xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Wedi'u gwneud
28 Mawrth 2007
Yn dod i rym
1 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Erwropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Mewnforio Adar Caeth) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
2. Yn rheoliad 16(4) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006(3), yn lle “1 April 2007” rhodder “1 July 2007”.
3. Dirymir rheoliad 2(3) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2006(4) .
4. Dirymir Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006(5).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1536 (Cy. 153)) (“y prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 16(4) o'r prif Reoliadau er mwyn rhoi effaith i'r estyniad tan 1 Gorffennaf 2007 ar waharddiad cyfredol yr Undeb Ewropeaidd ar fewnforio adar caeth o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Darperir ar gyfer y gwaharddiad gan ddeddfwriaeth y Gymuned o dan Benderfyniad y Comisiwn 2005/760/EC ynghylch mesurau diogelu penodol o ran ffliw adar pathogenig iawn mewn trydydd gwledydd penodol ar gyfer mewnforio adar caeth (OJ Rhif L285, 28.10.2005, t. 52), fel y'i diwygiwyd, yn benodol gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/862/EC, a chan Benderfyniad y Comisiwn dyddiedig 23 Mawrth 2007 (OJ Rhif L84, 24.03.2007, t.44), sy'n rhoi effaith i estyniad pellach ar y gwaharddiad.
Mae rheoliadau 3 a 4 yn dirymu diwygiadau cynharach i'r prif Reoliadau a oedd yn rhoi effaith i estyniadau blaenorol ar y gwaharddiad i fewnforio.
O.S. 2005/2766, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329.
O.S. 2006/1536 (Cy. 153), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2128 (Cy. 198) ac O.S. 2006/3452 (Cy. 313).