Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “anabledd wedi'i dderbyn” (“accepted disablement”) yw anaf neu glefyd corfforol neu feddyliol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn eu bod i'w priodoli i wasanaeth yn lluoedd arfog y Goron neu unrhyw wasanaeth arall a benderfynir gan y Cynulliad, neu eu bod wedi'u gwaethygu gan wasanaeth o'r fath;

mae i “Bwrdd Iechyd Lleol” yr ystyr a roddir i “Local Health Board” yn adran 16BA o'r Ddeddf(1);

ystyr “Canolfan cerdded i mewn” (“Walk-in centre”) yw canolfan lle y mae gwybodaeth a thriniaeth am fân anhwylderau yn cael eu darparu ar gyfer y cyhoedd o dan drefniadau a wneir gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol;

mae “carchar” (“prison”) yn cynnwys sefydliad tramgwyddwyr ifanc ond nid canolfan hyfforddi ddiogel neu garchar y llynges, carchar milwrol neu garchar y llu awyr, ac at ddibenion y diffiniad hwn—

ystyr “canolfan hyfforddi ddiogel” (“secure training centre”) yw man y mae tramgwyddwyr sy'n destun gorchmynion cadw a hyfforddi o dan adran 100 o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(2) (tramgwyddwyr o dan 18 oed: gorchmynion dal gafael a hyfforddi) y gellir dal gafael ynddynt a'u hyfforddi a'u haddysgu a'u paratoi ar gyfer eu rhyddhau;

ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person a gedwir mewn carchar, lle darperir gwasanaethau deintyddol, offthalmig, fferyllol neu nyrsio o dan y Ddeddf(3)gan, neu o dan drefniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol ac eithio yn rhinwedd adran 7(2) o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988(4) (estyniad pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i ariannu'r Gwasanaeth Iechyd);

ystyr “sefydliad tramgwyddwyr ifanc” (“young offender institution”) yw man i ddal gafael ar dramgwyddwyr a ddedfrydwyd i gael eu cadw mewn sefydliad i dramgwyddwyr ifanc neu ddalfa am oes;

mae i “cerdyn hawl” (“entitlement card”) yr ystyr a briodolir iddo gan reoliad 11(1);

ystyr “cerdyn hawl dilys” (“valid entitlement card”) yw cerdyn hawl sydd mewn grym ac sy'n gymwys i'r claf a enwir ar ffurflen bresgipsiwn gyfatebol;

ystyr “claf” (“patient”) yw —

(a)

unrhyw berson y rhoddir gwasanaethau meddygol sylfaenol iddo o dan Ran 1 o'r Ddeddf(5);

(b)

unrhyw berson sy'n gwneud cais i fferyllydd ddarparu gwasanaethau fferyllol iddo ac at ddibenion y Rheoliadau hyn mae'n cynnwys person sy'n gweithredu ar ran person o'r fath;

(c)

unrhyw berson sy'n gofyn am wybodaeth neu driniaeth gan Ganolfan cerdded i mewn;

(ch)

unrhyw berson sy'n gwneud cais am gael cyffur wedi'i gyflenwi yn unol â Chyfarwyddyd Grwp Cleifion;

mae i'r term “claf cymwys” (“qualifying patient”) yr ystyr a briodolir iddo gan reoliad 11(3);

ystyr “cofresr berthnasol” (“relevant register”) yw—

(a)

mewn perthynas â nyrs neu gydwraig, y Gofrestr Nyrsion a Bydwreigiaeth;

(b)

mewn perthynas â fferyllydd, y gofrestr a gedwir yn unol ag adran 2(1) o Ddeddf Fferylliaeth 1954(6) neu'r gofresr a gedwir yn unol ag Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976(7);

(c)

mewn perthynas â pherson y mae ei enw wedi'i gofrestru yn y rhan o'r ofrestr a gedwir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd yn unol ag Erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(8) sy'n ymwneud â—

(i)

ciropodyddion a phodiatryddion;

(ii)

ffysiotherapyddion; neu

(iii)

radiograffyddion: diagnostig neu therapiwtig,

y gofrestr honno; ac

(ch)

mewn perthynas ag optometrydd cofrestredig, y gofrestr optometryddion a gedwir o dan adran 7(a) o Ddeddf Optegwyr 1989(9);

ystyr “Cofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth” (“Nursing and Midwifery Register”) yw'r gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(10);

ystyr “Contract GMS” (“GMS Contract”) yw contract o dan adran 28Q o'r Ddeddf;

ystyr “cwrs a achredwyd” (“accredited course”) yw cwrs a achredwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;

ystyr “cyfarpar” (“appliance”) yw cyfarpar rhestredig o fewn ystyr adran 41 o'r Ddeddf(11);

mae “Cyfarwyddyd Grwp Cleifion” (“Patient Group Direction”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 7(2);

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae “cyffuriau” (“drugs”) yn cynnwys meddyginiaethau;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;

ystyr “esemptiad” (“exemption”) yw unrhyw ollyngiad a ddarperir ar ei gyfer yn rheoliad 8;

mae “fferyllydd” (“chemist”) yn cynnwys unrhyw berson, heblaw meddyg, sy'n darparu gwasanaethau fferyllol;

ystyr “fferyllydd-ragnodydd annibynnol” (“pharmacist independent prescriber”) yw person—

(a)

sy'n fferyllydd, a

(b)

y cofnodir yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn gyfatebol” (“equivalent prescription form”) yw ffurflen a ddarparwyd ac a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol, neu yn yr Alban wasanaethau gofal fferyllol a ddarperir o dan Ran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978(12), ac nid yw'n cynnwys—

(a)

ffurflen bresgripsiwn Gymreig;

(b)

presgripsiwn amlroddadwy Cymreig; neu

(c)

presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn Gymreig” (“Welsh prescription form”) yw ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru a ddyroddwyd gan ragnodydd neu ddeintydd i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac nid yw'n cynnwys—

(a)

presgripsiwn amlroddadwy Cymreig;

(b)

ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu

(c)

presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,

ac at ddibenion y diffiniad hwn—

ystyr “un o Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru” (“Welsh NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth y GIG y lleolir y cyfan neu'r rhan fwyaf o'i hysbytai, sefydliadau a chyfleusterau yng Nghymru;

ystyr “gwasanaethau amlweinyddu” (“repeat dispensing services”) yw gwasanaethau fferyllol sy'n ymwneud â darparu cyffuriau neu gyfarpar gan fferyllydd yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy;

ystyr “gwasanaethau gweinyddu” (“dispensing services”) yw gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau fferyllol o dan delerau contract GMS sy'n rhoi effaith i baragraffau 47 i 51 o Atodlen 6 i Reoliadau Contract GMS;

ystyr “hosan elastig” (“elastic hosiery”) yw hosan i'r pigwrn, i'r goes, i'r ben-glin, i'r goes o dan y ben-glin neu i'r glun;

ystyr “meddyg” (“doctor”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig;

ystyr “nyrs-ragnodydd annibynnol” (“nurse independent prescriber”) yw person—

(a)

y mae ei enw wedi'i gofrestru yn y Gofrestr Nyrsion a Bydwreigiaeth, a

(b)

sydd, o ran y person sy'n ymarfer yng Nghymru ar 1 Chwefror 2007 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, wedi llwyddo mewn cwrs a achredwyd ar gyfer ymarfer fel nyrs-ragnodydd annibynnol;

ystyr “nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol” (“independent nurse prescriber”) yw person—

(a)

sydd wedi'i gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, a

(b)

y mae nodyn yn ei gylch yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar—

(i)

o'r Llyfr Fferyllol Nyrsys sy'n Rhagnodi sydd ar gyfer Nyrsys Ardal ac Ymwelwyr Iechyd yn Rhan XVIIB(i) o'r Tariff Cyffuriau, neu

(ii)

o'r Llyfr Fferyllol Nyrsys sy'n Rhagnodi sydd ar gyfer Ymarferwyr Cymunedol yn Rhan XVIIB(i) o'r Tariff Cyffuriau,

hefyd wedi'i gofnodi yn y gofrestr honno;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol” (“equivalent repeatable prescription”) yw presgripsiwn a geir mewn ffurflen ac a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i alluogi person i gael gwasanaethau amlweinyddu sydd yn gyfateboli'r rhai hynny a ddarperir yng Nghymru;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy Cymreig” (“Welsh repeatable prescription”) yw presgripsiwn ar ffurf a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddwyd gan ragnodydd amlroddadwy i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol yn y fformat a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Contract GMS ac—

(a)

a gynhyrchir gan gyfrifiadur ond a lofnodir gan ragnodydd amlroddadwy; a

(b)

sy'n dangos y ceir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a orchmynnir ar y ffurflen fwy nag unwaith, ac sy'n pennu sawl gwaith y ceir eu darparu;

ystyr “rhagnodydd” yw—

(a)

meddyg,

(b)

nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol,

(c)

rhagnodydd atodol,

(ch)

nyrs-ragnodydd annibynnol, ac

(d)

fferyllydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “rhagnodydd amlroddadwy” (“repeatable prescriber”) yw rhagnodydd—

(a)

sy'n gontractiwr GMS sy'n darparu gwasanaethau rhagnodi amlroddadwy o dan delerau ei gontract sy'n rhoi effaith i baragraff 40 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau Contract GMS; neu

(b)

sy'n gyflogedig neu a gymrwyd ymlaen gan gontractiwr GMS sy'n darparu gwasanaethau rhagnodi amlroddadwy o dan delerau ei gontract sy'n rhoi effaith i baragraff 40 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau Contract GMS;

ystyr “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”) yw person—

(a)

y mae ei enw wedi'i gofrestru yn—

(i)

y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth;

(ii)

y Gofrestr Fferyllwyr Fferyllol a gedwir yn unol ag adran 2(1) o Ddeddf Fferylliaeth 1954;

(iii)

y gofrestr a gedwir yn unol ag Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976,

(iv)

y rhan o'r gofrestr a gedwir gan Gyngor Proffesiynau Iechyd Cymru yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru 2001 sy'n ymwneud ag—

(aa)

ciropodyddion a phodiatryddion;

(bb)

ffysiotherapyddion; neu

(cc)

radiograffyddion: diagnostig neu therapiwtig, neu

(v)

yn y gofrestr optometryddion a gedwir gan y Cyngor Optegol Cyffredinol yn unol ag adran 7(a) o Ddeddf Optegwyr 1989, a

(b)

y cofnodwyd yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol;

ystyr “Rheoliadau Contract GMS” (“the GMS Contract Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredino) (Cymru) 2004(13);

ystyr “Rheoliadau Ffioedd 2000” (“the Charges Regulations 2000”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000(14);

ystyr “Rheoliadau Ffioedd 2001” (“the Charges Regulations 2001”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001(15);

ystyr “y Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl” (“the Travelling Expenses and Remission of Charges Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988(16);

ystyr “swp-ddyroddiad” (“batch issue”) yw ffurflen sy'n cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol a'i dyroddi gan ragnodydd amlroddadwy yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy i alluogi fferyllydd i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, ac sydd yn y fformat a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau Contract GMS, ac sydd —

(a)

yn cael ei chynhyrchu gan gyfrifiadur ond nad yw'n cael ei llofnodi gan ragnodydd amlroddadwy;

(b)

yn ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy penodol ac yn cynnwys yr un dyddiad â'r presgripsiwn hwnnw;

(c)

yn ffurfio rhan o ddilyniant o ffurflenni, lle mae'r nifer o ffurflenni yn gyfartal â nifer yr adegau y caniateir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a orchmynwyd ar y presgripsiwn amlroddadwy; ac

(ch)

yn pennu Rhif i ddynodi ei lle yn y dilyniant y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c);

ystyr “swp-ddyroddiad cyfatebol” (“equivalent batch issue”) yw ffurflen a ddarperir o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a ddyroddir gan ragnodydd amlroddadwy ar yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy cyfatebol i alluogi fferyllydd i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu;

ystyr “Tariff Cyffuriau” (“Drug Tariff”) yw datganiad a lunnir, ei gyhoeddi a'i ddiwygio o dro i dro gan Gynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(17) (safonau a thaliadau am gyffuriau a chyfarpar);

ystyr “telerau gwasanaeth” (“terms of service”) yw'r telerau y mae gwasanaethau offthalmig cyffredinol a gwasanaethau fferyllol yn cael eu darparu odanynt o dan y Ddeddf;

mae “triniaeth” (“treatment”) yn cynnwys archwilio a diagnosio;

mae i'r term “tystysgrif esemptio” (“exemption certificate” ) yr ystyr a briodolir iddo gan reoliad 9(1);

ystyr “Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol” (“Primary Care Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol a sefydlwyd o dan adran 16A o'r Ddeddf(18).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn mae cyflenwi gyferbyn â gorchymyn ar un ffurflen bresgripsiwn, neu ar un presgripsiwn amlroddadwy (ond dim ond pan fo'r cyflenwi yn erbyn un swp-ddyroddiad ynghylch y presgripsiwn amlroddadwy hwnnw)—

(a)symiau o'r un cyffur mewn mwy nag un cynhwysydd yn cael ei drin fel cyflenwi un swm yn unig o gyffur;

(b)mwy nag un cyfarpar o'r un math, ac eithrio yn achos hosanau elastig a theits, neu gyflenwi dwy neu fwy o gydrannau'r un cyfarpar, yn cael ei drin fel cyflenwi un cyfarpar yn unig.

(3Cyhyd â bod contractau yr ymrwymir iddynt o dan erthygl 13 o Orchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) 2004(19) (“contractau rhagosodedig”) mewn bod, bernir bod unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gontract GMS yn cynnwys cyfeiriad at gontract yr ymrwymir iddo o dan yr erthygl honno, a bernir bod unrhyw gyfeiriad at deler mewn contract GMS yn cynnwys cyfeiriad at y teler cyfatebol yn y contract rhagosodedig.

(4Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y Rhif hwnnw, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

(1)

Disodlir adran 16BA o'r Ddeddf gan adran 11 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.

(3)

Darperir gwasanaethau deintyddol, offthalmig a fferyllol yn eu trefn o dan Rannau 4, 5, 6 a 7 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol gydag effaith o 1 Mawrth 2007.

(5)

Darperir gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.

(7)

Rh. St. 1976/1213 (G.I.22).

(11)

Disodlir adran 41 o'r Ddeddf gan adran 80 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.

(12)

1978 p.29.

(13)

O.S. 2004/478 (Cy.48), fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2006/945 (Cy.94).

(14)

O.S. 2000/620, fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2006/675.

(15)

O.S. 2001/1358 (Cy.86), fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2003/1792 (Cy. 188).

(16)

O.S. 1988/551, fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2006/2791 (Cy. 232).

(17)

O.S. 1992/662, fel y'u diwygiwyd ddiwethaf mewn perthynas â Chymru gan O.S.2005/1013 (Cy.67).

(18)

Disodlir adran 16A o Ddeddf gan adran 18 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gydag effaith o 1 Mawrth 2007.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources