xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
LLES ANIFEILIAID
Gwnaed
23 Hydref 2007
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 66(1) a 68(3)(b) a (4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007; a
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
yrtyr “Deddf 1968” (“the 1968 Act”) yw Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(2); ac
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006.
2. Daw'r darpariaethau canlynol yn Neddf 2006 i rym ar 24 Hydref 2007—
(a)adrannau 14 a 16; a
(b)adran 65 ac Atodlen 4, i'r graddau y maent yn ymwneud â—
(i)adrannau 2, 3, 6, 7 ac 8 o Ddeddf 1968; a
(ii)paragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(3).
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 3, bydd cod argymhellion ar gyfer lles da byw a ddyroddwyd o dan adran 3 o Ddeddf 1968—
(a)yn effeithiol yn ystod y cyfnod trosiannol o ran anifeiliaid a ffermir o rywogaeth y mae'r cod yn berthnasol iddo megis petai'r cod wedi'i ddyroddi o dan adran 14 o Ddeddf 2006;
(b)yn un y caniateir ei adolygu yn unol ag adrannau 14 a 15 o Ddeddf 2006; ac
(c)yn un y caniateir ei ddiddymu yn unol ag adran 17 o Ddeddf (2006)
(2) Ym mharagraff 1(a), ystyr cyfnod trosiannol ar gyfer cod argymhellion yw'r cyfnod rhwng dyfodiad y Gorchymyn hwn i rym a dirymiad y cod argymhellion hwnnw o dan adran 17 o Ddeddf 2006.
(3) O ran cod argymhellion—
(a)y mae'n gymwys i anifeiliaid a ffermir o rywogaeth y mae'r cod hwnnw'n ymwneud ag ef p'un ai yw'r anifail ar dir amaethyddol fel y'i diffinnir yn adran 8(1) o Ddeddf 1968 ai peidio; a
(b)nid yw'n cynnwys y “Cod Argymhellion ar gyfer Lles Dofednod Domestig”(4) a ddaeth i rym ar 1 Medi 1987.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006 (“Deddf 2006”) a bennir yn erthygl 2 i rym ar 24 Hydref 2007.
Mae erthygl 3 yn arbed codau argymhellion a ddyroddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968 (“Deddf 1968”) am gyfnodau trosiannol rhwng dyfodiad y Gorchymyn hwn i rym a dirymiad codau unigol sy'n defnyddio'r weithdrefn yn adran 17 o Ddeddf 2006.
Mae erthygl 3(1)(b) yn golygu y gellir adolygu codau a arbedwyd gan ddefnyddio'r weithdrefn yn adrannau 14 a 16 o Ddeddf 2006.
Dim ond i anifeiliaid ar “dir amaethyddol” yr oedd codau a ddyroddwyd o dan Ddeddf 1968 yn gymwys. Mae erthygl 3(3)(a) yn codi'r cyfyngiad hwn fel bod codau a arbedwyd yn gymwys p'un ai yw'r anifail ar dir amaethyddol ai peidio. Mae hyn yn peri bod cymhwyso codau a arbedwyd yn cyfateb i'r rhai hynny a ddyroddwyd o dan Ddeddf 2006.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adrannau 1–7, 8(1), (2), (7) ac (8), 9 i 12, 13, 17 i 45, 51 i 60, 62, 63, 64 (yn rhannol), 65 (yn rhannol) a 66, Atodlenni 1, 2, 3 (yn rhannol) a 4 (yn rhannol). | 27.3.2007 | 2007/1030 (Cy.97) (C.43) |
2006 p. 45 Mae'r swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Gellir cael copïau oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.