Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle'r O.S. â'r un enw a gafodd ei gyhoeddi'n anghywir fel O.S. 2007/1086 (Cy.115). Darperir copi yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddus eu bod wedi derbyn yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 1357 (Cy.128)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

27 Mawrth 2007

Yn dod i rym

2 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yntau'n arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(1) a (3), 10 a 140(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1) ac adrannau 50 a 118(1) a (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:—

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 2 Ebrill 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arweiniad plant” (“children’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a gynhyrchwyd yn unol â rheoliad 4;

mae gan “asiantaeth fabwysiadu” (“adoption agency”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 2(1) o Ddeddf Mabwysiadau a Phlant 2002;

ystyr “Bwrdd Lleol Diogelu Plant” (“Local Safeguarding Children Board”) yw bwrdd a sefydlwyd o dan adran 31 o Ddeddf Plant 2004;

mae i'r ymadrodd “cofnod achos y plentyn” (“the child’s case record”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 6;

ystyr “cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services advisor”) yw'r person a benodwyd yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005(3);

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a lunnir yn unol â rheoliad 3(1);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000(4);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(5);

ystyr “diwrnodau gwaith” (“working days”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl y banc o fewn yr ystyr yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(6);

mae i “gwarcheidwad” (“guardian”) yr ystyr a roddir i guardian yn adran 5 o Ddeddf Plant 1989;

ystyr “gwasanaeth mabwysiadu” (“adoption service”) yw cyflawni gan awdurdod lleol swyddogaethau mabwysiadu perthnasol o fewn ystyr adran 43(3)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr gweithwyr cymdeithasol a gedwir yn unol ag adran 56 o Ddeddf 2000;

ystyr “panel Mabwysiadu” (“adoption panel”) yw panel a sefydliwyd yn unol a rheoliad 3 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005(7)

ystyr “Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005” (“the 2005 Adoption Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(8);

mae “rheolwr” (“manager”) i'w ddehongli'n unol â rheoliad 10;

ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â gwasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol—

(a)

os yw swyddfa a reolir gan y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i phennu ganddo yn swyddfa briodol mewn perthynas â'r awdurdod lleol hwnnw, y swyddfa honno,

(b)

mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —

(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at reoliad yn y Rheoliadau hyn neu Atodlen i'r Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu yn yr Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.

(3Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—

(a)cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio;

(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau; a

(c)caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;

ac mae cyfeiriadau at gyflogai neu at berson a gyflogir i'w dehongli yn unol â hynny.

Datganiad o ddiben

3.—(1Mewn perthynas â'r gwasanaeth mabwysiadu, rhaid i bob awdurdod lleol lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben”) a rhaid i'r datganiad fod yn ddatganiad o'r materion a restrir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i'r awdurdod roi copi o'r datganiad o ddiben i'r Cynulliad Cenedlaethol a, phan wneir cais am gopi, rhaid iddo sicrhau bod copi ohono ar gael i'w archwilio gan—

(a)plant a all gael eu mabwysiadu, eu rhieni a'u gwarcheidwaid;

(b)personau sy'n dymuno mabwysiadu plentyn;

(c)personau a fabwysiadwyd, eu rhieni, eu rhieni naturiol a'u cyn-warcheidwaid;

(ch)personau sy'n gwneud cais am asesiad o'u hanghenion er mwyn i wasanaethau cymorth mabwysiadu gael eu darparu ar eu cyfer gan yr awdurdod;

(d)pob person sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r awdurdod sicrhau bod y modd y cynhelir ei wasanaeth mabwysiadu bob amser yn unol â'i ddatganiad o ddiben.

(4Nid oes dim ym mharagraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn neu i beidio â chydymffurfio â hi neu'n ei awdurdodi i wneud hynny.

Arweiniad plant

4.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth mabwysiadu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad plant”) ac mae'n orfodol mai datganiad ydyw o'r materion a restrir yn Atodlen 2.

(2Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r arweiniad plant ar gyfer—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)pob darpar fabwysiadydd y mae'r awdurdod wedi lleoli gydag ef blentyn i'w fabwysiadu; ac

(c)pob plentyn (yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth y plentyn hwnnw) a all gael ei leoli, neu sydd wedi ei leoli, gan yr awdurdod i'w fabwysiadu.

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant

5.  Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)adolygu'n rheolaidd a, phan fo hynny'n briodol, ddiwygio'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant; a

(b)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 o ddiwrnodau.

Gofyniad i agor cofnod achos plentyn

6.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu cofnod achos (“cofnod achos y plentyn”) mewn perthynas â phob plentyn a gosod arno—

(a)unrhyw wybodaeth ac adroddiadau a ddaeth i law'r awdurdod lleol mewn cysylltiad â'r plentyn;

(b)adroddiad sefydlogrwydd y plentyn;

(c)unrhyw gofnod ysgrifenedig o unrhyw drafodion panel mabwysiadu o dan reoliad 18 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005, ei argymhelliad ynghylch â ddylai plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ai peidio, a'r rhesymau dros ei argymhelliad ac unrhyw gyngor a roddwyd gan y panel i asiantaeth fabwysiadu;

(ch)unrhyw gofnod o benderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu ac unrhyw hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw o dan reoliad 19 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;

(d)manylion unrhyw gydsyniad gan riant neu warcheidwad plentyn i leoli i fabwysiadu o dan reoliad 19 o Ddeddf 2002 (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant);

(dd)manylion unrhyw gydsyniad gan riant neu warcheidwad plentyn i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o Ddeddf 2002 (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu);

(e)unrhyw ffurflen neu hysbysiad yn tynnu yn ôl gydsyniad o dan adran 19 neu 20 o Ddeddf 2002 neu hysbysiad o dan adran 20(4)(a) neu (b) o Ddeddf 2002.;

(f)copi o unrhyw orchymyn lleoliad mewn cysylltiad â'r plentyn; ac

(ff)unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall a ddaw i law'r awdurdod lleol ac y mae'r awdurdod o'r farn y dylent gael eu cynnwys neu y dylai gael ei chynnwys yn y cofnod achos..

Rhieni Naturiol

7.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol, pan fydd o'r farn mai mabwysiadu yw'r dewis gorau ar gyfer plentyn, neu pan fydd plentyn yn cael ei ildio, ddarparu'r canlynol ar gyfer rhieni naturiol:—

(a)gwasanaeth cwnsela;

(b)cymaint o wybodaeth mewn perthynas â'r plentyn ag y byddo'n rhesymol i rieni naturiol ofyn amdani, ac ag y gall yr awdurdod lleol ei rhoi;

(c)eglurhad a gwybodaeth ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r materion canlynol:—

(i)y weithdrefn mewn cysylltiad â lleoli i fabwysiadu ac â mabwysiadu, gan gynnwys y Gofrestr Mabwysiadu i Gymru a Lloegr;

(ii)goblygiadau cyfreithiol—

(aa)rhoi cydsyniad i leoli i fabwysiadu o dan adran 19 o Ddeddf 2002 (gosod plant gyda chydsyniad rhiant);

(bb)rhoi cydsyniad i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o Ddeddf 2002; (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu);

(cc)gorchymyn lleoliad;

(dd)mabwysiadu;

(2Rhaid i bob awdurdod lleol, pan fydd o'r farn mai mabwysiadu yw'r dewis gorau ar gyfer plentyn, neu pan fydd plentyn yn cael ei ildio, ganfod dymuniadau a theimladau rhieni naturiol a gwarcheidwad y plentyn ac unrhyw berson arwyddocaol arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn ei fod yn berthnasol mewn cysylltiad —

(a)â'r materion a nodir yn adran 1(4)(f)(ii) a (iii) o Ddeddf 2002 (materion y mae'n rhaid i'r asiantaeth roi sylw iddynt);

(b)â lleoli'r plentyn i'w fabwysiadu ac â'i fabwysiadu, gan gynnwys unrhyw ddymuniadau a theimladau ynghylch magwraeth grefyddol a diwylliannol y plentyn; a

(c)â chyswllt â'r plentyn os yw'r asiantaeth wedi ei hawdurdodi i leoli'r plentyn i'w fabwysiadu neu os caiff y plentyn ei fabwysiadu.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan na fo gan dad plentyn gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, a phan fo'r awdurdod lleol yn gwybod pwy yw tad y plentyn.

(4Pan fo paragraff (3) yn gymwys a'r awdurdod lleol wedi'i fodloni ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid i'r awdurdod lleol ganfod, i'r graddau y bo hynny'n bosibl, p'un a yw'r tad—

(i)yn dymuno caffael cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn o dan adran 4 o Ddeddf Plant 1989; neu

(ii)yn bwriadu gwneud cais am orchymyn preswyl neu orchymyn cyswllt o dan adran 8 o Ddeddf Plant 1989 mewn cysylltiad â'r plentyn, neu os yw'r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal, yn bwriadu gwneud cais am orchymyn o dan adran 34 o Ddeddf Plant 1989 (cyswllt rhwng rhieni a phlant mewn gofal).

Darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr a gymeradwyir

8.  Mae'n orfodol—

(a)bod gan bob awdurdod lleol gynlluniau ysgrifenedig o'i strategaeth ar recriwtio niferoedd digonol o fabwysiadwyr;

(b)bod gan bob awdurdod lleol gynlluniau cynhwysfawr ar gyfer prosesau paratoi a chymeradwyo mabwysiadwyr yn gynwysedig o fewn ei bolisïau a'i weithdrefnau;

(c)bod pob awdurdod lleol yn darparu ar gyfer darpar fabwysiadwyr wybodaeth ysgrifenedig ynghylch y broses fabwysiadu gan gynnwys gwybodaeth am:—

(i)y polisi a'r gweithdrefnau o ran y broses fabwysiadu

(ii)trefniadau ar gyfer asesu Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu a'u darparu

(iii)y Gofrestr Fabwysiadu i Gymru a Lloegr, a

(iv)trefniadau consortiwm lleol;

(ch)bod pob awdurdod lleol yn darparu cymorth pan fydd tarfu wedi bod neu mewn perygl o fod ar leoliad, gan gynnwys cymorth cyfryngu a threfnu cyfarfodydd i drafod tarfu ar leoliadau mabwysiadu.

Paneli mabwysiadu

9.—(1O ran pob awdurdod lleol—

(a)rhaid iddo sefydlu panel mabwysiadu yn unol â rheoliadau 3 a 5 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;

(b)mae'n orfodol bod ganddo ar waith bolisiau ysgrifenedig er mwyn sicrhau bod y panel wedi ei drefnu'n effeithiol ac yn gweithredu'n effeithlon;

(c)rhaid iddo sicrhau bod paneli mabwysiadu'n cael eu cynghori'n briodol gan berson wedi cymhwyso'n briodol o ran mabwysiadau gydag elfen dramor yn gysylltiedig â hwy os yw achos o'r fath yn cael ei ystyried;

(ch)pan fydd o'r farn mai mabwysiadu yw'r dull gorau o sicrhau sefydlogrwydd y plentyn rhaid iddo baratoi adroddiad ysgrifenedig ar gyfer y panel mabwysiadu y mae'n orfodol iddo gynnwys:—

(i)yr wybodaeth am y plentyn, teulu'r plentyn ac eraill a'r gwarcheidwad fel y nodir yn Rhannau 1, 3 a 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;

(ii)crynodeb wedi ei ysgrifennu gan gynghorydd meddygol yr awdurdod lleol, ar gyflwr iechyd y plentyn, hanes iechyd y plentyn ac unrhyw angen am ofal iechyd a allai godi yn y dyfodol;

(iii)dymuniadau a theimladau'r plentyn ynglŷn â'r materion a nodir yn rheoliad 13(1)(c) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;

(iv)dymuniadau a theimladau rhiant neu warcheidwad y plentyn, ac unrhyw berson arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn ei fod yn berthnasol, ynglŷn â materion a nodir yn rheoliad 14(1)(c) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;

(v)barn yr awdurdod lleol am angen y plentyn am gyswllt â rhiant neu warcheidwad y plentyn neu â pherson arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn ei fod yn berthnasol a'r trefniadau y bwriada'r awdurdod lleol eu gwneud er mwyn caniatáu i unrhyw berson gael cyswllt â'r plentyn;

(vi)asesiad o ddatblygiad emosiynol y plentyn a'i ddatblygiad o ran ymddygiad ac unrhyw angen cysylltiedig;

(vii)asesiad o gynneddf rhiant neu warcheidwad y plentyn i fod yn rhiant, ac os nad oes gan dad plentyn gyfrifoldeb dros y plentyn ac fe wybyddir pwy yw'r tad, asesiad o gyneddf hwnnw i fod yn rhiant hefyd;

(viii)cronoleg o'r penderfyniadau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol ynglyn â'r plentyn;

(ix)dadansoddiad o'r opsiynau o ran gofalu am y plentyn yn y dyfodol sydd wedi eu hystyried gan yr awdurdod lleol, ac os yn berthnasol, pam yr ystyrir mai lleoliad i fabwysiadu yw'r dewis gorau; a

(x)unrhyw wybodaeth arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn ei bod yn berthnasol.

(d)rhaid i'r awdurdod lleol anfon, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall y gallai'r panel mabwysiadu ofyn amdani a rhaid iddo anfon yr wybodaeth honno at y panel mabwysiadu;

(dd)i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, rhaid i'r awdurdod lleol gaffael unrhyw wybodaeth berthnasol arall y gallai'r panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel mabwysiadu.

(2Pan fo'r awdurdod lleol, ac yntau wedi dilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 23 a 25 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005, o'r farn y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol, rhaid iddo wneud asesiad yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;

(a)Rhaid i'r awdurdod lleol gaffael y manylion hynny am y darpar fabwysiadydd y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;

(b)Rhaid i'r awdurdod lleol hefyd gaffael:—

(i)adroddiad ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol cofrestredig am iechyd y darpar fabwysiadydd, ac mae'n rhaid i'r adroddiad ymdrin â'r materion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 4 i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005, oni chafodd adroddiad o'r fath ei lunio o fewn 6 mis ar ôl i'r panel ystyried yr achos o dan reoliad 27 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005, a'i fod ar gael i'r awdurdod lleol;

(ii)adroddiad ysgrifenedig am bob un o'r cyfweliadau gyda'r personau a enwebwyd gan y darpar fabwysiadydd yn ganolwyr personol; ac

(iii)adroddiad ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol y mae'r darpar fabwysiadydd yn byw yn ei ardal, a phan fo'r darpar fabwysiadydd wedi byw yn yr ardal honno am gyfnod sy'n llai na deuddeng mis rhaid i'r awdurdod lleol gaffael adroddiad ysgrifenedig hefyd gan yr awdurdod lleol yr oedd y darpar fabwysiadydd yn byw yn ei ardal cyn hynny.

(c)Rhaid i'r awdurdod lleol baratoi adroddiad ysgrifenedig sy'n cynnwys—

(i)manylion am y darpar fabwysiadydd fel y nodir yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;

(ii)crynodeb, a ysgrifennwyd gan gynghorydd meddygol yr asiantaeth, ar gyflwr iechyd y darpar fabwysiadydd;

(iii)asesiad yr awdurdod lleol o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn, ac wrth benderfynu pa mor addas yw cwpwl i fabwysiadu plentyn rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw priodol i'r angen am barhâd a sefydlogrwydd yn eu perthynas;

(iv) unrhyw wybodaeth berthnasol y bydd yr awdurdod lleol yn ei chaffael o dan reoliad 26(4)(dd) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;

(v)unrhyw wybodaeth arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn ei bod yn berthnasol.

(ch)Mewn achos o dan adran 83 o Ddeddf 2002 rhaid i'r adroddiad gynnwys

(i)enw'r wlad (“y darddwlad”) y mae'r darpar fabwysiadydd yn dymuno mabwysiadu ohoni;

(ii)cadarnhad bod y darpar fabwysiadydd yn bodloni'r gofynion cymhwyster i fabwysiadu o'r darddwlad;

(iii)gwybodaeth ychwanegol sydd wedi'i chaffael o ganlyniad i ofynion y darddwlad; ac

(iv)asesiad yr awdurdod lleol o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn sy'n preswylio yn arferol y tu allan i Ynysoedd Prydain.

(d)Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r darpar fabwysiadydd os yw ei gais i'w atgyfeirio at y panel mabwysiadu ac, ar yr un pryd, rhaid iddo anfon copi at y darpar fawbysiadydd o adroddiad yr awdurdod lleol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) uchod, a gwahodd anfon yn ysgrifenedig at yr awdurdod lleol unrhyw sylwadau ar yr adroddiad a hynny o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.

(dd)Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (d) uchod (neu'n gynharach os daw unrhyw sylwadau a wnaed gan y darpar fabwysiadydd i law cyn bod 10 niwrnod gwaith wedi mynd heibio) rhaid i'r awdurdod lleol anfon at y panel mabwysiadu—

(i)yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (c) uchod, ynghyd ag unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y darpar fabwysiadydd o dan baragraff (d) uchod;

(ii)yr adroddiadau ysgrifenedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (ch) uchod; ac

(iii)unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ei chaffael o dan y rheoliad hwn;

(e)rhaid i'r awdurdod lleol, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, gaffael unrhyw wybodaeth berthnasol arall y gall fod ar y panel mabwysiadu ei hangen a rhaid iddo anfon yr wybodaeth honno at y panel.

(f)pan fo'r awdurdod lleol o'r farn y dylai'r lleoliad arfaethedig fynd yn ei flaen, rhaid i'r awdurdod lleol—

(i)gwneud asesiad o anghenion y plentyn a'r darpar deulu mabwysiedig ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn unol â'r rheoliadau a wneir o dan adran 4(6) o Ddeddf 2002;

(ii)ystyried y trefniadau ar gyfer caniatáu i unrhyw berson gael cyswllt â'r plentyn;

(iii)ystyried a oes cyfyngu i unrhyw raddau i fod ar gyfrifoldeb unrhyw riant neu warcheidwad, neu unrhyw ddarpar fabwysiadwyr:

(iv)paratoi adroddiad ysgrifenedig y mae'n orfodol iddo gynnwys—

(aa)rhesymau'r awdurdod lleol am awgrymu'r lleoliad;

(bb)yr wybodaeth sydd wedi'i chaffael yn rhinwedd paragraffau 32(3)(ch) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;

(cc)ei argymhellion ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, os o gwbl, yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 4(6) o Ddeddf 2002;

(dd)y trefniadau y bwriada'r awdurdod lleol eu gwneud er mwyn caniatáu i unrhyw berson gael cyswllt â'r plentyn;

(ee)argymhellion yr awdurdod lleol ar gyfer cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant unrhyw riant neu warcheidwad, neu ddarpar fabwysiadydd, a

(ff)unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r lleoliad arfaethedig.

RHAN 2RHEOLWYR

Penodi rheolwr

10.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu a rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o—

(a)enw'r person a benodwyd yn unol â'r rheoliad hwn; a

(b)y dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.

(2O ran y swyddog a benodir gan yr awdurdod lleol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu—

(a)rhaid iddo fod yn weithiwr cymdeithasol; a

(b)mae'n orfodol

(i)bod ganddo gymhwyster NVQ lefel 4 o leiaf mewn rheoli neu gymhwyster arall sy'n cyfateb o ran y cymwyseddau sy'n ofynnol gan NVQ lefel 4, neu

(ii)y bydd yn dechrau ymgymryd â'r cymhwyster pan benodir ef i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu, ac y bydd yn ennill y cymhwyster o fewn 3 blynedd i ddyddiad ei benodi, neu

(iii)y bydd yn ennill y cymhwyster erbyn y cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno arno, mewn amgylchiadau eithriadol; ac

(c)mae'n orfodol bod ganddo ddwy flynedd o leiaf o brofiad o weithio o fewn cyd-destun gofal plant, sef profiad a allai gynnwys rheoli asiantaeth fabwysiadu wirfoddol neu asiantaeth fabwysiadu awdurdod lleol, a hynny o fewn y pum mlynedd ddiwethaf.

(3Rhaid i'r awdurdod hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith os bydd y person a benodwyd o dan baragraff (1) yn peidio â bod yn rheolwr y gwasanaeth mabwysiadu.

Ffitrwydd rheolwr

11.—(1Dim ond person sy'n ffit i ymgymryd â'r swydd a gaiff fod yn rheolwr gwasanaeth mabwysiadu.

(2Nid yw person yn ffit i reoli gwasanaeth mabwysiadu—

(a)onid yw'r person hwnnw yn berson gonest o gymeriad dilychwin;

(b)o ystyried maint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben—

(i)onid oes ganddo'r cymwysterau, y sgiliau, a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu; a

(ii)onid yw'n ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu; ac

(c)onid oes gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.

Gofynion cyffredinol

12.—(1Rhaid i'r rheolwr, o ystyried—

(a)maint yr awdurdod lleol a'i ddatganiad o ddiben; a

(b)yr angen am ddiogelu a hybu lles plant a allai gael eu lleoli neu sydd wedi eu lleoli gan yr awdurdod i'w mabwysiadu,

reoli'r gwasanaeth mabwysiadu gyda gofal, hyfedredd a sgil digonol.

(2Rhaid i'r rheolwr ymgymryd o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu.

Hysbysu o dramgwyddau

13.  Rhaid i reolwr a gollfernir o unrhyw dramgwydd, p'un ai yng Nghymru neu yn rhywle arall, ysgrifennu i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—

(i)o ddyddiad a lle'r gollfarn;

(ii)o'r tramgwydd; a

(iii)o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.

RHAN 3Y MODD Y CYNHELIR GWASANAETH MABWYSIADU AWDURDOD LLEOL

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

14.  Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig—

(a)y bwriedir iddo ddiogelu rhag camdriniaeth neu esgeulustod bob plentyn a leolir i'w fabwysiadu gan yr awdurdod neu a all dderbyn neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod;

(b)sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn yn achos unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso;

(c)sy'n sicrhau bod y weithdrefn yn (b) yn gyson â gweithdrefnau'r Bwrdd Lleol Diogelu Plant;

(ch)sy'n sicrhau yr ymchwilir ar fyrder i'r holl honiadau a digwyddiadau o gam-drin mewn perthynas â staff yr asiantaeth neu ei gwirfoddolwyr a bod manylion yr ymchwiliad a'r camau a gymerwyd yn cael eu cofnodi ar ffeil a agorwyd ac a gedwir yn benodol i'r pwrpas hwnnw, a bod manylion hefyd yn cael eu rhoi ar gofnod y defnyddiwr gwasanaeth;

(d)sy'n sicrhau bod cofnodion ar wahân yn cael eu cadw mewn cysylltiad â:

(i)yr holl staff, ac unrhyw bersonau eraill a gyflogir neu sydd o dan gontract i ddarparu gwasanaethau,

(ii)cwynion,

(iii)unrhyw honiadau a wneir yn erbyn unrhyw berson.

Staffio

15.  Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau, o ystyried—

(a)maint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben; a

(b)yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant a all gael eu lleoli, neu sydd wedi eu lleoli, gan yr awdurdod i'w mabwysiadu neu a all dderbyn neu sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu ganddo,

bod nifer digonol o bersonau sy'n briodol o ran cymhwyster, hyfedredd a phrofiad yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu, a bod gan yr awdurdod lleol bolisi recriwtio ysgrifenedig clir ar gyfer recriwtio'i staff.

Ffitrwydd gweithwyr

16.—(1Rhaid i awdurdod lleol beidio ag—

(a)cyflogi person i weithio at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu onid yw'r person hwnnw'n ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu; neu

(b)caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu onid yw'r person hwnnw'n ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir, ac eithrio gan yr awdurdod mewn safle sy'n caniatáu i'r person hwnnw, wrth i'r person hwnnw gyflawni'i ddyletswyddau, fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant a all gael eu lleoli, neu sydd wedi cael eu lleoli, gan yr awdurdod i'w mabwysiadu neu a all dderbyn neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod.

(3At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu awdurdod—

(a)onid yw'r person hwnnw'n berson gonest ac o gymeriad dilychwin;

(b)onid oes gan y person hwnnw'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;

(c)onid yw'r person hwnnw'n ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud y gwaith y mae i'w gyflawni;

(ch)onid oes gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3; a

(d)onid oes gan y person hwnnw dystysgrif SCT (CRB) gyfredol ar y lefel briodol, a bod y cyfryw dystysgrif SCT (CRB) yn cael ei hadnewyddu bob tair blynedd.

(4Rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw bersonau sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu, nad ydynt yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod, ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt yn cael eu goruchwylio'n briodol tra byddant yn cyflawni eu dyletswyddau.

Cyflogi staff

17.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)sicrhau bod pob penodiad parhaol a wneir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu yn ddarostyngedig i gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a

(b)darparu ar gyfer pob cyflogai a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu swydd-ddisgrifiad sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau.

(2Rhaid i'r awdurdod sicrhau bod pob person a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu—

(a)yn derbyn hyfforddiant priodol, ac yn cael ei oruchwylio a'i arfarnu'n briodol; a

(b)yn cael ei alluogi o bryd i'w gilydd i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae'n ei gyflawni.

Gweithdrefn disgyblu staff

18.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol roi gweithdrefn ddisgyblu ar waith sydd, yn benodol—

(a)yn darparu ar gyfer atal cyflogai o'i waith a hynny dros dro pan fo angen hynny er mwyn diogelwch neu les plant a all gael eu lleoli, neu sydd wedi'u lleoli, gan yr awdurdod i'w mabwysiadu neu a all dderbyn neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod;

(b)yn darparu bod y methiant ar ran cyflogai i roi gwybod i berson priodol am ddigwyddiad o gam-drin, neu o amheuaeth o gam-drin, plentyn sydd wedi'i leoli neu a all gael ei leoli gan yr awdurdod i'w fabwysiadu neu a all dderbyn neu sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod yn sail ar gyfer cychwyn achos disgyblu.

(2At ddibenion paragraff (1)(b), dyma yw person priodol—

(a)rheolwr y gwasanaeth mabwysiadu;

(b)un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)swyddog heddlu;

(ch)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(d)un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r plentyn wedi'i leoli i'w fabwysiadu yn ei ardal os yw'r awdurdod hwn yn un gwahanol.

Trefniadau ar gyfer absenoldeb y rheolwr

19.  Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu system i sicrhau bod person a nodir yn gyfrifol am reoli'r gwasanaeth mabwysiadu, os yw'r rheolwr yn arfaethu bod yn absennol neu os yw'n absennol o'r awdurdod lleol am gyfnod di-dor o 20 o ddiwrnodau neu fwy, a hynny hyd onid yw'r rheolwr yn dychwelyd i'r gwasanaeth mabwysiadu neu (yn ôl y digwydd) hyd oni phenodir rheolwr newydd gan yr awdurdod.

Cofnodion mewn perthynas â'r holl staff

20.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol gadw a diweddaru'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4

(2Rhaid cadw'r cofnodion a bennir ym mharagraff (1) am 15 mlynedd o leiaf ar ôl dyddiad y cofnod diwethaf.

Ffitrwydd y fangre

21.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol ddefnyddio at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu fangreoedd sy'n addas at ddiben cyflawni'r nodau a'r amcanion a geir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r awdurdod sicrhau—

(a)bod trefniadau diogelwch y mangreoedd yn foddhaol ac, yn benodol, bod cyfleusterau diogel ar gyfer storio cofnodion; a

(b)bod unrhyw gofnodion nad ydynt, am unrhyw reswm, ar fangreoedd yr awdurdod yn cael eu cadw o dan amodau priodol o ddiogelwch; ac

(c)y cedwir cofnodion achos a lunnir o dan reoliadau 12 a 22 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005(9) am 100 mlynedd o leiaf.

Adolygu Ansawdd y Gwasanaeth

22.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaethau mabwysiadu a ddarperir gan yr awdurdod lleol.

(2Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu bod yr awdurdod lleol —

(a)yn sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn; a

(b)yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gofyn barn —

(i)y rhieni mabwysiadol a'r rhieni naturiol a'r plant sy'n cael eu mabwysiadu;

(ii)unrhyw berson sy'n derbyn gwasanaethau gan yr awdurdod lleol, neu eu cynrychiolwyr mewn perthynas â mabwysiadu;

(iii)y staff a gyflogir gan yr awdurdod lleol; a

(iv)unrhyw awdurdod lleol,

ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, a hynny fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.

(3Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r awdurdod lleol lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau gwaith a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol,

(b)defnyddwyr y gwasanaeth,

(c)cynrychiolwyr defnyddiwr y gwasanaeth,

(ch)staff a gyflogir gan yr awdurdod lleol.

Asesu'r Gwasanaeth

23.—(1Gall y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ofyn i'r awdurdod lleol gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth sy'n defnyddio ei wasanaethau mabwysiadu.

(2O fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl i gais o dan baragraff (1) ddod i law, rhaid i'r awdurdod lleol gyflenwi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.

Hysbysu o gydymffurfedd

24.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg hysbysu'r awdurdod lleol o'r camau y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol eu cymryd ym marn y Cynulliad i sicrhau cydymffurfedd â Ddeddf 2000 ac ag unrhyw reoliadau a wneir oddi tani.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r targedau amser erbyn pryd y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gymryd y camau sy'n ofynnol o dan baragraff (1).

(3Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan baragraff (1) wedi'u cwblhau.

Cwynion

25.  Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)sicrhau y gwneir cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, gan gynnwys cofnod o fanylion yr ymchwiliad a wneir, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd yn sgil hynny, a bod y cofnod yn cael ei gadw am 3 blynedd o leiaf o'r dyddiad y'i gwneir; a

(b)rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol, pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed mewn perthynas â'i wasanaeth mabwysiadu yn ystod y 12 mis blaenorol, a'r camau (os o gwbl) a gymerwyd yn sgil canlyniad yr ymchwiliad; a

(c)rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol grynodeb o unrhyw honiadau o gam-drin plant yn ystod y 12 mis blaenorol ynghyd â chanlyniadau ymchwiliadau a'r camau a gymerwyd..

Digwyddiadau hysbysadwy

26.—(1Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yn y tabl yn Atodlen 5 yn digwydd mewn cysylltiad ag awdurdod lleol, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r personau a restrir yng ngholofnau'r tabl yn ddi-oed ynglyn â'r digwyddiad.

(2Rhaid cadarnhau yn ysgrifenedig yn ogystal unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi ar lafar mewn cysylltiad â'r gorchymyn hwn.

RHAN 4AMRYWIOL

Dirymu Rheoliadau

27.  Dirymir Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005(10).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2007

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 1GWYBODAETH I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

1.  Nodau ac amcanion yr awdurdod lleol mewn perthynas â'r gwasanaeth mabwysiadu, gan gynnwys achosion sy'n ymwneud â mabwysiadu rhwng gwledydd.

2.  Y trefniadau y mae'r awdurdod lleol wedi'u rhoi yn eu lle i asesu a gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

3.  Enw a chyfeiriad y rheolwr.

4.  Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr.

5.  Nifer a chymwysterau a phrofiad perthnasol y staff a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu'r awdurdod.

6.  Strwythur trefniadol y gwasanaeth mabwysiadu.

7.  Y system sydd yn ei lle i fonitro a gwerthuso darpariaeth y gwasanaethau i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth mabwysiadu o safon briodol.

8.  Y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol.

9.  Manylion y cynghorydd gwasanaeth cefnogi mabwysiadu a'r gweithdrefnau ar gyfer asesu ar gyfer gwasanaethau cefnogi mabwysiadu a'u darparu.

10.  Crynodeb o'r gweithdrefnau cwynion a sefydlwyd yn unol â Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005(12), Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 (13) ac adran 114 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau 2003(14).

11.  Cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 2GWYBODAETH I'W CHYNNWYS YN YR ARWEINIAD PLANT

1.  Crynodeb o'r datganiad o ddiben.

2.  Crynodeb o'r gweithdrefnau pan nodir mai mabwysiadu yw'r cynllun priodol ar gyfer y plentyn.

3.  Gwybodaeth ynghylch rôl y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a chrynodeb o'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais am asesiad ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

4.  Crynodeb o'r gweithdrefnau cwynion a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989, Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Y Weithdrefn Gwynion) 1990 ac adran 114 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.

5.  Manylion ynghylch sut y gall plentyn gael mynediad i wasanaethau eiriolwr sy'n annibynnol ar yr awdurdod i'w helpu i ddwyn cwyn neu i wneud cynrychioliad o dan y gweithdrefnau cwynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 4.

6.  Cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.

7.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn Comisiynydd Plant Cymru.

Rheoliadau 1(2)(c)

ATODLEN 3GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN AM BERSONAU SY'N GWNEUD CAIS AM REOLI NEU WEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH MABWYSIADU

1.  Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Naill ai—

(a)pan fo'r swydd yn ymwneud yn rheolaidd a gofalu ar ol, hyfforddi, arolygu neu fodyn unig un a gofal o bersonau o 18 oed neu llai tystysgrif ddiweddaredig a ddyroddwyd o dan adran 113B o'r Ddeddf honno ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)ym mhob achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Deddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.

3.  Lleiafswm o ddau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr gan gyflogwr diweddaraf y person, os oes un.

4.  Os bydd person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bydd yn rhesymol ymarferol cadarnhad o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

5.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

6.  Hanes cyflogaeth yn llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.

Rheoliad 20(1)

ATODLEN 4Y COFNODION SYDD I'W CADW YNGHYLCH POB PERSON SY'N GWEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH MABWYSIADU

Cofnod gan gynnwys mewn perthynas â phob person sy'n gweithio i'r awdurdod lleol—

1.  Enw llawn.

2.  Rhyw.

3.  Dyddiad geni.

4.  Cyfeiriad cartref.

5.  Yr ymgymerwyd â Gwiriadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (pan fo'n briodol), eu bod yn cael eu diweddaru bob tair blynedd a'u bod yn foddhaol.

6.  Tystlythyrau a chadarnhad ysgrifenedig bod gwiriadau wedi'u gwneud dros y ffôn.

7.  Hanes cyflogaeth lawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth,

8.  Cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant a phrofiad o'r gwaith hwnnw.

9.  Dyddiadau y mae'n cychwyn ar gyflogaeth o'r fath ac yn rhoi'r gorau i gyflogaeth o'r fath.

10.  P'un a yw'n gyflogedig gan yr awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, neu'n gyflogedig gan rywun ac eithrio'r awdurdod.

11.  Ei swydd-ddisgrifiad a ph'un a yw'n gweithio'n rhan-amser neu'n llawn-amser a'r nifer o oriau bob wythnos y mae'n cael ei gyflogi gan wasanaeth mabwysiadu'r awdurdod neu o dan gontract i weithio iddo.

12.  Hyfforddiant yr ymgymerir ag ef ganddo neu ganddi, goruchwylio, arfarnu, camau disgyblu (os o gwbl) a gymerwyd yn ei erbyn a chanlyniad y camau hynny, cofnodion o gwynion (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn neu ynglŷn ag ef a chanlyniad y gŵyn honno ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â'i gyflogaeth.

rheoliad 26(1)

ATODLEN 5DIGWYDDIADAU HYSBYSADWY

Colofn 1Colofn 2
Y digwyddiad:I'w hysbysu i:
Swyddfa briodol y Cynulliad CenedlaetholYr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r plentyn wedi'i leoli i'w fabwysiadu ynddi
Marwolaeth plentyn sydd wedi'i leoli gyda darpar fabwysiadwyr pan fo gorchymyn mabwysiadu eto i gael ei wneudIeIe
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio i wasanaeth mabwysiadu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 2(1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999Ie

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“Deddf 2002”) a Deddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”) ac maent yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru. Maent yn disodli Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005. Maent yn darparu fframwaith rheoliadol ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol. Mae Pennod 6 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 yn darparu ar gyfer arolygu gwasanaethau awdurdodau lleol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).

Mae rheoliadau 3 a 4 yn ei gwneud yn ofynnol ei bod yn orfodol bod gan bob awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaeth mabwysiadu ddatganiad o ddiben, sy'n datgan nodau ac amcanion y gwasanaeth, a bod ganddo hefyd arweiniad plant. Rhaid i'r gwasanaeth gael ei gynnal mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau sy'n rheoli'r gwasanaeth, ac yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth foddhaol ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 3.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y modd y cynhelir y gwasanaeth, ynghylch staffio'r gwasanaeth a ffitrwydd y gweithwyr, ynghylch pa mor addas yw'r mangreoedd, ynghylch cwynion a chadw cofnodion, ac ar gyfer adolygu ansawdd y gwasanaeth.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources