RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU 2007

37

Ar ôl rheoliad 15(3), mewnosoder—

4

Nid yw myfyriwr sy'n parhau yn cymhwyso i gael grant at ffioedd o ran unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 pan ddyfarnodd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y cyfnod o asesu cais am gymorth o ran blwyddyn academaidd o'r cwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 yn unol â rheoliadau a wnaed ganddo o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd y myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth ffi o ran y cwrs dynodedig.

5

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr o dan yr hen drefn a ddechreuodd ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006 ac sy'n parhau i ddilyn y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2007 (“myfyriwr sy'n parhau”).