xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU 2007

27.  Yn rheoliad 2(1) —

(a)yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree course”) yw cwrs a ddyfernir yn unol â pharagraff (1A);

ystyr “myfyriwr cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree student”) yw myfyriwr cymwys —

(a)

sy'n ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig (y “cwrs”);

(b)

naill ai—

(i)

a ddechreuodd ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2007; neu

(ii)

sy'n dechrau ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2007; ac

(c)

naill ai—

(i)

mae'n ofynnol iddo fod yn bresennnol ar y cwrs am ran o'r flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer; neu

(ii)

mae'n fyfyriwr anabl nad yw'n ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs am nad yw'n gallu bod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd;;

(b)yn y man priodol ôl trefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “cwrs dwys” (“intensive course”) yw cwrs carlam neu gwrs gradd cywasgedig;;

(c)yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “Gweithiwr o Dwrci” (“Turkish Worker”) yw gwladolyn o Dwrci—

(a)

sydd fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; a

(b)

sydd neu sydd wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;.

28.  Ar ôl rheoliad 2(1), mewnosoder—

“(1A) Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu bod cwrs yn gwrs gradd cywasgedig os yw'r cwrs hwnnw, yn ei farn—

(a)yn gwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd sylfaen);

(b)yn gwrs amser-llawn a ddynodir o dan reoliad 5(1); ac

(c)yn para am ddwy flynedd academaidd..

29.  Mewnosoder ar ôl paragraff (18) o reoliad 6, y paragraffau canlynol—

(19) At ddibenion y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau ym mharagraffau (21), (22) a (23) “cwrs blaenorol” yw unrhyw gwrs addysg uwch amser-llawn neu unrhyw gwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon y dechreuodd y myfyriwr ei fynychu neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig, y dechreuodd ymgymryd ag ef yn y Deyrnas Unedig ac sy'n bodloni un neu fwy o'r amodau ym mharagraff (20).

(20) Dyma'r amodau—

(a)darperir y cwrs gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a gafodd gyllid cyhoeddus am rywfaint o'r blynyddoedd academaidd neu'r cyfan ohonynt pan oedd y myfyriwr yn dilyn y cwrs; neu

(b)unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarndal o unrhyw ddisgrifiad a dalwyd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs i dalu ffioedd wedi'i dalu o gronfeydd cyllid cyhoeddus neu a oedd o gronfeydd cyllid a oedd i'w priodoli i gyllid cyhoeddus.

(21) Nid ymdrinnir â chwrs a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—

(b)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon;

(b)os nad yw hyd y cwrs presennol yn hwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan-amser fel hyd y cwrs amser-llawn cyfatebol); ac

(c)os nad yw'r myfyriwr yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig.

(22) Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—

(a)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg;

(b)os trosglwyddodd y myfyriwr i'r cwrs presennol o gwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg cyn cwblhau'r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau'r cwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg.

(23) Nid ymdrinnir a chwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg fel cwrs blaenorol—

(a)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg;

(b)os trosglwyddodd y myfyriwr i'r cwrs presennol o gwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg cyn cwblhau'r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau'r cwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.

30.  Ym mharagraffau (1) a (2) o reoliad 7, hepgorer y geiriau “yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol neu gwrs rhan-amser dynodedig”.

31.  Yn rheoliad 7, hepgorer paragraffau (6) a (7).

32.  Yn lle rheoliad 8(2) rhodder —

(2) Dyma'r rhesymau dros drosglwyddo —

(a)bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau—

(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig arall yn y sefydliad;

(ii)ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig arall yn y Deyrnas Unedig yn y sefydliad; neu

(iii)ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig yn y sefydliad;

(b)bod y myfyriwr cymwys yn dechrau—

(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(ii)ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig mewn sefydliad arall;

(c)ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;

(ch)ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu

(d)ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad..

33.  Ar ôl rheoliad 10(2)(c) mewnosoder—

(ca)os yw'r ceisydd yn berson a grybwyllir ym mharagraff 12 o Ran 2 o Atodlen 1, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru erbyn 3 Mawrth 2008 neu o fewn cyfnod o naw mis gan ddechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y cyflwynodd y cais ar ei chyfer, p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf;.

34.  Ar ôl rheoliad 12(3) mewnosoder—

(4) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer cymorth ffioedd.

(5) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol —

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

35.  Ar ôl rheoliad 14(d), mewnosoder—

(da)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;.

36.  Yn rheoliad 15(1), ar ôl y geiriau “yn ddarostyngedig i”, mewnosoder y geiriau “baragraff (4) a”.

37.  Ar ôl rheoliad 15(3), mewnosoder—

(4) Nid yw myfyriwr sy'n parhau yn cymhwyso i gael grant at ffioedd o ran unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 pan ddyfarnodd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y cyfnod o asesu cais am gymorth o ran blwyddyn academaidd o'r cwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 yn unol â rheoliadau a wnaed ganddo o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd y myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth ffi o ran y cwrs dynodedig.

(5) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr o dan yr hen drefn a ddechreuodd ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006 ac sy'n parhau i ddilyn y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2007 (“myfyriwr sy'n parhau”).

38.  Ar ôl rheoliad 16(5), yn lle “£4,445”, rhodder “£4,455.”

39.  Yn rheoliad 18(1), ar ôl y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (2)” mewnosoder y geiriau, “a rheoliadau 6 a 7”.

40.  Yn rheoliad 20(1), hepgorer y geiriau, “Yn ddarostyngedig i baragraff (7)”.

41.  Ar ôl rheoliad 23(11)(ch), mewnosoder—

(cha)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;.

42.  Ar ôl rheoliad 23(11), mewnosoder—

(12) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer y grantiau canlynol—

(a)grantiau ar gyfer dibynyddion;

(b)grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;

(c)grant addysg uwch.

(13) Mae paragraff (12) yn gymwys ar gyfer—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

43.  Yn rheoliad 37(4)(c), yn lle “£615” rhodder “£610”.

44.  Ar ôl rheoliad 38(4), mewnosoder—

(5) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer benthyciad at gostau byw.

(6) Mae paragraff (5) yn gymwys ar gyfer—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

45.  Yn rheoliad 39, yn lle “cwrs carlam” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “cwrs dwys”.

46.  Yn rheoliad 40 yn lle “cwrs carlam” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “cwrs dwys”.

47.  Yn rheoliad 42 yn lle “cwrs carlam” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “cwrs dwys”.

48.  Yn lle rheoliad 44, rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 46, mae'r benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o'r flwyddyn academaidd.

(2) Nid yw'r benthyciad at gostau byw yn daladwy —

(a)yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, o ran y chwarter a enwebwyd gan Weinidogion Cymru;

(b)ym mhob achos arall, o ran y chwarter pan fydd, ym marn Gweinidogion Cymru, y gwyliau hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo.

49.  Ar ôl rheoliad 46(2)(ch)—

(cha)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;.

50.  Ar ôl rheoliad 54(4)(d), mewnosoder—

(dd)GFF yw swm y grant at ffioedd, os oes un, y mae'r myfyriwr cymwys yn dod yn gymwys i'w gael o dan Ran 4..

51.  Yn rheoliad 54(6) yn lle “cwrs carlam”, rhodder “cwrs dwys”.

52.  Yn rheoliad 62, ar ôl paragraff 15(dd) rhodder—

(dda)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;.

53.  Yn rheoliad 65(1)(b), yn lle “£1,000” rhodder “£1,025”.

54.  Yn rheoliad 65(5)(e), 65(5)(f) a 65(5)(ff), pa le bynnag y daw'r ffigur “£26,260” yn ei le rhodder “£26,265”.

55.  Yn rheoliad 65(6)(a), yn lle'r ffigurau “£15.92”, “£12.79” a “£9.94”, rhodder y ffigurau “£15.81”, “£12.78” a “£9.92”, yn eu trefn.

56.  Ar ôl rheoliad 67(4)(a), mewnosoder—

(aa)os nad yw'r ceisydd yn berson a grybwyllir ym mharagraff 12 o Ran 2 o Atodlen 1, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru erbyn 1 Rhagfyr 2007 neu o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y cyflwynir y cais ar ei chyfer, p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf;.

57.  Ar ôl rheoliad 74(17)(ch), mewnosoder—

58.  Yn lle is-baragraffau (a) a (b) o reoliad 75(3), rhodder—

(a)ystyr “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs ôl-radd amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs ôl-radd rhan-amser o dan sylw;

“(b)ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw'r cyfnod fyddai'n ofynnol i fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;.

59.  Yn rheoliad 76(1), hepgorer y geiriau, “rheoliadau 4 a 6” a mewnosoder y geiriau, “rheoliad 74”.

60.  Yn lle rheoliad 76(7), rhodder—

(7) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben—

(a)cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig ynddi; a

(b)mewn modd heblaw o dan baragraff (8),

caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am ba gyfnod bynnag a ddyfernir ganddynt.

61.  Ar ôl rheoliad 76(7), mewnosoder—

(8) Pan fo'r myfyriwr cymwys ôl-raddedig yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig sy'n gwrs rhan-amser, daw cyfnod y cymhwystra i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd berthnasol nad yw'n gallu cwblhau'r cwrs ynddi o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 75(1)(b)(ii).

(9) At ddibenion paragraff (8), ystyr “blwyddyn academaidd berthnasol” yw'r flwyddyn academaidd pan ddaw'n amhosibl i'r myfyriwr gwblhau'r cwrs ynddi neu ar ei diwedd o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 75(1)(b)(ii).

62.  Yn Atodlen 1 —

(a)yn lle paragraff 1(3), rhodder—

(3) At ddibenion yr Atodlen hon, dylid ymdrin â pherson fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir neu'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel pe bai'n breswylydd felly oni bai am y ffaith bod —

(a)y person hwnnw;

(b)ei briod neu ei bartner sifil;

(c)ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro yn yr ardal o dan sylw.;

(b)yn lle paragraff 1(4), rhodder—

(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir neu'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd; ac

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o'r cyfryw luoedd.;

(c)ar ôl paragraff 11, mewnosoder—

Children of Turkish workers

12.  Person—

(a)sydd yn blentyn i weithiwr o Dwrci;

(b)sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs..

63.  Ar ôl paragraff 5(ch) o Atodlen 4, mewnosoder—

(cha)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci;.