Search Legislation

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Esemptiad ar gyfer mangre sydd â man palmantog i anifeiliaid

7.—(1Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 6 yn gymwys os yw'r man i anifeiliaid yn y fangre drwyddedig wedi cael ei balmantu, ac os yw wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio a bod gwastraff wedi cael ei waredu oddi yno yn unol â'r erthygl hon cyn bod crynhoad pellach o anifeiliaid yn cael ei gynnal.

(2O ran y gwaith glanhau a diheintio—

(a)rhaid iddo beidio â dechrau nes bydd pob anifail wedi ei symud o'r rhan honno o'r man i anifeiliaid sy'n cael ei glanhau a'i diheintio; a

(b)rhaid iddo gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre drwyddedig a chyn i grynhoad anifeiliaid gael ei gynnal eto ar y fangre.

(3Rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r man i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy ei golchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.

(4Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl fwyd anifeiliaid y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, a'r holl sarn, y dom a'r deunydd arall sy'n dod o anifeiliaid ac halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid sydd yn y man i anifeiliaid—

(a)yn cael eu difa,

(b)yn cael eu trin er mwyn sicrhau nad oes perygl y byddant yn trosglwyddo clefydau; neu

(c)yn cael eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt,

cyn gynted ag y bo modd a chyn i anifeiliaid gael mynd i mewn i'r fangre drwyddedig eto.

(5Os, ar ôl yr achlysur diwethaf pan gafodd y man i anifeiliaid ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r erthygl hon, y'i halogir â thom anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n dod o anifeiliaid neu unrhyw halogyn sy'n dod o anifeiliaid, rhaid ysgubo neu grafu'n lân y man i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohono sydd wedi eu halogi felly, a'u glanhau drwy olchi a thrwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd cyn i unrhyw anifail gael mynd i'r fangre drwyddedig eto.

(6Pan na fo cyfres o grynoadau anifeiliaid, sy'n cael eu cynnal ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid, yn para'n hwy na chyfanswm o 48 awr, caiff y crynoadau hynny eu trin fel un crynhoad anifeiliaid.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources