xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 4

ATODLEN 1Amodau cyffredinol y mae'n rhaid cadw anifeiliaid a ffermir odanynt

Staffio

1.  Rhaid i anifeiliaid gael gofal gan nifer digonol o staff sy'n meddu ar y gallu, yr wybodaeth a'r hyfedredd proffesiynol priodol.

Arolygu

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle mae eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio unwaith y dydd o leiaf, i wirio eu bod mewn cyflwr o lesiant.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle nad yw eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio ar ysbeidiau digonol i osgoi unrhyw ddioddefaint.

(3Yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau a ganlyn—

(a)yn achos ieir dodwy, paragraff 1 o Atodlen 5;

(b)yn achos lloi, paragraff 2 neu 3 o Atodlen 6; ac

(c)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 8.

3.  Pan gedwir anifeiliaid mewn adeilad rhaid bod digon o oleuadau (naill ai sefydlog neu symudol) i'w galluogi i gael eu harchwilio'n drwyadl ar unrhyw adeg.

4.  Pan gedwir unrhyw anifeiliaid (heblaw dofednod) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd naill ai â gwasarn sych wedi'i gynnal yn dda neu sydd wedi'i draenio'n dda.

5.  Rhaid gofalu yn briodol ac yn ddi-oed am unrhyw anifeiliaid sy'n ymddangos yn sâl neu wedi eu hanafu; pan nad ydynt yn ymateb i'r cyfryw ofal, rhaid cael cyngor milfeddygol cyn gynted ag y bo modd.

6.  Pan fo'n angenrheidiol, rhaid ynysu anifeiliaid sâl neu anafus mewn llety addas, gyda gwasarn cysurus a sych pan fo'n briodol.

Cadw cofnodion

7.  Rhaid cadw cofnod —

(a)o unrhyw driniaeth feddyginiaethol a roddir i anifeiliaid; a

(b)o'r nifer o farwolaethau a ganfyddir ymhob archwiliad o'r anifeiliaid a gyflawnir yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol —

(i)yn achos ieir dodwy, paragraff 1 o Atodlen 5;

(ii)yn achos lloi, paragraff 2 neu 3 o Atodlen 6; neu

(iii)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 8; neu

(iv)mewn unrhyw achos arall, paragraff 2(1) neu (2) o'r Atodlen hon.

8.  Rhaid cadw'r cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 7 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o'r dyddiad pan roddwyd y driniaeth feddyginiaethol, neu ddyddiad yr archwiliad, a rhaid ei roi ar gael i arolygydd os gofynnir amdano.

Rhyddid i symud

9.  Gan roi sylw i'w rhywogaeth ac yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol, rhaid peidio â chyfyngu ar ryddid anifeiliaid i symud mewn unrhyw ffordd a fydd yn peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

10.  Pan fo anifeiliaid yn cael eu clymu neu eu caethiwo yn ddi-dor neu'n rheolaidd, rhaid caniatáu lle priodol iddynt ar gyfer eu hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.

Adeiladau a llety

11.  Rhaid i'r defnyddiau a ddefnyddir ar gyfer adeiladu llety, ac, yn benodol ar gyfer adeiladu corlannau, cewyll, corau ac offer y gall yr anifeiliaid ddod i gyffyrddiad ag ef, beidio â bod yn niweidiol i'r anifeiliaid a rhaid bod modd eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr.

12.  Rhaid i'r llety a'r ffitiadau a ddefnyddir i ddiogelu'r anifeiliaid fod wedi eu hadeiladu a'u cynnal fel nad oes unrhyw ymylon nac allwthiadau miniog sy'n debygol o achosi anaf i anifail.

13.  Rhaid cadw cylchrediad yr aer, lefelau llwch, tymheredd, lleithder cymharol yr aer a chrynodiadau nwy o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i'r anifeiliaid.

14.  Rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau beidio â chael eu cadw mewn tywyllwch parhaol.

15.  Pan nad yw'r golau naturiol sydd ar gael mewn adeilad yn ddigonol i ddiwallu anghenion ffisiolegol ac etholegol unrhyw anifeiliaid a gedwir ynddo, rhaid darparu golau artiffisial priodol.

16.  Rhaid peidio â chadw anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau heb gyfnod priodol o orffwys rhag olau artiffisial.

Anifeiliaid na chedwir mohonynt mewn adeiladau

17.  Pan na chedwir anifeiliaid mewn adeiladau, rhaid eu hamddiffyn pan fo angen a phan fo'n bosibl rhag tywydd gwael, ysglyfaethwyr a risgiau i'w hiechyd, a rhaid iddynt gael cyfle bob amser i fynd i fan gorwedd sydd wedi'i draenio'n dda.

Offer awtomatig neu fecanyddol

18.  Rhaid i bob offer awtomataidd neu fecanyddol sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant yr anifeiliaid gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg arno.

19.  Pan ganfyddir diffygion mewn offer awtomataidd neu fecanyddol o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 18, rhaid eu cywiro ar unwaith, neu os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cymryd camau priodol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid tra disgwylir i'r diffygion hynny gael eu cywiro, gan gynnwys defnyddio dulliau amgen o fwydo a dyfrio a dulliau amgen o ddarparu a chynnal amgylchedd boddhaol.

20.  Pan fo iechyd a llesiant yr anifeiliaid yn ddibynnol ar system awyru artiffisial —

(a)rhaid darparu system briodol wrth gefn i warantu y gellir adnewyddu'r aer yn ddigonol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid pe digwyddai i'r system fethu; a

(b)rhaid darparu system larwm (a fydd yn gweithredu hyd yn oed os bydd y prif gyflenwad trydan yn methu) i rybuddio am unrhyw fethiant yn y system.

21.  Rhaid i'r system wrth gefn y cyfeirir ati ym mharagraff 20(a) gael ei harchwilio'n drwyadl a rhaid i'r system larwm y cyfeirir ati ym mharagraff 20(b) gael ei phrofi o leiaf unwaith bob saith diwrnod er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg ar y system, ac os canfyddir unrhyw ddiffyg ar unrhyw adeg, rhaid ei gywiro ar unwaith.

Bwyd anifeiliaid, dwr a sylweddau eraill

22.  Rhaid i anifeiliaid gael eu bwydo â deiet iachusol sy'n briodol i'w hoedran a'u rhywogaeth ac a fwydir iddynt mewn cyflenwad digonol i'w cynnal mewn iechyd da, i ddiwallu eu hanghenion maethol a hybu cyflwr cadarnhaol o lesiant.

23.  Rhaid peidio â darparu i anifeiliaid fwyd neu hylif sy'n cynnwys unrhyw sylwedd a allai beri dioddefaint neu anaf diangen iddynt, a rhaid darparu bwyd a hylif ar eu cyfer mewn modd nad yw'n peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

24.  Rhaid i bob anifail gael y cyfle i fynd at fwyd ar adegau sy'n briodol i'w anghenion ffisiolegol, (ac o leiaf unwaith y dydd beth bynnag), ac eithrio pan fo milfeddyg wrth arfer ei broffesiwn yn cyfarwyddo fel arall.

25.  Rhaid i bob anifail gael cyfle naill ai i fynd at gyflenwad addas o ddwr a chael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres bob dydd, neu allu diwallu ei angen i yfed digon o hylifau trwy ddulliau eraill.

26.  Rhaid i offer bwydo a dyfrio gael ei ddylunio, ei adeiladu, ei osod a'i gynnal fel bod difwyno bwyd a dwr ac effeithiau niweidiol cystadlu rhwng anifeiliaid yn cael eu cadw i'r lleiaf posibl.

27.—(1Ni chaniateir rhoi i anifeiliaid unrhyw sylwedd arall, ac eithrio rhai a roddir at ddibenion therapiwtig neu broffylactig neu at ddibenion triniaeth söotechnegol, oni ddangoswyd mewn astudiaethau gwyddonol ar les anifeiliaid neu trwy ymarfer sefydledig nad yw effaith y sylwedd hwnnw yn niweidiol i iechyd neu les yr anifeiliaid.

(2Yn is-baragraff (1), mae i'r ymadrodd “triniaeth söotechnegol” yr ystyr a roddir i “zootechnical treatment” yn Erthygl 1(2)(c) o Gyfarwyddeb 96/22/EEC(1) ar wahardd defnyddio sylweddau penodol sy'n cael effaith hormonaidd neu thyrostatig a beta-agonistiaid mewn ffermio da byw.

Gweithdrefnau bridio

28.—(1Rhaid peidio â defnyddio bridio neu weithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n peri neu sy'n debygol o beri dioddefaint neu anaf i unrhyw un o'r anifeiliaid o dan sylw.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio gweithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n debygol o beri'r dioddefaint minimal neu fyrhoedlog, neu rai a allai beri bod angen ymyriadau na fyddent yn achosi anaf parhaol.

29.  Ni chaniateir cadw unrhyw anifeiliaid at ddibenion ffermio oni ellir disgwyl yn rhesymol, ar sail eu genoteip neu eu ffenoteip, y gellir eu cadw heb effaith niweidiol i'w hiechyd neu eu lles.

Llonyddu â thrydan

30.  Rhaid peidio â defnyddio cerrynt trydan ar unrhyw anifail er mwyn ei lonyddu.

(1)

OJ Rhif L125, 23.5.96, t.3.