RHAN 4Lwfansau Eraill

Lwfans aelodau cyfetholedig

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff awdurdod ddarparu bod lwfans am bob blwyddyn yn cael ei dalu i aelod cyfetholedig sydd â chyfrifoldebau neu ddyletswyddau mewn cysylltiad â mynychu cynadleddau a chyfarfodydd fel a ragnodir gan y Panel.

(2Rhaid i'r swm y mae gan aelod cyfetholedig hawl iddo o ran lwfans aelodau cyfetholedig, yn ddarostyngedig i reoliadau 19 a 20, beidio â bod yn fwy na'r swm a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw—

(a)ac eithrio pan fydd is-baragraff (b) yn gymwys, yn yr adroddiad cychwynnol yn unol â rheoliad 34(1)(b)(vi);

(b)mewn adroddiad atodol, y mae darpariaethau perthnasol yr adroddiad yn gymwys ar y pryd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 20 caiff awdurdod addasu swm yr hawl i lwfans aelodau cyfetholedig am flwyddyn ar unrhyw adeg yn y flwyddyn honno.

(4Pan fo awdurdod yn gwneud addasiad o'r fath, boed yn unol â rheoliad 20 neu fel arall, caiff yr awdurdod hwnnw ddarparu bod swm yr hawl i lwfans aelod cyfetholedig fel y'i addaswyd i fod yn gymwys gydag effaith o ddechrau'r flwyddyn y gwneir yr addasiad ynddi.

(5Os rhan yn unig o flwyddyn yw tymor mewn swydd aelod cyfetholedig, bydd hawl yr aelod cyfetholedig hwnnw'n hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o lwfans aelodau cyfetholedig ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau y mae'r aelod cyfetholedig yn dal y swydd yn ystod y flwyddyn fel cyfran o nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.

(6Pan fydd aelod cyfetholedig wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod cyfetholedig hwnnw fel aelod cyfetholedig o awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno, rhaid i'r awdurdod wrthod talu unrhyw lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy i'r aelod cyfetholedig hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod cyfetholedig hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni.