Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae “addysg” (“education”) yn cynnwys ymchwil ôl-raddedig, heblaw yng nghwrs cyflogaeth;
ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a ffurfir gan Wladwriaethau'r AEE;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr pan y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn dibynnu ar a yw'r flwyddyn academaidd honno'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst, neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu chyn 31 Rhagfyr, yn eu trefn;
ystyr “CCAUC” (“HEFCW”) yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(1);
ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth lawnamser neu ran-amser:
ystyr “darparwr hyfforddiant” (“training provider”) yw person sy'n darparu hyfforddiant i aelodau o weithlu'r ysgolion o dan Ran 3 o Ddeddf 2005;
ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005(2);
ystyr “dyfarniad” (“award”) yw dyfarniad ffioedd neu ddyfarniad cynhaliaeth neu'r ddau;
ystyr “dyfarniad addysg ôl-orfodol” (“post-compulsory education award”) yw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari neu lwfans arall a roddir gan awdurdod addysg lleol o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002(3);
ystyr “dyfarniad cynhaliaeth” (“maintenance award”) yw unrhyw ddyfarniad heblaw dyfarniad ffioedd;
ystyr “dyfarniad ffioedd” (“fees award”) yw dyfarniad sydd yn unig ar gyfer unrhyw ffioedd sy'n daladwy, gan eithrio unrhyw elfen o'r ffioedd hynny sy'n dâl cynhaliaeth;
ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd, fel y'i chyfansoddir o bryd i'w gilydd;
ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Aruba; Bermuda, Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Montserrat; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius a Sint Maarten); Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan de Cunha); St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Ynysoedd Turks a Caicos a Wallis a Futuna;
ystyr “yr Ynysoedd” (“the Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
(2) Er gwaethaf adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978(4) ni fydd adran 3(2) o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (lle mae'r cyfeiriadau at y Deyrnas Unedig yn cynnwys cyfeiriadau at yr Ynysoedd) yn gymwys at ddibenion dehongli'r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn, ac unrhyw berson sydd yn gofalu am blentyn, a dylid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni-
(a)ei fod ef;
(b)bod ei briod neu ei bartner sifil;
(c)bod ei riant; neu
(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
mewn cyflogaeth dros dro neu wedi bod mewn cyflogaeth felly y tu allan i'r ardal dan sylw.
(5) At ddibenion paragraff (4), mae cyflogaeth dros dro yn cynnwys—
(a)yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;
(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir; ac
(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.
(6) At ddibenion rheoliadau 6, 7 ac 8, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai'r wedi bod yn preswylio felly oni bai-
(a)ei fod ef;
(b)bod ei briod neu ei bartner sifil;
(c)bod ei riant; neu
(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
yn cael addysg lawnamser dros dro y tu allan i'r ardal dan sylw.
(7) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir mae ardal—
(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd nac o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hyn, neu o'r ddwy ohonynt,
i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.