- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2. Rhaid i bob mochyn gael ei archwilio gan y perchennog neu berson arall sy'n gyfrifol am y moch o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.
3. Ni chaiff unrhyw berson sy'n gyfrifol am fochyn roi tennyn na pheri rhoi tennyn arno ac eithrio pan fo o dan archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at unrhyw ddiben milfeddygol.
4.—(1) Pan ganiateir defnyddio tenynnau yn unol â pharagraff 3, rhaid iddynt beidio â pheri anaf i'r moch a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'i haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.
(2) Rhaid i bob tennyn fod yn ddigon hir i ganiatáu i'r moch symud fel y nodir ym mharagraff 5(2)(a) a (d) a rhaid i'r dyluniad fod yn gyfryw fel y bydd yn osgoi, cyn belled â phosibl, unrhyw risg o dagu, poen neu anaf.
5.—(1) Rhaid i bob mochyn fod yn rhydd i droi o amgylch heb anhawster bob amser.
(2) Rhaid i'r llety a ddefnyddir ar gyfer moch gael ei adeiladu yn y fath fodd ag i ganiatáu i bob mochyn —
(a)sefyll, gorwedd a gorffwyso heb anhawster;
(b)cael lle y gall orffwyso ynddo sy'n lân, yn gysurus ac wedi ei ddraenio'n ddigonol;
(c)gweld moch eraill, ac eithrio—
(i)pan fo'r mochyn wedi'i ynysu am resymau milfeddygol; neu
(ii)yn ystod yr wythnos cyn yr amser porchella disgwyliedig ac yn ystod porchella, pan ganiateir cadw hychod a banwesod o olwg moch eraill;
(ch)cynnal tymheredd cysurus; a
(d)cael digon o le fel y gall yr holl anifeiliaid orwedd ar yr un pryd.
6.—(1) Rhaid i ddimensiynau unrhyw gôr neu gorlan fod yn gyfryw fel nad yw'r arwynebedd mewnol yn llai na hyd y mochyn wedi ei sgwario, ac nad yw unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, ac ymhob achos mesurir hyd y mochyn o flaen ei drwyn hyd at fôn ei gynffon tra bo'n sefyll â'i gefn yn syth.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn benyw am y cyfnod sy'n cychwyn saith diwrnod cyn y diwrnod y disgwylir iddi borchella ac yn diweddu pan fydd diddyfnu ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll a faethir ganddi), wedi'i gwblhau.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan—
(a)tra bo o dan unrhyw archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at ddibenion milfeddygol;
(b)at ddibenion serfio, ffrwythloni artiffisial neu gasglu semen;
(c)tra bo'n cael ei fwydo ar unrhyw achlysur arbennig;
(ch)at ddibenion ei farcio, ei olchi neu ei bwyso;
(d)tra bo'i lety yn cael ei lanhau; neu
(dd)tra bo'n aros i'w lwytho ar gyfer ei gludo,
ar yr amod nad yw'r cyfnod y cedwir y mochyn felly yn hwy nag y bo'i angen at y diben hwnnw.
(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan y gall y mochyn fynd i mewn iddo neu ei adael fel y myn, ar yr amod yr eir i mewn i'r cyfryw gôr neu gorlan o gôr neu gorlan y cedwir y mochyn ynddo heb fynd yn groes i'r paragraff hwn.
7. Pan gedwir moch mewn adeilad â golau artiffisial, yna, rhaid darparu golau o ddwyster 40 lux o leiaf am gyfnod o 8 awr y dydd o leiaf, yn ddarostyngedig i baragraff 16 o Atodlen 1.
8.—(1) Os cedwir moch gyda'i gilydd, rhaid cymryd mesurau i atal ymladd sy'n mynd y tu hwnt i ymddygiad normal.
(2) Rhaid i foch sy'n dangos eu bod yn gyson ymosodol tuag at eraill neu'n dioddef ymosodiadau o'r fath gael eu gwahanu oddi wrth y grwp.
9.—(1) Rhaid i adeiladau, corlannau, cyfarpar a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer moch gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir mor aml ag y bo angen i atal traws-heintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.
(2) Rhaid i ysgarthion, wrin a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael ei symud mor aml ag y bo angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.
10. Pan ddarperir gwasarn, rhaid iddo fod yn lân, yn sych a heb fod yn niweidiol i'r moch.
11. Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid i'r lloriau—
(a)fod yn llyfn heb fod yn llithrig;
(b)gael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal fel na fyddant yn peri anaf na dioddefaint i'r moch wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;
(c)fod yn addas ar gyfer maint a phwysau'r moch; ac
(ch)os na ddarperir llaesodr, ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.
12.—(1) Pan ddefnyddir lloriau estyll concrit ar gyfer moch a gedwir mewn grwpiau, rhaid i led uchaf yr agoriadau fod yn —
(a)11 mm ar gyfer perchyll;
(b)14 mm ar gyfer perchyll diddwyn;
(c)18 mm ar gyfer moch magu; ac
(ch)20 mm ar gyfer banwesod ar ôl eu serfio a hychod.
(2) Rhaid i led isaf yr estyll fod yn—
(a)50 mm ar gyfer perchyll a pherchyll diddwyn; a
(b)80 mm ar gyfer moch magu, banwesod ar ôl serfio a hychod.
13.—(1) Rhaid bwydo pob mochyn o leiaf unwaith y dydd.
(2) Pan letyir grwp o foch heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan na fwydir hwy trwy system fwydo awtomatig sy'n bwydo'r anifeiliaid yn unigol, rhaid bod modd i bob mochyn fynd at y bwyd yr un pryd â'r lleill sydd yn y grwp bwydo.
14. Rhaid bod modd parhaol i bob mochyn dros ddwy wythnos oed gael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres.
15. Er mwyn galluogi gweithgarwch chwilota a thrin pethau yn briodol, rhaid bod modd parhaol i bob mochyn fynd at gyflenwad digonol o ddeunyddiau megis gwellt, gwair, pren, blawd llif, compost madarch, mawn neu gymysgedd o ddeunyddiau o'r fath nad ydynt yn andwyol i iechyd yr anifeiliaid.
16. Rhaid peidio â chadw moch mewn amgylchedd lle y cynhelir tymereddau a lleithder uchel (a adwaenir fel y “system blwch-chwysu”).
17. Rhaid peidio â rhoi moch mewn sefyllfa lle y maent yn agored i swn cyson neu sydyn.
18. Rhaid osgoi lefelau swn uwchlaw 85 dBA yn y rhan o unrhyw adeilad lle y cedwir moch.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: