Offerynnau Statudol Cymru
2007 Rhif 2810 (Cy.237)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2007
Wedi'i wneud
25 Medi 2007
Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Medi 2007
Yn dod i rym
20 Hydref 2007
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) and (3) and 42(6) and (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt(1), a hwythau o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, ar y cyd â'i swyddogaethau eraill, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn, ac ar ôl ymgynghori fel yr ymddengys iddynt sydd yn briodol yn unol ag adran 7(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2007 a daw i rym ar 20 Hydref 2007.
2. Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005(2) fel a ganlyn.
3.—(1) Yn erthygl 2 yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) rhodder yn lle'r geiriau “89/48/EEC” y geiriau “2005/36/EC”.
(2) Yn erthygl 2 yn y diffiniad o “y Rheoliadau” (“the Regulations”) rhodder yn lle'r geiriau “Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005” y geiriau “Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007.”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
25 Medi 2007
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 (“Gorchymyn 2005”) drwy roi yn lle'r cyfeiriad at Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48/EEC gyfeiriad at Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/36/EC.
Diwygir Gorchymyn 2005 hefyd drwy roi yn lle'r cyfeiriad at Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005 gyfeiriad at Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007.
1998 p.30. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).