- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
5.—(1) Pan wneir cais o dan adran 15(1) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ar ôl i gais ddod i law, rhaid i'r awdurdod cofrestru—
(a)anfon hysbysiad, drwy'r post, ar ffurflen 45 at bob person (heblaw'r ceisydd) y mae gan yr awdurdod cofrestru reswm dros gredu (boed drwy wybodaeth a roddwyd gan y ceisydd neu fel arall) ei fod yn berchennog, prydleswr, tenant neu feddiannwr ar unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn effeithio arno, neu ei fod yn debyg o ddymuno gwrthwynebu'r cais;
(b)cyhoeddi yn yr ardal o dan sylw, ac arddangos, yr hysbysiad a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (a) ac anfon yr hysbysiad a chopi o'r cais at bob awdurdod o dan sylw; ac
(c)gosod yr hysbysiad ar ryw wrthrych amlwg ar unrhyw ran o'r tir sy'n agored, heb ei gau a heb ei feddiannu, oni bai ei bod yn ymddangos i'r awdurdod cofrestru na fyddai gweithredu felly yn rhesymol ymarferol.
(2) Rhaid i'r dyddiad sydd i'w fewnosod mewn hysbysiad o dan baragraff (1)(a) yn ddyddiad pryd y mae'n rhaid i ddatganiadau ysgrifenedig i wrthwynebu cais gael eu cyflwyno i'r awdurdod cofrestru ganiatáu cyfnod o nid llai na chwe wythnos ar ôl yr olaf o'r canlynol—
(a)y dyddiad y mae'n rhesymol disgwyl i'r hysbysiad gael ei draddodi yng nghwrs arferol y post i'r personau y mae wedi'i anfon atynt o dan baragraff (1)(a); neu
(b)y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad a'i arddangos gan yr awdurdod cofrestru.
(3) Rhaid i bob awdurdod o dan sylw sy'n cael hysbysiad a chopi o gais o dan y rheoliad hwn—
(a)arddangos copïau o'r hysbysiad ar unwaith; a
(b)cadw'r copi o'r cais ar gael i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol nes i'r awdurdod cofrestru roi gwybod bod y cais wedi'i benderfynu.
(4) Pan fo'n ymddangos i'r awdurdod cofrestru ar ôl ystyriaeth ragarweiniol nad yw cais wedi'i wneud yn briodol, caiff yr awdurdod ei wrthod heb gydymffurfio â pharagraff (1), ond, os yw'n ymddangos i'r awdurdod y gallai unrhyw gam gan y ceisydd adfer y cais i drefn, rhaid i'r awdurdod beidio â gwrthod y cais o dan y paragraff hwn heb roi cyfle rhesymol yn gyntaf i'r ceisydd gymryd y cam hwnnw.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “ardal o dan sylw” yw ardal sy'n cynnwys ardal pob un o'r awdurdodau o dan sylw.
(6) Mae gofyniad i awdurdod cofrestru gyhoeddi hysbysiad mewn unrhyw ardal yn ofyniad iddo beri i'r ddogfen gael ei chyhoeddi mewn un neu ragor o bapurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno y mae'n ymddangos i'r awdurdod eu bod yn ddigonol i sicrhau cyhoeddusrwydd digonol iddo.
(7) Mae gofyniad i arddangos hysbysiad neu gopïau o hysbysiadau yn ofyniad i'w drin, at ddibenion adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (hysbysiadau cyhoeddus)(1), fel pe bai'n hysbysiad cyhoeddus o fewn ystyr yr adran honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: