- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
18.—(1) Gosodir y dyletswyddau i reoli'r rhwydwaith yn adrannau 16 a 17 o'r Ddeddf ac at ddibenion penderfynu natur a rhychwant pob dyletswydd dylid dibynnu ar eiriad manwl y ddeddfwriaeth yn unig. Er hynny, gallai fod o gymorth i edrych ar y dyletswyddau yn fanylach ac yn unol â hynny gosodir hwy fel a ganlyn mewn fformat ychydig yn ehangach.
(2) O dan adran 16 (dyletswydd i reoli'r rhwydwaith), rhaid i awdurdod reoli ei rwydwaith ffyrdd er mwyn cyflawni dau amcan, i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol gan gofio am ei rwymedigaethau, polisïau ac amcanion eraill. Dyma'r ddau amcan-
(a)diogelu bod traffig yn symud yn hwylus ar y rhwydwaith hwnnw, a
(b)hwyluso traffig i symud yn hwylus ar rwydweithiau ffyrdd y mae awdurdod arall yn awdurdod traffig arnynt.
(3) Mae adran 17 (trefniadau ar gyfer rheoli'r rhwydwaith) yn gosod nifer o ddyletswyddau ychwanegol ar awdurdod sy'n ddyletswyddau unigol at ddibenion adrannau 20 a 21 ond sydd er hynny wrth wraidd y brif ddyletswydd o dan adran 16. Gosodir y rhain yn fanylach yn yr is-baragraffau canlynol.
(4) Mae gan awdurdod ddyletswydd i wneud y trefniadau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol ar gyfer—
(a)cynllunio'r camau sydd i'w cymryd wrth gyflawni'r ddyletswydd i reoli'r rhwydwaith, a
(b)cyflawni'r camau hynny.
(5) Mae gan awdurdod ddyletswydd i sicrhau bod y trefniadau hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer penodi rheolwr traffig.
(6) Mae gan awdurdod ddyletswydd i sicrhau bod y trefniadau hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu proses i sicrhau (i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol) ei fod yn—
(a)dynodi'r pethau sy'n peri—
(i)tagfeydd ffyrdd ar ei rwydwaith ffyrdd, neu
(ii)amhariad arall ar symudiad traffig ar y rhwydwaith hwnnw;
(b)dynodi'r pethau (gan gynnwys digwyddiadau yn y dyfodol) a allai beri—
(i)tagfeydd ffyrdd ar ei rwydwaith ffyrdd, neu
(ii)amhariad arall ar symudiad traffig ar y rhwydwaith hwnnw; ac
(c)ystyried unrhyw gamau posibl y gellid eu cymryd—
(i)wrth ymateb i, neu
(ii)wrth rag-weld,
unrhyw beth felly a ddynodwyd,
ond nid yw hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddynodi neu ystyried unrhyw beth y mae'n ymddangos ei fod yn cael effaith ddi-nod (neu effaith bosibl) ar symudiad traffig ar ei rwydwaith.
(7) Mae gan awdurdod ddyletswydd i sicrhau bod y trefniadau hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau ei fod yn—
(a)penderfynu polisïau neu amcanion penodol o ran—
(i)ffyrdd gwahanol yn ei rwydwaith ffyrdd, neu
(ii)dosbarthau gwahanol o ffordd yn y rhwydwaith hwnnw;
(b)monitro effeithiolrwydd—
(i)ei drefniadaeth,
(ii)ei broses benderfynu, a
(iii)gweithredu ei benderfyniadau; ac
(c)asesu ei berfformiad wrth reoli ei rwydwaith.
(8) Mae gan awdurdod ddyletswydd bellach i adolygu'n gyson effeithiolrwydd y trefniadau sydd ganddo ar waith o dan adran 17 o'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: