- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Wedi'u gwneud
19 Mehefin 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Mehefin 2007
Yn dod i rym
13 Gorffennaf 2007
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Pasbortau Planhigion) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 13 Gorffennaf 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdodiad” (“authority”) yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006(2) neu, yn ôl y digwydd, o dan erthygl 29 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(3); a
mae i'r ymadrodd “pasbort planhigion” (“plant passport”) yr ystyr a roddir iddo gan—
erthygl 2 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 o ran awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwnnw; neu
erthygl 2(1) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 o ran awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwnnw.
3.—(1) Rhaid talu'r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru o ran unrhyw arolygiad (gan gynnwys gwiriad o gofnodion busnes) sy'n cael ei gynnal mewn cysylltiad ag—
(a)cais am awdurdodiad; neu
(b)sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdodiad yn rhinwedd erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 neu erthygl 29 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006.
(2) Y ffi yw £20.25 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr y mae arolygydd yn ei dreulio ar y safle gyda lleiafswm o £40.50 o ran unrhyw ymweliad.
4. Dirymir y Rheoliadau canlynol i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru—
(a)Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) 1993(4); a
(b)Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1997(5).
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwleidig un o Weinidogion Cymru
19 Mehefin 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhagnodi ffioedd o ran arolygiadau a wneir at ddibenion rhoi awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion (gan gynnwys gwirio cofnodion busnes) o dan naill ai Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy. 158)) neu Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 (O.S. 2004/1344 (Cy. 134)) (“y Gorchmynion”).
O dan y Gorchmynion, mae'n ofynnol i blanhigion rhestredig penodol, cynhyrchion planhigion penodol a gwrthrychau eraill gael pasbort planhigion ar gyfer symud o fewn y Gymuned Ewropeaidd gan gynnwys unrhyw fasnachu o fewn y Deyrnas Unedig. Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi cynhyrchwyr, masnachwyr a mewnforwyr deunyddiau o'r fath i ddyroddi pasbortau planhigion. Mae'r broses awdurdodi ddechreuol yn golygu arolygu'r fangre a'r deunydd planhigion rhestredig ac mae'n cynnwys gwirio cofnodion busnes a chaniateir cynnal arolygiadau pellach ar ôl rhoi'r awdurdodiad er mwyn sicrhau cydymffurfedd â gofynion perthnasol.
Pennir y ffioedd sy'n daladwy o ran y cyfryw arolygiadau yn rheoliad 3(2).
Mae rheoliad 4 yn dirymu Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) 1993 (O.S. 1993/1642) a Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/1961). Nid oes newid yn lefel y ffioedd a geir yn O.S. 1997/1961 ond maent yn awr yn gymwys hefyd i awdurdodiadau o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006.
Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1973 p. 51. Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwer hwn yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: