- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
5.—(1) Yr ystyriaethau y mae'r awdurdod cyfrifol i roi sylw iddynt i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol wrth wneud y trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 ym mhob achos yw'r ystyriaethau cyffredinol a bennir yn Atodlen 1, yr ystyriaethau ynghylch iechyd y plentyn a bennir yn Atodlen 2, yr ystyriaethau ynghylch addysg plentyn a bennir yn Atodlen 3 a'r ystyriaethau ym mharagraff (2) i (5).
(2) Pan fo awdurdod cyfrifol yn ystyried lleoli plentyn y tu allan i'r ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer rhaid iddo gyfeirio achos y plentyn at banel—
(a)cyn gwneud y lleoliad; neu
(b)pan nad yw'n ymarferol cyfeirio'r achos at banel cyn gwneud y lleoliad, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl hynny a sut bynnag heb fod yn hwyrach na 25 o ddiwrnodau gwaith wedi i'r lleoliad gael ei wneud.
(3) Pan na chyfeirir achos plentyn y mae paragraff (2) yn gymwys iddo gan yr awdurdod cyfrifol at banel cyn gwneud y lleoliad, rhaid i'r awdurdod cyfrifol ddarparu rhesymau ysgrifenedig, wedi'u hardystio gan uwch swyddog yr awdurdod cyfrifol, dros beidio â gwneud hynny.
(4) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol beidio â lleoli plentyn y tu allan i'r ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ynddi oni bai ei fod wedi'i fodloni naill ai—
(a)nad oes lleoliad ar gael yn yr ardal honno sy'n gallu diwallu anghenion y plentyn; neu
(b)y byddai lleoliad y tu allan i'r ardal honno yn fwy cydnaws â lles y plentyn nag unrhyw leoliad sydd ar gael o fewn yr ardal honno.
(5) Rhaid i unrhyw benderfyniad i leoli plentyn y tu allan i'r ardal y mae'n preswylio ynddi fel arfer, gyda rhesymau drosto, gael ei gofnodi'n ysgrifenedig a bod wedi ei ardystio gan uwch swyddog o'r awdurdod cyfrifol.
(6) Rhaid i gofnod ysgrifenedig a wneir yn unol â pharagraff (3) neu (5) fod ar gael ar ffurf addas—
(a)pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol, i'r aelod arweiniol dros wasanaethau plant o fewn yr awdurdod hwnnw; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, i uwch swyddog o'r awdurdod lleol dros yr ardal lle mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ac i uwch swyddog o'r awdurdod ardal.
(7) Pan fo awdurdod cyfrifol yn gwneud trefniadau i leoli plentyn y tu allan i Gymru rhaid iddo sicrhau, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, fod yna gydymffurfiaeth â'r gofynion a fuasai wedi bod yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn petai'r plentyn wedi cael ei leoli yng Nghymru.
(8) Ac eithrio mewn achos gofal, rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 gynnwys, pan fo hynny'n ymarferol, drefniadau ynghylch y materion a bennir yn Atodlen 4.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: