- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “achos gofal” (“care case”) yw achos pan fo'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac yn ddarostyngedig i orchymyn gofal, ac mae'n cynnwys gorchymyn gofal dros dro;
ystyr “yr ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer” (“the area in which the child is ordinarily resident”) yw ardal yr awdurdod lleol lle mae cartref y plentyn;
ystyr “awdurdod ardal” (“area authority”) mewn perthynas â phlentyn sy'n cael ei leoli neu sydd i gael ei leoli gan un awdurdod lleol, yw yr awdurdod lleol y mae'r plentyn i gael ei leoli yn ei ardal;
ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw—
mewn perthynas â lleoliad gan awdurdod lleol (gan gynnwys un pan fo'r plentyn yn cael llety a chynhaliaeth mewn cartref gwirfoddol neu gartref preifat i blant), yw yr awdurdod lleol sy'n lleoli'r plentyn,
mewn perthynas â lleoliad gan gorff gwirfoddol o blentyn nad yw'n derbyn gofal awdurdod lleol, y corff gwirfoddol sy'n lleoli'r plentyn, ac
mewn perthynas â lleoliad mewn cartref preifat i blant o blentyn nad yw naill ai'n derbyn gofal awdurdod lleol nac wedi'i letya mewn cartref o'r fath gan gorff gwirfoddol, y person sy'n cadw'r cartref;
ystyr “darparydd gofal iechyd” (“health care provider”) yn achos lleoliad yng Nghymru, yw bwrdd iechyd lleol, neu yn achos lleoliad yn Lloegr, ymddiriedolaeth gofal sylfaenol, ac yn y naill achos neu'r llall, pan yn briodol ymddiriedolaeth gwasanaeth iechyd gwladol ac mewn unrhyw achos arall, y corff cyfatebol yn y wlad lle mae'r plentyn i gael ei leoli;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;
ystyr “gweithiwr dolen gyswllt” (“link worker”) yw aelod o staff cartref i blant o safle uwch priodol gyda chyfrifoldeb penodol dros ddiogelu a hybu iechyd a lles addysgol plentyn unigol a thros gyd-gysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw;
ystyr “lleoliad” (“placement”) yn ddarostyngedig i reoliad 14 yw—
darparu llety a chynhaliaeth gan awdurdod lleol i unrhyw blentyn sy'n derbyn ei ofal drwy unrhyw un o'r dulliau a bennir yn adran 23(2)(a), (aa) neu (f) o'r Ddeddf (llety a chynhaliaeth plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol);
darparu llety i blentyn gan gorff gwirfoddol drwy unrhyw un o'r dulliau a bennir yn adran 59(1)(a), (aa) neu (f) o'r Ddeddf (darparu llety gan gyrff gwirfoddol), ac
darparu llety i blentyn mewn cartref preifat i blant,
a rhaid dehongli'r ymadroddion “lleoli” (“place”) ac “wedi'i leoli” (“placed”) yn unol â hynny;
ystyr “nyrs gofrestredig” (“regisrered nurse”) yw person a gofrestrwyd gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(1);
ystyr “panel” (“panel”) yw panel o gynrychiolwyr o'r fath asiantaethiau ag a ddichon gynorthwyo awdurdod cyfrifol wrth gynllunio lleoliad plentyn ac wrth gyfarfod anghenion y plentyn hwnnw yn ystod cyfnod y lleoliad;
ystyr “wedi'i leoli i'w fabwysiadu” (“placed for adoption”) yw wedi'i leoli yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2) neu, os yw'n gymwys, â Deddf Mabwysiadu 1976(3);
ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymareferydd meddygol cofrestredig—
sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(4)
sy'n ymgymryd â gwasanaethau meddygol personol sy'n gysylltiedig â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Cychwynnol) 1977(5); neu
sy'n darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Rhan II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol 1977, ac eithrio'n unol â'r Ddeddf honno;
ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person wedi'i gofrestru'n llawn o fewn ystyr Deddf Feddygol 1983(6).
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
(a)mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw;
(b)mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: