- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
49. Wrth gymhwyso'r maen prawf hwn, bydd Gweinidogion Cymru yn mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol.
(a)A ydyw'r awdurdod wedi ystyried pa drefniadau a all fod yn briodol ar gyfer—
(i)cynllunio'r camau sydd i'w cymryd i gyflawni'r ddyletswydd o dan adran 16 o'r Ddeddf; a
(ii)cyflawni'r camau hynny;
ac os yw'n ystyried bod hynny'n briodol a ydyw wedi gwneud trefniadau o'r fath? (Gweler adran 17(1)).
(b)A ydyw'r trefniadau'n cynnwys darpariaeth ar gyfer penodi rheolwr traffig? (Gweler adran 17(2)).
(c)A ydyw'r trefniadau'n cynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu proses i sicrhau, i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol, fod yr awdurdod yn-
(i)dynodi'r pethau sy'n peri tagfeydd ar ei rwydwaith ffyrdd, neu amhariad arall ar symudiad traffig ar y rhwydwaith hwnnw;
(ii)dynodi'r pethau (gan gynnwys digwyddiadau y dyfodol) y mae'r potensial ynddynt i beri tagfeydd ar ei rwydwaith ffyrdd, neu amhariad arall ar symudiad traffig ar y rhwydwaith hwnnw; a
(iii)ystyried unrhyw gamau posibl y gellir eu cymryd wrth ymateb i, neu wrth rag-weld, unrhyw beth felly a ddynodwyd? (Gweler adran 17(4)).
Wrth fynd i'r afael â'r cwestiwn hwn ni fydd Gweinidogion Cymru yn disgwyl gweld darpariaeth ar gyfer sefydlu proses i ystyried neu ddynodi unrhyw beth y mae'n ymddangos ei fod yn cael effaith ddi-nod yn unig (neu effaith bosibl) ar symudiad traffig ar rwydwaith yr awdurdod.
(ch)A ydyw'r trefniadau'n cynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau bod yr awdurdod yn—
(iv)penderfynu polisïau neu amcanion penodol o ran gwahanol ffyrdd neu wahanol ddosbarthau o ffyrdd yn ei rwydwaith ffyrdd;
(v)monitro effeithiolrwydd ei drefniadaeth a'r prosesau o wneud penderfyniadau a gweithredu ei benderfyniadau; a
(vi)asesu ei berfformiad wrth reoli ei rwydwaith? (Gweler adran 17(5)).
(d)A ydyw'r awdurdod wedi adolygu'n gyson effeithiolrwydd y trefniadau hyn? (Gweler adran 17(6)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: