Search Legislation

Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2007

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys

9.—(1Ac eithrio pan fo'r myfyriwr yn ymgymryd â chwrs dynodedig, sy'n gyfnod o astudiaeth ran-amser, er mwyn penderfynu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (onid yw eisoes wedi'i ddidynnu wrth benderfynu incwm trethadwy) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o dan unrhyw un neu rai o'r is-baragraffau canlynol -

(a)unrhyw gydnabyddiaeth ariannol am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw'r cyfryw gydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fo ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan fo wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn iddo fynychu'r cwrs hwnnw;

(b)cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(1), neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(2), neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 o Reoliadau 2007 y mae myfyriwr cymwys yn dod oddi tano a bod ei incwm yn deillio o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i ffynonellau neu ddeddfwriaeth sy'n berthnasol fel arfer i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007, ni ddiystyrir ei incwm yn unol â pharagraff (1) ond, yn hytrach, fe'i diystyrir i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw ef yn cael ei drin mewn modd llai ffafriol na'r modd y byddai person y cyfeirir ato yn unrhyw baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 o Reoliadau 2007 yn cael ei drin pe byddai mewn amgylchiadau cyffelyb a bod ganddo incwm cyffelyb.

(3Pan fo'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfred ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw —

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, y swm mewn sterling y bydd y myfyriwr yn ei gael felly;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd am y mis y daw i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(3).

(1)

1988 p.1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p.39), Atodlen 3, paragraff 10; Deddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 2005, Atodlen 1 a Deddf Cyllid 2004 (p.12), adran 281 ac Atodlen 35. Diddymwyd adrannau 619 a 639 gan Ddeddf Cyllid 2004 , adran 326 ac Atodlen 42 o 6 Ebrill 2006 ymlaen yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004.

(3)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources