xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gwnaed
17 Awst 2007
Yn dod i rym
7 Medi 2007
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 5) 2007 a daw i rym ar 7 Medi 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 (3), hepgorer y geiriau “Cyngor Sir Fynwy”.
Rosemary Thomas
Pennaeth yr Is-adran Gynllunio, o dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
17 Awst 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r trefniadau trosiannol a wnaed o dan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 (“Gorchymyn Rhif 4”) i ben o ran Cyngor Sir Fynwy (“y Cyngor”).
O dan y trefniadau hynny, mae pob awdurdod cynllunio lleol a restrir yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 yn gallu parhau â'r broses sy'n arwain yn y pendraw i fabwysiadu ei gynllun datblygu unedol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn hytrach na gorfod dechrau ar y gwaith o baratoi cynllun datblygu lleol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.
Mae'r Gorchymyn hwn yn tynnu'r Cyngor oddi ar y rhestr o awdurdodau cynllunio lleol yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 ac felly yn gosod y Cyngor o dan ddyletswydd i baratoi cynllun datblygu lleol ar gyfer ei ardal.
Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.