- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran pob datganiad ysgrifenedig a roddir ar ôl 30 Tachwedd 2007 ynghylch cytundeb—
(a)i osod cartref symudol(1) ar safle gwarchodedig(2), a
(b)y bydd Deddf Cartrefi Symudol 1983 yn gymwys iddo.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol 1983;
ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw'r datganiad ysgrifenedig y mae'n ofynnol gan adran 1(2) o Ddeddf 1983 i berchennog safle gwarchodedig ei roi i'r darpar feddiannydd.
3. Y gofynion y mae'n rhaid i ddatganiad ysgrifenedig gydymffurfio â hwy at ddibenion adran 1(2) o Ddeddf 1983 (yn ychwanegol at ofynion adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983); yw—
(a)bod rhaid iddo gynnwys—
(i)y nodyn sy'n rhagflaenu Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, a
(ii)y manylion a grybwyllir yn Rhan 1 o'r Atodlen honno (i'r graddau nad ydynt yn ofynnol gan adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983) a Rhannau 2 a 4 o'r Atodlen honno; a
(b)y bydd yn y ffurf a geir yn yr Atodlen honno neu mewn ffurf sylweddol debyg ei heffaith.
4. Dirymir Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) 1983(3) o ran Cymru.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
5 Tachwedd 2007
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: