Search Legislation

Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Diwygio) 2007

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 316 (Cy.30)

COMISIYNYDD PLANT, CYMRU

Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

6 Chwefror 2007

Yn dod i rym

9 Chwefror 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 74(2) (d) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

“y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Plant Cymru.

“y cyfnod cychwynnol” (“the initial period”) yw y cyfnod cychwynnol fel y'i diffinir yn adran 161(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

“y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.

Diwygiadau i Reoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001

3.—(1Diwygir Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001(2) yn unol â'r darpariaethau a ganlyn o'r rheoliad hwn.

(2Yn dilyn dod i ben y cyfnod cychwynnol, ar gyfer y dehongliad o “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) rhodder y diffiniad canlynol:—

ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a benodir o dro i dro fel Prif Weinidog Cymru o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3Diwygier rheoliad 13 fel a ganlyn —

(a) Ar ôl rheoliad 13(2), ychwaneger—

(2A) Os bydd y Comisiynydd a'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru yn cyflawni eu priod swyddogaethau o dan y Ddeddf ac o dan Ddeddf Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn (Cymru) 2006(3) ynghylch yr un mater caiff y Comisiynydd lunio adroddiad ar y cyd â'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru.

(b)Yn rheoliad 13(3), yn lle “(1) neu (2)” rhodder “(1), (2) neu (2A).”

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Chwefror 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan VI o Reoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 sy'n gwneud darpariaeth parthed swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru (“y Comisiynydd”).

Mae Rhan VI o Reoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 yn darparu ar gyfer gwneud adroddiadau penodol gan y Comisiynydd.

Diwygir Rhan VI er mwyn caniatáu, pan fo'r Comisiynydd a'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â'r un mater, i'r Comisiynydd a'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru lunio adroddiad ar y cyd. Ceir darpariaeth debyg yn Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 2007.

Yn ogystal mae'r rheoliadau hyn yn diwygio y diffiniad o'r Prif Weinidog yn y Rheoliadau yn union ar ôl terfyn y Cyfnod Cychwynnol a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, fel y diffinir y Prif Weinidog fel y Prif Weinidog a apwyntir o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae Arfarniad Rheoliadol ar effaith posibl y rheoliadau hyn ar gost busnes wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources