymrodeddwr i ofyn i'r cytundeb gael ei newid yn y ddwy ffordd hyn.

6.  Fe all y bydd un o delerau datganedig y cytundeb yn darparu ar gyfer penodi cymrodeddwr. Oni fydd felly, mae modd o hyd i chi a pherchennog y safle gytuno yn ysgrifenedig i benodi cymrodeddwr i setlo anghydfod rhyngoch.

7.  Rhaid i'r llys neu'r cymrodeddwr wneud gorchymyn ar delerau a ystyrir ganddo ef yn deg ac yn ecwitïol yn yr amgylchiadau.

Telerau pellach

8.  Dyma'r materion a osodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983—

(a)y symiau sy'n daladwy gan y meddiannydd yn unol â'r cytundeb, ac ar ba adegau y maent i'w talu;

(b)yr adolygiad cyfnodol blynyddol o'r symiau taladwy hyn;

(c)darparu neu wella'r gwasanaethau sydd ar gael ar y safle gwarchodedig, a defnydd y meddiannydd ohonynt; ac

(ch)cadwraeth amwynder y safle gwarchodedig.

Terfyn amser

9.  Os nad oes cais wedi ei wneud i'r llys neu i gymrodeddwr o fewn chwe mis o'r dyddiad pan wnaethoch y cytundeb neu o'r dyddiad pan gawsoch y datganiad ysgrifenedig, p'run bynnag yw'r diweddaraf, byddwch chi a pherchennog y safle wedi ymrwymo i delerau'r cytundeb ac ni fydd modd eu newid oni bai bod y ddau ohonoch yn cytuno.

Telerau annheg

10.  Os ydych yn ystyried fod unrhyw un o delerau'r cytundeb arfaethedig (fel a osodir yn Rhan 5 o'r datganiad hwn) yn annheg, gellwch, yn unol â darpariaethau Rheoliadau Telerau Annheg mewn Contractau Defnyddwyr 1999(1), wneud cwyn i'r Swyddfa Masnachu Teg neu unrhyw gorff cymwys(2).

(2)

Am y diffiniad o “qualifying body” gweler O.S. 1999/2083.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources