Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2795 (Cy.235)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007

Gwnaed

19 Medi 2007

Yn dod i rym

1 Hydref 2007

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007 ac mae'n dod i rym ar 1 Hydref 2007.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cyrff sy'n cael eu Cydnabod

2.  Mae'r cyrff a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael eu dynodi'n gyrff y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff sy'n cael eu cydnabod.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2005(3) wedi'i ddirymu.

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

19 Medi 2007

Erthygl 2

YR ATODLEN

Ysgolion, Colegau a Sefydliadau Prifysgol Llundain y mae'r Brifysgol wedi caniatáu iddynt ddyfarnu graddau Prifysgol Llundain

  • Birkbeck College

  • Central School of Speech and Drama, The

  • Courtauld Institute of Art

  • Goldsmiths College

  • Heythrop College

  • Institute of Cancer Research

  • London Business School

  • London School of Hygiene and Tropical Medicine

  • Queen Mary and Westfield College, (a elwir hefyd yn Queen Mary, University of London)

  • Royal Academy of Music

  • Royal Holloway and Bedford New College (a elwir hefyd yn Royal Holloway, University of London)

  • Royal Veterinary College

  • School of Oriental and African Studies

  • School of Pharmacy

  • St George’s Hospital Medical School

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhestru'r holl gyrff hynny y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff sy'n cael eu cydnabod o fewn ystyr adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae'r rhain yn brifysgolion, colegau, neu gyrff eraill a awdurdodir drwy Siarter Frenhinol neu drwy Ddeddf Seneddol neu o dan Ddeddf Seneddol i roi graddau ac yn gyrff eraill a ganiateir am y tro gan y cyrff hynny i weithredu ar eu rhan wrth roi graddau. Nid yw dyfarniad a roddir gan gorff o'r fath yn ddyfarniad o'r math y cyfeirir ato yn adran 214(1) sy'n ei gwneud yn dramgwydd i roi, i gynnig rhoi neu i ddyroddi unrhyw wahoddiad sy'n ymwneud â graddau a dyfarniadau penodol nad ydynt yn cael eu cydnabod.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diweddaru ac yn disodli'r rhestr o gyrff yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3287), sydd wedi'i ddirymu. Mae'n cynnwys nifer o sefydliadau sydd wedi'u hawdurdodi i ddyfarnu graddau o dan adran 76 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) ac adran 48 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992 (p.37). Mae'n cynnwys hefyd nifer o ysgolion, colegau a sefydliadau Prifysgol Llundain y mae'r Brifysgol wedi caniatáu iddynt ddyfarnu graddau Prifysgol Llundain.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, (OS 1999/672) a pharagraff 30(1) a (2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(4)

Mae'r Institute of Education yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain.