2007 Rhif 2288 (Cy.178)
Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) 2007
Wedi'u gwnaed
Wedi eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwydydd2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys sy'n atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd3 fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygiwyd o dro i dro.
Enwi a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 3 Awst 2007.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19904 ac eithrio nad yw'n cynnwys y Trysorydd priodol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(c) o'r Ddeddf honno (sy'n ymwneud â'r Deml Fewnol a Chanol);
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys sy'n atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod bwyd, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig ganddo, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
2
Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd yn cael eu haseinio—
a
drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19845, i awdurdod iechyd porthladd;
b
drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 19366, i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig; neu
c
drwy orchymyn o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 19857, i awdurdod sengl ar gyfer sir fetropolitanaidd,
mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u haseinio felly iddo.
3
Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd o dro i dro.
Atal gweithgareddau sy'n ymwneud â'r lliw E128 Red 2G3
1
Er gwaethaf darpariaethau Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 19958, bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau canlynol Rheoliad y Comisiwn neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd—
a
Erthygl 1(1) (atal defnyddio lliw E 128 Red 2G mewn bwyd);
b
Erthygl 1(2) (atal rhoi ar y farchnad fwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G); neu
c
Erthygl 1(3) (atal mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G).
2
Mae person yn euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn atebol o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.
Gorfodi4
Dyletswydd pob awdurdod iechyd bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 19905
Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
a
adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
b
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)9, gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(1)(b) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod cyfeiriadau yn is-adran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at “placing on the market”;
c
adran 32 (pwerau mynediad);
ch
adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
d
adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
dd
adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)10, i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
e
adran 35(2) a (3)11 i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
f
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
ff
adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)12; ac
g
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)