xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 5
1. Rhaid i unrhyw gytiau neu gewyll y cedwir cwningod ynddynt—
(a)bod o faint digonol i ganiatáu i'r cwningod symud o gwmpas ac i fwyta ac yfed yn ddidrafferth, ac i ganiatáu iddynt i gyd orwedd ar eu hochrau yr un pryd; a
(b)o uchder digonol i ganiatáu i'r cwningod eistedd yn gefnsyth ar eu pedwar troed heb i'w clustiau gyffwrdd â nenfwd y cwt neu'r cawell.
2. Pan gedwir cwningod mewn llety sy'n agored i'r tywydd, rhaid cymryd camau priodol i sicrhau bod lle iddynt gysgodi rhag y tywydd, gan gynnwys cysgod rhag golau uniongyrchol yr haul.