xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
mae i “cyrff y GIG yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “Welsh NHS bodies” gan baragraff 2 o Atodlen 12B i Ddeddf 1977 sydd i'w mewnosod gan Atodlen 3 i'r Ddeddf;
ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1); ac
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2006.