- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau a ganlyn:
(a)Rheoliadau Hadau Betys (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3037 (Cy.225));
(b)Rheoliadau Hadau Yd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3036 (Cy.224));
(c)Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1207 (Cy.79));
(ch)Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2881 (Cy.251));
(d)Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3035 (Cy.223));
(dd)Rheoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3038 (Cy.226));
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Penderfyniad y Cyngor 2005/834/EC, sy'n diwygio Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC (OJ Rhif L 312, 29.11.2005, t. 51). Maent yn gwneud diwygiadau er mwyn trefnu bod rhai hadau cyn-sylfaenol sydd wedi eu hardystio'n swyddogol mewn trydydd gwledydd yn dod o fewn cwmpas y Rheoliadau diwygiedig, gan ganiatáu i hadau o'r fath gael eu marchnata os ydynt yn bodloni gofynion y Rheoliadau hynny (rheoliadau 2(2)(b) a (5), 3(2)(b) a (7), 4(2)(b) a (7) a 5(2)(b) a (7)). Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau ynglyn â labelu hadau o'r fath (rheoliadau 2(4), 3(6), 4(6) a 5(6)), ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol pellach.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/124/EC, sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ynglyn â marchnata hadau llysiau (OJ Rhif L 339, 6.12.2006, t. 12). Maent hefyd yn gweithredu rhanddirymiad o'r gofyniad i gymhwyso darpariaethau marchnata Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC mewn perthynas â phedair o rywogaethau ac un isrywogaeth a ganiatawyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/321/EC (OJ Rhif L 119, 9.5.2007, t .48). Maent yn diwygio Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005 er mwyn ychwanegu india-corn neu bopgorn at y rhestr o rywogaethau rheoledig, ac yn gwneud mân ddiwygiadau i rai o enwau ac enwau cyffredin rhywogaethau rheoledig eraill (rheoliad 6(3)). Maent hefyd yn gosod safonau ar gyfer india-corn/popgorn o ran purdeb dadansoddol a chynnwys hadau rhywogaethau eraill o blanhigion, yn ogystal â phwysau lotiau a samplau (rheoliad 6(5) a (6)). Maent hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hynny (rheoliad 6(4) ac (8)) ac i Reoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) 2002 (rheoliad 8). Mae mân ddiwygiad yn cael ei wneud hefyd i'r olaf o'r Rheoliadau hynny er mwyn newid y math o ddyfais samplu sy'n cael ei ddefnyddio mewn perthynas â phys y maes.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ganlyniad i ymaelodaeth Bwlgaria a Rwmania yn Aelod-wladwriaethau (rheoliadau 2(2)(a), 3(2)(a), 4(2)(a) a 5(2)(a)).
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro mân wallau sy'n deillio o ddiwygiadau a wnaed gan Reoliadau Hadau (Cymru) (Diwygiadau ar gyfer Cynnal Profion a Threialu etc.) 2007 (rheoliadau 2(3), 3(5), 4(5), 5(5) a 6(7)).
Nid oes asesiad effaith reoleiddiol llawn wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: