xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2220 (Cy.175)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 2007

Wedi'u gwneud

26 Gorffennaf 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Gorffennaf 2007

Yn dod i rym

1 Medi 2007

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau yn adrannau 136(c), 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 2002(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 2007 a deuant i rym ar 1 Medi 2007.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod newydd o staff” (“new member of staff”) yw person sy'n cael cynnig oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach ar 1 Medi 2007 neu ar ôl hynny i weithio mewn swydd sy'n darparu addysg yn y sefydliad o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau gyda'r corff llywodraethu neu mewn modd heblaw o dan gontract ac nid yw'n cynnwys person a gyflenwir gan fusnes cyflogi;

mae i “busnes cyflogi” yr ystyr a roddir i “employment business” gan adran 13(3) o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973(2) ac mae'n cynnwys awdurdod lleol a pherson sy'n cynnal busnes cyflogi;

mae i “cofnodion canolog” yr ystyr a roddir i “central records” gan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997(3);

mae i “datganiad addasrwydd plant” yr ystyr a roddir i “children’s suitability statement” gan adran 113C(2) o Ddeddf yr Heddlu 1997;

ystyr “gweithgaredd perthnasol” (“relevant activity”) yw gofalu am bobl o dan 18 oed, eu hyfforddi, eu goruchwylio neu fod â gofal amdanynt are ei ben ei hun, a hynny yn rheolaidd;

mae i “mater perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant matter” gan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997; ac

ystyr “tystysgrif cofnod troseddol fanwl” (“enhanced criminal record certificate”) yw tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddir yn unol â Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997.

(2Mae person yn bodloni'r gofynion cymhwyso perthnasol ar gyfer staff—

(a)os yw'n bodloni'r holl ofynion perthnasol Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002(4) neu Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005(5) neu mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 136(a) o Ddeddf Addysg 2002 o ran y cymwysterau y mae'n rhaid iddo eu dal; a

(b)os yw'n bodloni'r holl amodau perthnasol o ran iechyd neu alluedd corfforol mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 141 o Ddeddf Addysg 2002.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn mae person yn gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl os yw'n cydlofnodi cais am dystysgrif fel person cofrestredig (o fewn ystyr adran 120 o Ddeddf yr Heddlu 1997) neu os cydlofnodir cais ar ei ran, ac os cyflwynir y cais i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unol â Rhan V o'r Ddeddf honno.

(4Er mwyn gwneud gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol rhaid i berson—

(a)gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl a'i chael; a

(b)cyflwyno datganiad addasrwydd plant ynghyd â'r cais am y dystysgrif cofnod troseddol fanwl.

Amodau i gydymffurfio â hwy

4.  Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu amodau i gydymffurfio â hwy o ran personau sy'n darparu addysg mewn sefydliad addysg bellach(6).

Aelodau newydd o staff

5.  Mae'n amod o ran aelod newydd o staff bod rhaid i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach—

(a)gwirio ei hunaniaeth;

(b)gwirio bod ganddo hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig;

(c)gwirio ei fod yn bodloni'r holl ofynion cymhwyso perthnasol ar gyfer staff;

(ch)gwirio a yw'n ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a wnaed o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002; a

(d)gwneud gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol mewn perthynas ag ef os bydd y swydd a gynigir iddo yn cynnwys gweithgaredd perthnasol.

6.  Pan fo corff llywodraethu sefydliad addysg bellach yn barnu, oherwydd bod aelod newydd o staff wedi byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig, nad yw gwneud gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol yn ddigonol at ddibenion ystyried ei addasrwydd am swydd sy'n cynnwys gweithgaredd perthnasol, mae'n amod bod rhaid i'r corff llywodraethu wneud unrhyw wiriad pellach y mae'n barnu ei fod yn briodol, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

7.  Yn ddarostyngedig i reoliad 9, rhaid i'r gwiriadau a bennir yn rheoliadau 5(a) i (ch) a 6 gael eu cwblhau cyn i'r aelod newydd o staff ddechrau gweithio yn y sefydliad addysg bellach.

8.  Yn ddarostyngedig i reoliad 9, rhaid i'r gwiriad a bennir yn rheoliad 5(d) gael ei wneud cyn i'r aelod newydd o staff ddechrau gweithio yn y sefydliad addysg bellach neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo ddechrau gweithio yno.

9.  Nid oes rhaid i'r gwiriadau a bennir yn rheoliadau 5(d) a 6 gael eu gwneud pan fo'r aelod newydd o staff—

(a)wedi gweithio naill ai mewn—

(i)ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gysylltiad rheolaidd â phersonau o dan 18 oed; neu

(ii)sefydliad addysg bellach arall yng Nghymru mewn swydd a oedd yn cynnwys darparu addysg a gweithgaredd perthnasol; a

(b)i fod i ddechrau yn y sefydliad addysg bellach ar ddyddiad nad yw'n fwy na thri mis ar ôl y dyddiad pryd y peidiodd â gweithio mewn swydd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (a).

Staff sy'n symud o'r naill swydd i'r llall

10.  Trinnir person nas cyflenwir gan fusnes cyflogi sy'n symud o swydd nad oedd yn cynnwys darparu addysg i swydd sy'n cynnwys darparu addysg yn yr un sefydliad addysg bellach ar 1 Medi 2007 neu ar ôl hynny fel aelod newydd o staff at ddibenion rheoliadau 5 i 9, ac mae cyfeiriadau yn y rheoliadau hynny at ddechrau gweithio i'w dehongli fel dechrau ar swydd sy'n darparu addysg.

Staff cyflenwi

11.  Mae'n amod bod rhaid i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach beidio â derbyn person a gynigir gan fusnes cyflogi i ddarparu addysg yn y sefydliad (“person perthnasol”) oni bai i'r corff llywodraethu gael oddi wrth y busnes cyflogi gadarnhad ysgrifenedig bod y gwiriadau a bennir yn rheoliad 18 wedi'u gwneud o ran y person perthnasol.

12.  Pan fo swydd y person perthnasol yn cynnwys gweithgaredd perthnasol, rhaid i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach beidio â derbyn y person perthnasol i ddarparu addysg yn y sefydliad oni chydymffurfiwyd â'r amodau yn rheoliad 13 neu 14.

13.  Yr amodau yn y rheoliad hwn yw bod y corff llywodraethu wedi cael oddi wrth y busnes cyflogi gadarnhad ysgrifenedig bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno a bod cais wedi'i wneud am dystysgrif cofnod troseddol fanwl gan y busnes cyflogi neu ar ei ran ond nid yw'r dystysgrif eto wedi'i chael.

14.  Yr amodau yn y rheoliad hwn yw bod y corff llywodraethu wedi cael cadarnhad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogi—

(a)bod, yn ddarostyngedig i reoliad 19, gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol wedi'i wneud (p'un ai gan y busnes cyflogi hwnnw neu gan fusnes cyflogi arall) ddim mwy na thri mis cyn y dyddiad y mae'r person perthnasol i fod i ddechrau gweithio yn y sefydliad;

(b)bod y busnes cyflogi wedi cael copi o'r dystysgrif cofnod troseddol fanwl; ac

(c)sy'n datgan a yw'r dystysgrif cofnod troseddol fanwl yn rhoi manylion unrhyw fater perthnasol sy'n ymwneud â'r person a'r mater hwnnw yn un sydd wedi'i gofnodi yn y cofnodion canolog neu sy'n rhoi unrhyw wybodaeth a ddarperir yn unol ag adran 113B(4) o Ddeddf yr Heddlu 1997 neu a oes unrhyw wybodaeth wedi'i darparu yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997.

15.  Os yw corff llywodraethu yn cael cadarnhad ysgrifenedig o dan reoliad 14 bod y dystysgrif cofnod troseddol fanwl yn rhoi manylion unrhyw fater perthnasol sy'n ymwneud â'r person perthnasol a'r mater hwnnw yn un sydd wedi'i gofnodi yn y cofnodion canolog neu sy'n rhoi unrhyw wybodaeth a ddarperir yn unol ag adran 113B(4) o Ddeddf yr Heddlu 1997 neu fod yr wybodaeth honno wedi'i darparu yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, mae'n amod bod rhaid i gorff llywodraethu'r sefydliad addysg bellach beidio â derbyn y person perthnasol i ddarparu addysg yn y sefydliad oni bai bod copi o'r dystysgrif wedi dod i law oddi wrth y busnes cyflogi.

16.  Mae'n amod bod rhaid i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach, yn y sefydliad, wirio hunaniaeth person perthnasol cyn y caiff y person hwnnw ddechrau gweithio yn y sefydliad (yn annibynnol ar unrhyw wiriad o'r fath a wnaed gan y busnes cyflogi).

17.  Mae'n amod bod rhaid, yn y contract neu yn y trefniadau eraill y mae corff llywodraethu sefydliad addysg bellach yn ymrwymo â busnes cyflogi iddynt, iddi fod yn ofynnol i'r busnes cyflogi gydymffurfio â'r gofynion a ganlyn o ran unrhyw berson perthnasol—

(a)hysbysu'r corff llywodraethu yn ysgrifenedig bod y gwiriadau a bennir yn rheoliad 18 wedi'u gwneud;

(b)pan fo swydd person yn cynnwys gweithgaredd perthnasol, hysbysu'r corff llywodraethu yn ysgrifenedig—

(i)yn ddarostyngedig i reoliad 19, bod gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol wedi'i wneud (p'un ai gan y busnes cyflogi hwnnw neu gan fusnes cyflogi arall) ddim mwy na thri mis cyn y dyddiad pryd y mae'r person i fod i ddechrau gweithio yn y sefydliad; neu

(ii)bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno a bod cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl wedi'i gwneud gan y busnes cyflogi neu ar ei ran ond nid yw'r dystysgrif eto wedi'i chael; ac

(c)pan fo'r dystysgrif cofnod troseddol fanwl yn rhoi manylion am unrhyw fater perthnasol sy'n ymwneud â'r person a'r mater hwnnw yn un sydd wedi'i gofnodi yn y cofnodion canolog neu sy'n rhoi unrhyw wybodaeth a ddarperir yn unol ag adran 113B(4) o Ddeddf yr Heddlu 1997 neu pan fo gwybodaeth wedi'i darparu yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, hysbysu'r corff llywodraethu a darparu copi o'r dystysgrif.

18.  Y gwiriadau mewn perthynas â pherson perthnasol yw—

(a)gwiriad o'i hunaniaeth;

(b)gwiriad bod ganddo hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig;

(c)gwiriad ei fod yn bodloni'r holl ofynion cymhwyso ar gyfer staff;

(ch)gwiriad i gadarnhau a yw'n ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a wnaed o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002; a

(d)yn ddarostyngedig i reoliad 19, pan fo'r busnes cyflogi yn barnu, oherwydd ei fod wedi byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig, nad yw gwneud gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol yn ddigonol at ddibenion ystyried ei addasrwydd am swydd a fydd yn cynnwys gweithgaredd perthnasol, unrhyw wiriadau pellach y mae'r busnes cyflogi yn barnu eu bod yn briodol, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

19.—(1Pan fo'r amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys, nid yw'r gwiriad a bennir yn rheoliad 18(d) yn ofynnol a gall fod y gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol y cyfeirir ato yn rheoliadau 14(a) a 17(b) wedi cael ei wneud mwy na thri mis cyn y dyddiad pryd y mae'r person perthnasol i fod i ddechrau gweithio yn y sefydliad.

(2Dyma'r amgylchiadau—

(a)mae'r person perthnasol wedi gweithio naill ai mewn—

(i)ysgol yng Nghymru mewn swydd a ddaeth ag ef i gysylltiad rheolaidd â phersonau o dan 18 oed; neu

(ii)sefydliad addysg bellach arall yng Nghymru mewn swydd a oedd yn cynnwys darparu addysg a gweithgaredd perthnasol,

yn ystod cyfnod a ddaeth i ben dim mwy na thri mis cyn y dyddiad y mae i fod i ddechrau gweithio yn y sefydliad.

Cadw cofnodion

20.  Mae'n amod bod rhaid i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach gadw cofrestr o ran pob person sy'n darparu addysg yn y sefydliad.

21.  Rhaid cadw'r gofrestr o—

(a)1 Medi 2007 o ran personau sy'n dechrau gweithio yn y sefydliad ar 1 Medi 2007 neu ar ôl hynny; a

(b)1 Medi 2008 o ran personau sydd yn y swydd ar 1 Medi 2008 ac a ddechreuodd weithio yn y sefydliad cyn 1 Medi 2007.

22.  Mae'n amod bod rhaid i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach sicrhau bod yr wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen yn cael ei chofnodi yn y gofrestr yn erbyn enw pob person sy'n darparu addysg yn y sefydliad nas darparwyd gan fusnes cyflogi.

23.  Mae'n amod bod rhaid i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach sicrhau bod yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen yn cael ei chofnodi yn erbyn enw pob person sy'n darparu addysg yn y sefydliad a darparwyd gan y busnes cyflogi.

24.  Nid yw'n berthnasol at ddibenion rheoliadau 22 a 23 p'un a gafwyd yr wybodaeth i'w chofnodi yn unol â rhwymedigaeth gyfreithiol ai peidio.

25.  Caniateir cadw'r gofrestr y mae'n ofynnol ei chadw yn unol â rheoliad 20 ar ffurf electronig, ar yr amod bod modd atgynhyrchu'r wybodaeth a gofnodwyd felly ar ffurf ddarllenadwy.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, un o Weinidogion Cymru

26 Gorffennaf 2007

Rheoliadau 22 a 23

ATODLEN 1Gwybodaeth i'w chofnodi

RHAN 1Gwybodaeth i'w chofnodi gan gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach o ran personau sy'n darparu addysg nas cyflenwyd gan fusnes cyflogi

1.  a yw swydd y person yn cynnwys gweithgaredd perthnasol;

2.  a yw hunaniaeth y person wedi'i gwirio;

3.  a wnaed gwiriad i gadarnhau a yw'r person yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a wnaed o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002;

4.  a wnaed gwiriad i sicrhau bod y person yn bodloni'r holl ofynion cymhwyso perthnasol ar gyfer staff;

5.  pan fo swydd y person yn cynnwys gweithgaredd perthnasol, a wnaed gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol mewn perthynas ag ef;

6.  a wnaed gwiriadau o'r math a ddisgrifir yn rheoliad 6 y barnwyd eu bod yn briodol mewn perthynas â'r person;

7.  a wnaed gwiriad i gadarnhau bod gan y person hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig;

8.  ar gyfer pob gwiriad a wnaed yn y Rhan hon, y dyddiad pryd y cwblhawyd y gwiriad.

RHAN 2Gwybodaeth sydd i'w chofnodi gan gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach o ran personau sy'n darparu addysg a gyflenwyd gan fusnes cyflogi

1.  a yw swydd y person yn cynnwys gweithgaredd perthnasol;

2.  a gafwyd hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogi—

(a)bod hunaniaeth y person wedi'i gwirio;

(b)bod gwiriad wedi'i wneud i gadarnhau a yw'r person yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a wnaed o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002;

(c)bod gwiriad wedi'i wneud i sicrhau bod y person yn bodloni'r holl ofynion cymhwyso perthasol ar gyfer staff;

(ch)bod gwiriadau pellach o'r math a ddisgrifir yn rheoliad 18(d) y barnwyd eu bod yn briodol mewn perthynas â'r person wedi'u gwneud;

(d)bod gwiriad wedi'i wneud i gadarnhau bod gan y person hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig;

(dd)pan fo swydd y person yn cynnwys gweithgaredd perthnasol—

(i)y gwnaed gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol mewn perthynas â'r person hwnnw; neu

(ii)bod cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl wedi'i gwneud a bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno gan y busnes cyflogi neu ar ei ran mewn perthynas â'r person hwnnw;

3.  ar gyfer pob hysbysiad ysgrifenedig a restrir ym mharagraff 2 ac a gafwyd, y dyddiad pryd y cafwyd yr hysbysiad;

4.  pan fo'r busnes cyflogi wedi cael tystysgrif cofnod troseddol fanwl, a yw'n rhoi manylion am unrhyw fater perthnasol sy'n ymwneud â'r person a'r mater hwnnw yn un a gofnodwyd yn y cofnodion canolog neu sy'n rhoi unrhyw wybodaeth a ddarperir yn unol ag adran 113B(4) o Ddeddf yr Heddlu 1997 neu a oes unrhyw wybodaeth wedi ei darparu yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997;

5.  a oes copi o dystysgrif cofnod troseddol fanwl wedi'i ddarparu i gorff llywodraethu y sefydliad addysg bellach.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod amodau penodol yn cael eu bodloni o ran personau sy'n darparu addysg mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Mae'r amodau yn ymwneud â gwiriadau y mae'n rhaid eu gwneud a chofrestr y mae'n rhaid ei chadw o ran y personau hynny.

Pennir y gwiriadau gofynnol yn rheoliadau 5 a 6 (ar gyfer personau a benodir gan gorff llywodraethu) a rheoliadau 11 —19 (ar gyfer personau a gyflenwir gan fusnes cyflogi).

Mae'r gwiriadau yn ymwneud â chadarnhau hunaniaeth y person, ei hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig, p'un a yw wedi bodloni'r gofynion cymhwyso perthnasol ai peidio a ph'un a yw'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 ai peidio. Pan fo'r person yn ymgymryd â'r canlynol yn rheolaidd o ran personau o dan 18: gofalu amdanynt, eu hyfforddi, eu goruchwylio, neu fod â gofal ar ei ben ei hun amdanynt, mae gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol yn ofynnol. Yn ychwanegol at hynny, os bernir nad yw gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol yn ddigonol at ddibenion ystyried pa mor addas ydyw i weithio gyda phobl o dan 18 oed, oherwydd bod y person hwnnw wedi byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig, rhaid gwneud y gwiriadau y bernir eu bod yn addas gan roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Mae person yn esempt rhag y gofyniad i gael gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol a, pan fo'n gymwys, gwiriadau pellach y tu allan i'r Deyrnas Unedig, os yw wedi gweithio gyda phobl dan 18 oed mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach yng Nghymru o fewn y cyfnod blaenorol o dri mis.

Pan fo person i'w benodi gan gorff llywodraethu'r sefydliad, mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu wneud y gwiriadau. Pan fo person yn cael ei gyflenwi gan fusnes cyflogi (gan gynnwys awdurdod lleol) i ddarparu addysg mewn sefydliad, ni chaiff y corff llywodraethu dderbyn y person hwnnw i weithio yn y sefydliad hyd nes i'r corff llywodraethu gael cadarnhad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogi bod pob gwiriad perthnasol wedi cael ei wneud. Yn ogystal â hynny, rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau bod ei gontract neu'i drefniadau eraill gyda'r busnes cyflogi yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r busnes cyflogi wneud y gwiriadau.

Hefyd, rhaid i gorff llywodraethu sefydliad gadw cofrestr o'r holl bersonau sy'n darparu addysg yn y sefydliad. Rhaid i'r gofrestr ddangos p'un a yw'r gwiriadau a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud ai peidio neu p'un a yw'r cadarnhadau ysgrifenedig perthnasol wedi dod i law o ran pob person sy'n darparu addysg ynghyd â'r dyddiadau y gwnaed y gwiriadau neu y cafwyd y cadarnhadau.

(1)

2002 p.32; a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Addysg 2002 ac a drosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

1997 p. 50; mewnosodwyd adrannau 113A, 113B a 113C gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p. 15), adran 163(2).

(6)

Mae i “sefydliad addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education institution” yn adran 140(3) o Ddeddf Addysg 2002.