- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys i atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd (OJ Rhif L195, 27.7.2007, t.8).
2. Yn rhinwedd Cyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 94/36/EC (OJ Rhif L237, 10.9.1994, t.13, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor, OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1), mae'r lliw E 128 Red 2G wedi cael ei awdurdodi'n gyfreithiol ar gyfer ei ddefnyddio ym mhob Aelod-wladwriaeth. Rhoddwyd y Gyfarwyddeb honno ar waith gan Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3124, fel y'i diwygiwyd). Er hynny, mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 yn atal gydag effaith ar unwaith y defnydd o'r lliw E 128 Red 2G mewn bwyd a rhoi ar y farchnad a mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G.
3. Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn darparu bod person sydd yn mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â darpariaethau penodol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 (ynghylch atal defnyddio'r lliw E128 Red 2G mewn bwyd; atal rhoi ar y farchnad fwyd sy'n cynnwys y lliw E128 Red 2G; ac atal mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E128 Red 2G) yn euog o dramgwydd (rheoliad 3(1));
(b)yn darparu cosbau am dramgwyddau o dan reoliad 3(1) (rheoliad 3(2) );
(c)yn darparu ar gyfer eu gweithredu a'u gorfodi (rheoliad 4);
(ch)yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 5); a
(d)yn dirymu Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2288 (Cy.178) (rheoliad 6).
4. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol wedi cael ei baratoi a gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: