- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf beidio â chodi na chasglu ffi am unrhyw gyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir fel rhan o'r gwasanaethau hynny yn yr amgylchiadau canlynol—
(a)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig; neu
(b)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol a cherdyn hawl dilys.
(2) Ac eithrio lle y bodlonir yr amgylchiadau ym mharagraff (1) (a) neu (b) uchod, rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (3), godi a chasglu ffi oddi wrth y claf hwnnw,—
(a)am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(a) o Reoliadau Ffioedd 2000,
(b)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.
(3) Os telir ffi o dan baragraff (2), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.
(4) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol amlroddadwy i glaf beidio â chodi na chasglu ffi am unrhyw gyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir fel rhan o'r gwasanaethau hynny yn yr amgylchiadau canlynol—
(a)os bydd swp-ddyroddiad yn gymwys i gyflenwad o unrhyw gyfarpar neu swm o gyffur a weinyddir gan fferyllydd i'r claf hwnnw; neu
(b)os bydd swp-ddyroddiad cyfatebol yn gymwys i gyflenwad o unrhyw gyfarpar neu swm o gyffur a weinyddir gan fferyllydd i'r claf hwnnw ac os bydd y claf yn cyflwyno cerdyn hawl dilys.
(5) Ac eithrio lle y bodlonir yr amgylchiadau ym mharagraff (1)(a) neu (b) uchod, rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau gweinyddu amlroddadwy i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi a chasglu ffi oddi wrth y claf hwnnw—
(a)am eitem hosan elastig, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(i) o Reoliadau Ffioedd 2000,
(b)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(ii) o Reoliadau Ffioedd 2000.
(6) Os telir ffi o dan baragraff (5), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y swp-ddyroddiad cyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.
(7) At ddibenion paragraff (2) os oes cyffur a orchmynnir ar un ffurflen bresgripsiwn gyfatebol yn cael ei gyflenwi fesul rhan, rhaid talu'r ffi a bennir yn rheoliad 3(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 pan gaiff y rhan gyntaf ei chyflenwi.
(8) Ni chaniateir codi na chasglu ffioedd o dan baragraffau (2) neu (5) yn yr amgylchiadau canlynol—
(a)pan fydd esemptiad o dan reoliad 8 a bod datganiad o hawl i esemptiad wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—
(i)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,
(ii)mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (5) ar y swp-ddyroddiad ynghylch y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar;
(b)pan fydd y claf yn preswylio mewn ysgol neu sefydliad y mewnosodwyd ei henw neu ei enw ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol gan ragnodydd yn unol â theler contract gwasanaethau meddygol cyffredinol sy'n rhoi effaith i baragraff 44(2) o Atodlen 6 i Reoliadau Contract GMS neu drefniadau eraill ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a wnaed o dan adran 16CC(2) o'r Ddeddf(1);
(c)pan fydd hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o Reoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a datganiad o hawl i beidio â thalu wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf yn unol â rheoliad 7 o'r Rheoliadau hynny.
(9) Ni fydd fferyllydd, beth bynnag fo telerau ei wasanaeth, o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ran gorchymyn ar—
(a)ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,
(b)presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,
oni thelir yn gyntaf iddo gan y claf unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei chodi a'i chasglu gan baragraff (2) neu (5), yn ôl y digwydd, o ran y gorchymyn hwnnw.
(10) Rhaid i fferyllydd sy'n codi ac yn casglu ffi o dan baragraff (2) neu (5), os bydd y claf yn gofyn am hynny, roi derbynneb i'r claf am y swm a dderbyniwyd ar y ffurflen a ddarperir at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais am ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y gellir gwneud cais iddo am ad-daliad.
(11) Caiff unrhyw swm a fyddai fel arall yn daladwy gan Fwrdd Iechyd Lleol i fferyllydd o ran darparu gwasanaethau fferyllol gan y fferyllydd ei leihau gan swm unrhyw ffioedd y mae'n ofynnol eu codi a'u casglu gan y darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn.
Disodlir adran 16CC(2) o Ddeddf gan adran 41(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: