- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
51. Wrth gymhwyso'r maen prawf hwn bydd Gweinidogion Cymru yn mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol.
(a)Pa gamau, os oes rhai, mae'r awdurdod yn cynllunio eu cymryd wrth gyflawni ei ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith?
(b)Pa gamau, os oes rhai, mae'r awdurdod wedi'u cymryd mewn gwirionedd wrth gyflawni ei ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith?
(c)Pa dystiolaeth sydd ar gael i ddangos bod yr awdurdod yn ystyried y camau hynny a fydd yn cyfrannu at sicrhau—
(i)defnydd mwy effeithiol o'i rwydwaith; neu
(ii)osgoi, diddymu neu leihau tagfeydd neu amhariad arall i symudiad traffig ar ei rwydwaith ffyrdd neu ar rwydwaith ffyrdd y mae awdurdod arall yn awdurdod traffig arno?
(ch)Pa bwerau ar gyfer rheoleiddio neu gydgysylltu'r defnydd a wneir o unrhyw ffordd (neu ran o ffordd) yn y rhwydwaith ffyrdd, os oes rhai, mae'r awdurdod yn bwriadu eu harfer fel rhan o unrhyw gamau cynllunio?
(d)A ydyw'r awdurdod wedi arfer unrhyw bwerau o'r fath fel rhan o unrhyw gamau a gymrwyd?
(dd)A ydyw'r awdurdod wedi penodi rheolwr traffig?
(e)Os felly, a ydyw'r rheolwr traffig yn cyflawni'r tasgau hynny y mae'r awdurdod yn ystyried y byddant yn gymorth iddo i gyflawni ei ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith?
(f)Pa bethau mae'r awdurdod wedi eu dynodi sy'n peri—
(i)tagfeydd ffyrdd ar ei rwydwaith ffyrdd; neu
(ii)amhariad arall ar symudiad traffig ar y rhwydwaith hwnnw?
(ff)Pa bethau mae'r awdurdod wedi'u dynodi (gan gynnwys digwyddiadau yn y dyfodol) y mae ynddynt y potensial i beri—
(iii)tagfeydd ffyrdd ar ei rwydwaith ffyrdd; neu
(iv)amhariad arall ar symudiad traffig ar y rhwydwaith hwnnw?
(g)Pa gamau posibl mae'r awdurdod wedi'u hystyried y gellid eu cymryd wrth ymateb i, neu wrth rag-weld, unrhyw beth felly a ddynodwyd?
(ng)I ba raddau mae unrhyw gamau o'r fath wedi'u cymryd?
(h)Pa bolisïau neu amcanion penodol mae'r awdurdod wedi penderfynu arnynt o ran gwahanol ffyrdd neu wahanol ddosbarthau o ffyrdd yn ei rwydwaith ffyrdd?
(i)Beth yw canlyniad monitro'r awdurdod ar effeithiolrwydd—
(i)ei drefniadaeth;
(ii)ei brosesau penderfynu; a
(iii)gweithredu ei benderfyniadau?
(j)Beth yw canlyniad asesiad yr awdurdod ar ei berfformiad wrth reoli ei rwydwaith ffyrdd?
(l)Beth yw canlyniad adolygiad yr awdurdod ar effeithiolrwydd y trefniadau sydd ganddo ar waith o dan adran 17 o'r Ddeddf?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: