Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2310 (Cy.181)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

4 Awst 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Awst 2007

Yn dod i rym

31 Awst 2007

Mae Gweinidogion Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd(1) bellach ynddynt hwy gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 2006/1458 o 8 Mehefin 2006 ymlaen. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O. S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(d) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

Diwygiwyd 1983 p.40. Adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p.56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), Atodlen 3, paragraff 5; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (c. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 5 a Deddf Addysg 2005 (p.18), Atodlen14, paragraff 9. Diwygiwyd Adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988, adran 44 ac Atodlen 4.