Search Legislation

Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2007

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 315 (Cy.29)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

6 Chwefror 2007

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16BB a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, rhychwantu a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw “Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2007”.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2007.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (2).

Diwygio'r Prif Reoliadau

2.—(1Yn rheoliad 2(1) o'r Prif Reoliadau mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(3);.

ystyr “gofal parhaus” (“continuing care”) yw gofal a ddarperir dros gyfnod estynedig o amser i berson er mwyn bodloni anghenion iechyd corfforol neu feddyliol sydd wedi digwydd o ganlyniad i salwch;;

  • mae i “gwasanaethau offthalmig cyffredinol” yr ystyr sydd i “general ophthalmic services” yn adran 38(7) o'r Ddeddf(4);;

  • mae i “gwasanaethau fferyllol” yr ystyr sydd i “pharmaceutical services” yn adran 41(2) o'r Ddeddf(5);;

  • mae i “gwasanaethau deintyddol sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary dental services” yn adran 16CA o'r Ddeddf(6);;

  • mae i “gwasanaethau meddygol sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary medical services” yn adran 16CC o'r Ddeddf(7);;

(2Yn rheoliad 2(2) o'r Prif Reoliadau, ar ôl y geiriau “at ddibenion y Rheoliadau hyn,” mewnosoder y geiriau “ac yn ddarostyngedig i reoliad 2A,”.

(3Ar ôl rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau, mewnosoder y rheoliad a ganlyn—

2A.(1) Mae Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol yn parhau i fod yn gyfrifol am y personau a bennir ym mharagraff (3) isod a fu'n preswylio fel arfer yn yr ardal y sefydlwyd ef ar ei chyfer, yn yr amgylchiadau a osodir ym mharagraff (2).

(2) Dyma'r amgylchiadau—

(a)ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2007

(i)mae'r Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol wedi gwneud trefniant wrth arfer ei swyddogaethau; neu

(ii)mae awdurdod lleol(8) wedi gwneud trefniant

y mae person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo yn cael gwasanaethau sy'n golygu neu sy'n cynnwys y ddarpariaeth o lety a leolir yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol arall; a

(b)mae'r person drwy hynny'n byw yn y llety.

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys

(a)i berson sydd o dan 18 oed, a

(i)mae'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22(1) o Ddeddf 1989;

(ii)mae'n blentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A o Ddeddf 1989;

(iii)mae'n gymwys i gael cyngor a chymorth o dan adran 24(1A) neu adran 24(1B) o Ddeddf 1989;

(iv)mae wedi cael ei leoli mewn ysgol yn unol â datganiad o achos anghenion addysgol arbennig a wnaed o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996(9) sy'n enwi'r ysgol; neu

(v)mae angen llety arno i fodloni anghenion gofal parhaus;

a

(b)i berson o dan 21 oed a oedd yn union cyn ei ben-blwydd yn ddeunaw oed, yn berson a oedd yn dod o fewn un o is-gategorïau is-baragraff (a).

(4) Nid yw cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol o dan y rheoliad hwn yn ymestyn ei swyddogaethau o ran gwasanaethau meddygol sylfaenol, deintyddol sylfaenol, fferyllol ac offthalmig cyffredinol.

(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol” yw Bwrdd Iechyd Lleol a wnaeth y trefniant o dan is-baragraff 2A(2)(a)(i) neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cyfateb i ardal ddaearyddol yr awdurdod lleol a wnaeth y trefniant o dan is-baragraff 2A(2)(a)(ii).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Chwefror 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 er mwyn ymestyn y categori o bobl y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol (“BILl”) yn gyfrifol amdano fel comisiynydd gwasanaethau (ac o'r herwydd yn gyllidwr gwasanaethau hefyd).

Effaith y diwygiadau i'r Prif Reoliadau yw cynnal cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Lleol dros blant mewn categorïau penodol sy'n dod o'r ardal ond sydd wedyn yn cael eu lleoli y tu allan i'r ardal ac a fyddent fel arall yn dod yn gyfrifoldeb i BILl arall yn rhinwedd y ffaith eu bod “yn preswylio fel arfer” yn yr ardal honno.

Y plant sydd o dan sylw yw plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, y rhai sy'n gadael gofal awdurdod lleol, plant sy'n preswylio mewn ysgol a enwir yn eu datganiad o achos anghenion addysgol arbennig a phlant sydd ag anghenion iechyd sy'n parhau ac sydd, am unrhyw un neu rai o'r rhesymau hynny, yn cael eu lleoli y tu allan i'w hardal.

(1)

1977 p.49. Mewnosodir adran 16BB gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.

(4)

Ailddeddfir adran 38(7) o'r Ddeddf fel adran 71(10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(5)

Ailddeddfir adran 41(2) o'r Ddeddf fel adran 80(8) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(6)

Ailddeddfir adran 16CA o'r Ddeddf fel adran 56 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(7)

Ailddeddfir adran 16CC o'r Ddeddf fel adran 41 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(8)

Diffinnir “awdurdod lleol” yn adran 128 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 p. 49.

(10)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources