- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Erthyglau 4 a 5
1. Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw'r canlynol—
(a)enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd;
(b)cyfeiriad a Rhif ffôn y ddeorfa;
(c)capasiti deor y ddeorfa; ac
(ch)rhywogaeth y dofednod a gaiff eu deor yn y ddeorfa.
2. Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw'r canlynol—
(a)enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y daliad;
(b)enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd a'r person sydd piau pob haid fridio ar y daliad;
(c)nifer yr heidiau bridio ar y daliad;
(ch)dull adnabod pob haid fridio ar y daliad;
(d)y rhywogaethau ym mhob haid fridio ar y daliad;
(dd)nifer y dofednod ym mhob haid fridio ar y daliad;
(e)p'un ai ddodwywyr fridwyr neu fridwyr cig yw'r dofednod ym mhob haid fridio ar y daliad; ac
(f)statws pob haid fridio ar y daliad yn y pyramid bridio.
Erthygl 9(2)
1.—(1) Mae'r samplau canlynol i'w cymryd pan fo'r adar yn gywion—
(a)1 leinin blychau cywion, hyd at uchafswm o 10, ar gyfer pob 500 o gywion a ddanfonir o'r ddeorfa; a
(b)carcas pob cyw, o bob deorfa, hyd at uchafswm o 60, sydd wedi marw erbyn cyrraedd y daliad.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “leinin blychau cywion” (“chick box liner”) yw unrhyw ddeunydd a ddefnyddir i leinio blwch neu gynhwysydd arall y caiff cywion eu cludo ynddo o'r ddeorfa i'r daliad.
2.—(1) Mae'r samplau canlynol i'w cymryd o bob haid o adar pedair wythnos oed a phob haid ddwy wythnos cyn i'r haid ddechrau dodwy neu symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy—
(a)swabiau o isafswm o ddau bâr o esgidiau; neu
(b)sampl gyfansawdd o ysgarthion.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “sampl gyfansawdd o ysgarthion” (“a composite faeces sample”) yw sampl o ysgarthion sy'n nifer o samplau unigol sydd wedi'u cyfrifo'n unol â'r Tabl canlynol, ac y mae pob un ohonynt yn pwyso nid llai nag 1 gram, ac sydd wedi'u cymryd o safle a ddewiswyd ar hap i gynrychioli'r adeilad neu'r grwp o adeiladau ar y daliad lle y cymerwyd y sampl.
Mae nifer y safleoedd lle y mae samplau ar wahân o ysgarthion i'w cymryd er mwyn gwneud sampl gyfansawdd fel a ganlyn—
| Nifer yr adar a gedwir yn yr adeilad | Nifer y samplau o ysgarthion sydd i'w cymryd yn yr adeilad |
|---|---|
| 1—24 | Nifer sy'n hafal i nifer yr adar, hyd at uchafswm o 20 |
| 25—29 | 20 |
| 30—39 | 25 |
| 40—49 | 30 |
| 50—59 | 35 |
| 60—89 | 40 |
| 90—199 | 50 |
| 200—499 | 55 |
| 500 neu fwy | 60 |
Erthyglau 11, 12 a 16
1. Yr wybodaeth sydd i'w chofnodi yw'r canlynol—
(a)y math o sampl a gymerir;
(b)y dyddiad y cymerwyd y sampl;
(c)dull adnabod yr haid fridio y daeth y sampl ohoni;
(ch)oed yr haid fridio y daeth y sampl ohoni;
(d)y labordy a gymeradwywyd lle yr anfonwyd y sampl; ac
(dd)canlyniad unrhyw brawf ar unrhyw sampl y rhoddwyd adroddiad arno i'r meddiannydd yn unol ag erthygl 13(2)(c).
2. Yr wybodaeth sydd i'w chofnodi yw'r canlynol—
(a)dyddiad symud;
(b)nifer y ffowls domestig, y cywion neu'r wyau a symudir;
(c)oed y ffowls domestig neu'r cywion a symudir;
(ch)yn achos symud haid fridio gyfan o ffowls domestig, dull adnabod yr haid honno;
(d)manylion adnabod yr adeilad neu'r grŵ p o adeiladau lle y gosodwyd unrhyw ffowls domestig, cywion neu wyau a symudwyd i'r daliad, neu y symudwyd ffowls domestig, cywion neu wyau ohono o'r daliad;
(dd)yn achos unrhyw ffowls domestig, cywion neu wyau a symudwyd i'r daliad, y cyfeiriad y symudwyd hwy ohono i'r daliad; ac
(e)yn achos unrhyw ffowls domestig, cywion neu wyau a symudwyd o'r daliad, y cyfeiriad y symudwyd hwy iddo.
3. Yr wybodaeth sydd i'w chofnodi yw'r canlynol—
(a)dyddiad symud;
(b)nifer yr wyau a symudwyd;
(c)cyfeiriad y mangreoedd y symudwyd yr wyau ohonynt, yn achos wyau a symudwyd i'r ddeorfa; ac
(ch)cyfeiriad y mangreoedd y symudwyd yr wyau iddynt, yn achos wyau a symudwyd o'r ddeorfa.
4. Yr wybodaeth sydd i'w chofnodi yw'r canlynol—
(a)dyddiad symud;
(b)nifer y cywion a symudwyd; ac
(c)cyfeiriad y mangreoedd y symudwyd y cywion iddynt.
Erthygl 13(2)(a)(i)
Rhaid paratoi leinin blychau cywion fel a ganlyn—
(a)cyfran o isafswm o 1 gram i'w chymryd o ran wedi'i baeddu ar bob leinin; a
(d)rhaid i'r cyfrannau o wahanol leininau gael eu gwasgu gyda'i gilydd a'u rhoi mewn Dwr Pepton Byfferog (BPW) ar raddfa o nid mwy nag 1 gram o leinin i bob 10 ml o BPW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: