- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau a wneir i awdurdod cofrestru o dan adran 15(1) neu (8) o Ddeddf 2006 am gofrestru tir yn faes tref neu bentref.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod cofrestru” (“registration authority”) yw awdurdod cofrestru tiroedd comin;
ystyr “awdurdod o dan sylw” (“concerned authority”), mewn perthynas â chais i awdurdod cofrestru, yw awdurdod lleol (heblaw'r awdurdod cofrestru) y mae unrhyw ran o'r tir y mae'r cais yn effeithio arno yn gorwedd yn ei ardal; ac ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned;
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;
ystyr “ffurflen 44” (“form 44”) a “ffurflen 45” (“form 45”) yw'r ffurflenni sy'n dwyn y Rhif au hynny yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu'r ffurflenni hynny ac unrhyw amrywiadau y mae eu hangen o dan yr amgylchiadau; ac
ystyr “y Rheoliadau Cyffredinol” (“the General Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966(1); ac ystyr “Rheoliad Cyffredinol” (“General Regulation”) a Rhif ar ei ôl yw'r rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau Cyffredinol.
(3) Pan fo cyfreithiwr wedi'i gyfarwyddo at ddibenion cais, bernir bod unrhyw ofyniad bod rhaid i awdurdod cofrestru anfon unrhyw beth at “y ceisydd” wedi'i fodloni drwy ei anfon at y cyfreithiwr neu, os oes dau neu ragor o bersonau wedi gwneud cais ar y cyd ac nad oes cyfreithiwr wedi'i gyfarwyddo, at y person y gwelir ei enw yn gyntaf ar y ffurflen gais.
(4) Mae gofyniad bod rhaid i awdurdod cofrestru stampio unrhyw ddogfen yn ofyniad iddo osod argraff ei stamp swyddogol arni yn unol â'r disgrifiad yn Rheoliad Cyffredinol 3, sef stamp swyddogol y mae'n rhaid iddo gynnwys y dyddiad a grybwyllir yn y gofyniad neu (os na chyfeirir at ddyddiad) y dyddiad y gosodwyd y stamp.
(5) Caniateir i Ffurflen 44 fod yn y Gymraeg neu'r Saesneg, neu yn y ddwy iaith.
(6) Rhaid i Ffurflen 45 fod yn y Gymraeg a'r Saesneg.
O.S. 1966/1471, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1968/658, 1968/989, 1969/1843, 1980/1195, 1982/210, 1989/2167, 1990/311, 1994/2567 a 2003/994 (Cy.143) ac fel y'i newidiwyd gan O.S. 1991/2684.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: