- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, o ran Cymru, yn cymryd lle Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) 1983, sy'n cael eu dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
Mae adran 1(2) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (“Deddf 1983”) yn darparu bod rhaid i berchennog y safle, cyn gwneud cytundeb y mae adran 1 o Ddeddf 1983 yn gymwys iddo, roi datganiad ysgrifenedig i ddarpar feddiannydd cartref symudol. Mae adran 1 yn gymwys i bob cytundeb sy'n rhoi hawl i berson osod cartref symudol ar safle gwarchodedig ac i'w feddiannu fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa. Caiff “protected site” ei ddiffinio yn adran 5(1) o Ddeddf 1983.
Mae adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983 yn ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad ysgrifenedig;
yn pennu enwau a chyfeiriadau'r partïon;
yn cynnwys manylion am y tir y mae gan ddarpar feddiannydd yr hawl i osod y cartref symudol arno sy'n ddigonol i adnabod y tir hwnnw.
yn gosod y telerau datganedig sydd i'w rhoi yn y cytundeb; ac
yn gosod y telerau sydd yn oblygedig drwy adran 2(1) o Ddeddf 1983.
Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad ysgrifenedig yn cynnwys deunydd sy'n ychwanegol at yr hyn sy'n ofynnol gan adran 1(2)(a) i (d) a'i fod yn y ffurf a osodir yn yr Atodlen. Mae pum Rhan i'r Atodlen:
Mae Rhan 1 yn ymdrin ag enwau a chyfeiriadau'r partïon ac â manylion am y tir, ac â thermau datganedig penodol, sef ffi'r llain, adolygiadau ohono a ffioedd ychwanegol;
Mae Rhan 2 yn cynnwys gwybodaeth ynghylch hawliau'r meddiannydd o dan y cytundeb arfaethedig;
Mae Rhan 3 yn cynnwys y telerau sydd yn oblygedig drwy adran 2(1) o Ddeddf 1983, fel a osodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (fel y'i diwygiwyd gan adran 207 o Ddeddf Tai 2004 (p.34) a Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2007 (O.S.2007/3151 (Cy.268));
Mae Rhan 4 yn cynnwys y darpariaethau atodol sy'n berthnasol i gymeradwyaeth perchennog safle o ddarpar brynwr y cartref symudol neu o'r aelod o'r teulu y mae'r cartref symudol yn mynd i gael ei roi iddo fel a osodir yn Rhan 3 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983;
Mae Rhan 5 ar gyfer unrhyw delerau datganedig eraill yn y cytundeb.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â datganiadau ysgrifenedig a roddir ar ôl 30 Tachwedd 2007 ynghylch safleoedd gwarchodedig yng Nghymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: