Search Legislation

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Diwygio) 2007

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 2715 (Cy.228)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Diwygio) 2007

Gwnaed

14 Medi 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Medi 2007

Yn dod i rym

12 Hydref 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3(1), (2), (3) a (4) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy (2):

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Diwygio) 2007 a daw i rym ar 12 Hydref 2007.

Diwygiadau i Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006

2.—(1Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006(3) fel a ganlyn:

(2Yn erthygl 6 (symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yng Nghymru neu mewn man arall yn y Gymuned Ewropeaidd neu yn y Swistir), ym mharagraff (2), yn lle “o'r man cynhyrchu” rhodder “o fewn y Gymuned Ewropeaidd”.

(3Yn erthygl 15 (tramgwyddau)—

(a)yn lle is-baragraff (a) o baragraff (1) rhodder-

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (1A), yn mynd yn groes i erthyglau 3, 4, 5(1), 6, 7(1) neu (3), 8(1) neu 11(1) neu'n methu cydymffurfio â hwy;; a

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Ni fydd paragraff (1)(a) yn gymwys pan fo unrhyw fath o beth yn cael ei lanio ym Mhrydain Fawr yn groes i waharddiad yn y Gorchymyn hwn.(4)

(4Yn lle Atodlen 1, rhodder—

Erthyglau 4(a) a 10(1)

ATODLEN 1

Deunydd sy'n dueddol o gael y plaGofynion i'w bodloni o ran dyroddi unrhyw dystysgrif ffytoiechydol sy'n mynd gyda deunydd sy'n dueddol o gael y pla (“y dystysgrif”)

Acer macrophyllum Pursh.

Acer pseudoplatanus L.

Adiantum aleuticum (Rupr.) Paris

Adiantum jordanii C. Muell.

Aesculus californica (Spach) Nutt.

Aesculus hippocastanum L.

Arbutus menziesii Pursch.

Arbutus unedo L.

Arctostaphylos spp. Adans

Calluna vulgaris (L.) Hull

Camellia spp. L.

Castanea sativa Mill.

Fagus sylvatica L.

Frangula californica (Eschsch.) Gray

Frangula purshiana (DC.) Cooper

Fraxinus excelsior L.

Griselinia littoralis (Raoul)

Hamamelis virginiana L.

Heteromeles arbutifolia (Lindley) M. Roemer

Kalmia latifolia L.

Laurus nobilis L.

Leucothoe spp. D. Don

Lithocarpus densiflorus (Hook. & Arn.) Rehd.

Lonicera hispidula (Lindl.) Dougl. ex Torr. & Gray

Magnolia spp. L.

Michelia doltsopa Buch.-Ham. ex DC

Nothofagus obliqua (Mirbel) Blume

Osmanthus heterophyllus (G. Don) P. S. Green

Parrotia persica (DC) C.A. Meyer

Photinia x fraseri Dress

Pieris spp. D. Don

Pseudotsuga menziesii (Mirbel) Franco

Quercus spp. L.

Rhododendron spp. L., other than

Rhododendron simsii Planch.

Rosa gymnocarpa Nutt.

Salix caprea L.

Sequoia sempervirens (Lamb. ex D. Don) Endl.

Syringa vulgaris L.

Taxus spp. L.

Trientalis latifolia (Hook)

Umbellularia californica (Hook. & Arn.) Nutt.

Vaccinium ovatum Pursh

Viburnum spp. L.”.

(a)Naill ai—

(i)rhaid i'r dystysgrif gynnwys datganiad ychwanegol bod y deunydd yn tarddu mewn ardal y mae gwasanaeth iechyd planhigion y wlad y mae'r deunydd yn tarddu ohoni (“y gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol”) yn ei chydnabod yn ardal sy'n rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorumyn, ac yn yr achos hwn rhaid i enw'r ardal y mae'r deunydd yn tarddu ohoni gael ei bennu o dan “tarddle”; neu

(ii)rhaid peidio â dyroddi tystysgrif ac eithrio ar ôl i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol wirio'n swyddogol, o wneud arolygiadau swyddogol yn ystod cylchred gyflawn olaf llystyfiant y deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n destun y dystysgrif, neu o wneud arbrawf mewn labordy ar symptomau ymddangosiadol o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd oPhytophthora ramorum, na chanfyddwyd arwyddion o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum ar ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla nac ar unrhyw goeden sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu; a

(b)rhaid peidio â dyroddi tystysgrif ac eithrio ar ôl i samplau cynrychioliadol gael eu cymryd o'r planhigion cyn eu hanfon, a'u bod wedi eu profi a'u cael yn rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaid o Phytophthora ramorum yn y profion hyn, ac yn yr achos hwn rhaid i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol arnodi ar y dystysgrif o dan y pennawd “additional decleration” y datganiad “tested and found free from non-European isolates of Phytophthora ramorum”.

(5Yn ail golofn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff (b), yn lle “unwaith” rhodder “ddwywaith”; a

(b)ym mharagraff (c)—

(i)yn is-baragraff (i), ar ôl “ac unrhyw ddeunydd arall sy'n dueddol o gael y pla” mewnosoder “, gan gynnwys cyfryngau tyfu cysylltiedig a gweddillion planhigion,”;

(ii)hepgor “a” yn union ar ôl is-baragraff (ii); a

(iii)ar ddiwedd paragraff (iii) ychwaneger—

; a

(iv) bod mesurau ffytoiechydol priodol wedi eu cymryd o fewn radiws o ddau fetr o'r fan lle bu planhigion heintiedig yn gorwedd.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

14 Medi 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1344) (“y Gorchymyn”) er mwyn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2007/201/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2002/757/EC ar fesurau ffytoiechydol brys dros dro i rwystro dod â Phytophthora ramorum Werres, De Cock & Man in 't Veld sp. nov (O.J. Rhif L 90, 30.3.2007, t.83) i'r Gymuned ac i rwystro'i ledaenu o fewn y Gymuned ac i wneud mân newidiadau eraill. Y prif newidiadau a wneir yw—

(a)diwygio'r rhestr o ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddi (erthygl 2(4));

(b)cyflwyno gofynion ychwanegol ar symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn, yn benodol bod mesurau ffytoiechydol priodol yn cael eu cymryd o fewn radiws o ddau fetr o'r fan lle bu planhigion heintiedig yn gorwedd.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn.

(1)

1967 p. 8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48).

(2)

Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno yw'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yna trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny oedd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan OS 1999/672 bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32.

(4)

Mae adrannau 49 a 50 o Ddeddf Reoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p.2) yn darparu yn eu trefn ar gyfer fforffediad nwyddau a fewnforiwyd yn amhriodol ac ar gyfer cosbau am fewnforio nwyddau'n amhriodol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources