Search Legislation

Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 117 (Cy.8)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

23 Ionawr 2007

Yn dod i rym

31 Ionawr 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan mai ef yw'r person priodol at ddibenion adran 79(7C)(d) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”)(1), yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau hynny a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol, ac sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan baragraff 1(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Ionawr 2007.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Mangreoedd diwydiannol perthnasol etc: eithriadau pellach

2.  At ddibenion paragraff (d) o adran 79(7C) o Ddeddf 1990, rhagnodir tir o ddisgrifiad a grybwyllir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Niwsans Statudol (Apelau) 1995

3.—(1Mae Rheoliad 2 (apelau o dan adran 80(3) o Ddeddf 1990) o Reoliadau Niwsans Statudol (Apelau) 1995(3) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:

(2Ym mharagraff (2)(e)—

(a)ym mharagraff (i), ar ôl “(f)” mewnosoder “, (fa)”(4);

(b)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

  • or

    (iv)

    is a nuisance falling within section 79(1)(fb) of the 1990 Act and—

    (aa)

    the artificial light is emitted from industrial, trade or business premises, or

    (bb)

    the artificial light (not being light to which sub-paragraph (aa) applies) is emitted by lights used for the purpose only of illuminating an outdoor relevant sports facility (within the meaning given by section 80(8A) of the 1990 Act),(5)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Ionawr 2007

Rheoliad 2

YR ATODLEN

Disgrifiad o'r TirDeddfwriaeth
Tir sydd wedi'i ddynodi am y tro fel Ardal Amgylcheddol Sensitif o dan adran 18(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49)
Tir y gwneir unrhyw daliad mewn perthynas ag ef yn unol â darpariaethau Offeryn Statudol a enwir gyferbyn â hynRheoliadau Cynefinoedd (Coetiroedd Llydanddail) (Cymru) 1994 (O.S. 1994/3099) Rheoliadau Cynefinoedd (Ymylon Dŵr) (Cymru) 1994 (O.S. 1994/3100)
Rheoliadau Cynefinoedd (Lleiniau Arfordirol) (Cymru) 1994 (O.S. 1994/3101)
Rheoliadau Cynefinoedd (Tiroedd Glas Toreithiog eu Rhywogaethau) 1994 (O.S. 1994/3102)
Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 1994 (O.S. 1994/2716)
Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru a Lloegr) 1996 (O.S. 1996/908)
Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/3709)
Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1606)
Rheoliadau Rhostiroedd (Dad-ddwysáu Da Byw) (Cymru) 1995 (O.S. 1995/1159)
Rheoliadau Ffermio Organig (Cymorth) 1994 (O.S. 1994/1721)
Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001 (O.S. 2001/424)
Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006 (O.S. 2006/41)
Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1176)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 101 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16) (“Deddf 2005”) yn ychwanegu categori newydd o niwsans statudol at adran 79(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) (“Deddf 1990”), sef “any insects emanating from relevant industrial, trade or business premises and being prejudicial to health or a nuisance”.

Mae adran 79(7C)(a) i (c) ac (e) o Ddeddf 1990 yn eithrio mathau penodol o dir o'r diffiniad o “relevant industrial, trade or business premises”, ac effaith hynny yw na fydd unrhyw drychfilod sy'n dod o'r mangreoedd hynny ac sy'n niweidiol i iechyd neu'n niwsans, yn niwsans statudol at ddibenion y drefn o ran niwsans statudol yn Rhan 3 o Ddeddf 1990.

O dan adran 79(7C)(d) o Ddeddf 1990, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi bod tir arall sy'n rhan o uned amaethyddol (ond nad yw eisoes wedi'i eithrio o dan adran 79(7C)(a) i (c)) yn cael ei eithrio o'r diffiniad o “relevant industrial, trade or business premises”.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi, at ddibenion adran 79(7C)(d) o Ddeddf 1990, dir y mae taliadau'n cael eu gwneud ar eu cyfer o dan unrhyw un o'r cynlluniau rheoli tir a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau fel na fydd trychfilod sy'n dod o'r tir hwnnw ac sy'n niweidiol i iechyd neu'n niwsans yn niwsans statudol at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf 1990 (rheoliad 2 a'r Atodlen).

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio hefyd Reoliadau Niwsans Statudol (Apelau) 1995 (O.S. 1995/2644) (“Rheoliadau 1995”).

Mae Rheoliadau 1995 (rheoliad 2(2)) yn nodi ar ba sail y caiff person ddibynnu pan fo'n apelio i lys ynadon o dan adran 80(3) o Ddeddf 1990 yn erbyn hysbysiad gostegu a gyflwynwyd i'r person hwnnw ynglŷn â niwsans statudol. O ran unrhyw un o'r niwsansau statudol a nodir yn adran 79(1)(a), (d), (e), (f) neu (g) o Ddeddf 1990, pan fo niwsans o'r fath wedi codi ar fangre ddiwydiannol, mangre fasnachol neu fangre busnes, y seiliau yw'r ffaith bod y moddion ymarferol gorau wedi'u defnyddio i atal y niwsans, neu i wrthweithio effeithiau'r niwsans hwnnw (gweler rheoliad 2(2)(e)(i) o Reoliadau 1995).

Mae Deddf 2005 (adrannau 101 i 103) yn ychwanegu dau niwsans statudol newydd at y rhai a restrir yn adran 79(1) o Ddeddf 1990. Y rhain yw (yn adran 79(1)(fa)) y niwsans trychfilod y mae darpariaeth wedi'i gwneud ar ei gyfer yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn (y niwsans trychfilod) ac (yn adran 79(1)(fb)) golau artiffisial a belydrir o fangre yn y fath fodd ag i fod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans (y niwsans golau artiffisial).

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn galluogi person, pan fo apêl yn cael ei gwneud i lys ynadon yn erbyn hysbysiad gostegu sy'n enwi naill ai niwsans trychfilod neu niwsans golau artiffisial, i ddibynnu ar y ffaith bod y moddion ymarferol gorau wedi'u defnyddio i ostegu, neu i wrthweithio effaith, niwsans o'r fath. Mae adran 79(1)(fa) o Ddeddf 1990 (y niwsans trychfilod) wedi'i hychwanegu at y rhestr o ddarpariaethau yn rheoliad 2(2)(e)(i) o Reoliadau 1995. Mae adran 79(1)(fb) o Ddeddf 1990 (y niwsans golau artiffisial) wedi'i gwneud yn destun rheoliad newydd yn Reoliadau 1995, sef Rheoliad 2(2)(e)(iv), sy'n darparu amddiffyniad y moddion ymarferol gorau fel sail dros apelio yn erbyn hysbysiad gostegu ynglŷn â'r niwsans hwn pan fo'r golau artiffisial yn cael ei belydru naill ai o fangre ddiwydiannol, mangre fasnachol neu fangre busnes, neu gan oleuadau sy'n cael eu defnyddio i oleuo cyfleuster chwaraeon perthnasol awyr-agored (rheoliad 3).

(1)

1990 p. 43; mewnosodwyd y diffiniad o “person priodol” yn adran 79(7) gan adran 101(4) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16), a mewnosodwyd adran 79(7C) gan adran 101(5) o'r Ddeddf honno.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo.

(3)

O.S. 1995/2644; mae'r Rheoliadau yn rhychwantu Cymru a Lloegr.

(4)

Mewnosodwyd adran 79(1)(fa) o Ddeddf 1990 gan adran 101(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16).

(5)

Mewnosodwyd adran 79(1)(fb) o Ddeddf 1990 gan adran 102(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd Glân (p. 16). Mewnosodwyd adran 80(80A) gan adran 102(3) o Ddeddf 2005.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources