RHAN 3Rheoli salmonela mewn Gallus gallus
PENNOD 1Dyletswyddau meddiannydd
Cofnodion symudiadau12
1
Rhaid i'r meddiannydd gadw cofnod o'r wybodaeth yn Atodlen 3, paragraff 2, mewn cysylltiad â symud i'r daliad neu o'r daliad unrhyw ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus neu eu cywion neu eu hwyau.
2
Rhaid iddo gadw'r cofnod am ddwy flynedd ar ôl dyddiad symud y ffowls.