Search Legislation

Gorchymyn Deddf Safleoedd Carafanau 1968 (Diwygio) (Cymru) 2007

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3163 (Cy.274)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safleoedd Carafanau 1968 (Diwygio) (Cymru) 2007

Gwnaed

5 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 13(3) o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) ac wedi ymgynghori â phersonau neu â chyrff yr ymddengys i'r Gweinidogion eu bod yn rhai cysylltiedig yn unol ag adran 13(3) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safleoedd Carafanau 1968 (Diwygio) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2007.

(2Mae'r diwygiadau a wneir gan erthygl 2 yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r diffiniad o “caravan” at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960(3)

2.  Diwygir isadran (2) o adran 13 o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968 (“twin unit caravans”) fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (a) yn lle “60” a “18.288” rhodder “65.616” a “20” yn eu trefn;

(b)ym mharagraff (b) yn lle “20” a “6.096” rhodder “22.309” a “6.8” yn eu trefn; ac

(c)ym mharagraff (c) yn lle “10” a “3.048” rhodder “10.006” a “3.05” yn eu trefn.

Jocelyn Davies

O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

5 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r diffiniad o “caravan” yn adran 13(2) o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968 (“Deddf 1968”)

Mae adran 13 (“twin-unit caravans”) o Ddeddf 1968 yn eithrio o'r diffiniad o “caravan” yn Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 strwythurau dwy-uned a ddylunwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddynt sy'n cynnwys dim mwy na dwy adran a adeiladwyd ar wahân ac a ddylunwyd i gael eu rhoi at ei gilydd ar y safle gyda bolltau, clampiau neu ddyfeisiadau tebyg, ac y mae modd, pan fyddant wedi cael eu rhoi wrth ei gilydd, eu symud yn ffisegol ar hyd y ffordd o un man i fan arall ac sydd â'u mesuriadau yn mynd y tu hwnt i fesuriadau penodedig. Mae gan Weinidogion Cymru y pwer i wneud gorchymyn sy'n pennu mesuriadau gwahanol i'r rhai hynny a osodir yn Neddf 1968.

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn rhoi, yn lle'r mesuriadau a geir yn adran 13(2) o Ddeddf 1968, fesuriadau sy'n fwy na'r rhai hynny.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Gyfarwyddiaeth Dai, Uned y Sector Preifat, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729181) neu HousingDirectorate@wales.gsi.gov.uk.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geir yn Neddf Safleoedd Carafanau 1968 o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672 erthygl 2, Atodlen 1). Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (c. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources