ATODLEN 8Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw moch

RHAN 4Hychod a Banwesod

22.  Rhaid rhoi triniaeth i hychod torrog a banwesod, os bydd angen, rhag parasitiaid allanol a mewnol.

Porchella

23.  Rhaid glanhau hychod torrog a banwesod yn drylwyr cyn eu rhoi mewn cratiau porchella.

24.  Yn yr wythnos cyn yr adeg y disgwylir iddynt borchella rhaid rhoi digon o ddeunydd nythu addas i hychod a banwesod onid yw hynny'n annichonadwy yn dechnegol oherwydd y system slyri a ddefnyddir.

25.  Yn ystod y porchella, rhaid cael lle dirwystr y tu ôl i'r hwch neu'r fanwes i hwyluso porchella yn naturiol neu gyda chymorth.

26.  Mewn corlannau porchella lle cedwir hychod neu fanwesod yn rhydd, rhaid cael rhyw fodd i amddiffyn y perchyll, megis rheiliau porchella.

Lletya mewn grwpiau

27.  Rhaid cadw hychod a banwesod mewn grwpiau ac eithrio yn ystod y cyfnod rhwng saith diwrnod cyn y diwrnod porchella disgwyliedig a'r diwrnod y cwblheir diddyfnu'r perchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll sy'n cael eu maethu).

28.  Rhaid i hyd ochrau'r gorlan lle y cedwir y grwp fod yn fwy na 2.8 m, ac eithrio pan fo'r grwp yn cynnwys chwe unigolyn neu lai, ac os felly rhaid i hyd ochrau'r gorlan beidio â bod yn llai na 2.4 m.

29.  Pan gedwir banwesod a/neu hychod mewn grwpiau, rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob banwes ar ôl serfio ac i bob hwch, yn eu trefn, fod yn 1.64 m2 o leiaf a 2.25 m2 o leiaf. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o chwe unigolyn neu lai, rhaid cynyddu yr arwynebedd llawr dirwystr 10%. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o 40 neu ragor o unigolion, caniateir lleihau yr arwynebedd llawr dirwystr 10%.

30.  Ar gyfer banwesod ar ôl serfio a hychod torrog, rhaid i ran o'r arwynebedd sy'n ofynnol o dan baragraff 29, ac yn hafal i 0.95 m2 o leiaf am bob banwes ac 1.3 m2 o leiaf am bob hwch, fod yn llawr solet di-dor sydd ag uchafswm o 15% ohono wedi ei neilltuo ar gyfer agoriadau draenio.

31.  Ar ddaliadau o 10 hwch neu lai, caniateir cadw hychod a banwesod yn unigol, ar yr amod bod eu llety yn cydymffurfio â gofynion paragraffau 5 a 6 o'r Atodlen hon.

32.  Yn ychwanegol at ofynion paragraff 13 o'r Atodlen hon, rhaid i hychod a banwesod gael eu bwydo trwy ddefnyddio system sy'n sicrhau y gall pob unigolyn gael digon o fwyd hyd yn oed pan fo cystadleuwyr am y bwyd yn bresennol.

33.  Rhaid rhoi cyflenwad digonol o swmpfwyd neu fwyd ffibr uchel yn ogystal â bwyd ynni uchel i bob hwch dorrog hesb a banwes, i fodloni eu chwant bwyd a'u hangen i gnoi.