xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3153 (Cy.269)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2007

Gwnaed

4 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2007.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dyddiad prisio

2.  1 Ebrill 2008 yw'r diwrnod a bennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 (Prisio ar gyfer ardrethu annomestig) i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y diwrnod y mae'n rhaid cyfeirio ato i benderfynu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion rhestrau ardrethol annomestig lleol a chanolog sydd i'w llunio ar gyfer Cymru ar 1 Ebrill 2010.

Dirymu

3.  Dirymir Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002(2) i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru.

4 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Yn rhinwedd adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 Rhan III, rhaid i restrau ardrethu annomestig gael eu llunio ar 1 Ebrill ym mhob pumed flwyddyn ar ôl 1990.

At ddibenion llunio rhestr o'r fath mae gwerth ardrethol hereditament annomestig i gael ei benderfynu ar y diwrnod y mae'n rhaid llunio'r rhestr neu ar unrhyw ddiwrnod cyn y diwrnod hwnnw a bennir drwy orchymyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2008 fel y diwrnod y mae'n rhaid cyfeirio ato i benderfynu gwerth ardrethol hereditament annomestig at ddibenion rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog sydd i'w llunio ar 1 Ebrill 2010.

Mae erthygl 3 yn dirymu Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002.

(1)

1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru.