- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), at ddibenion y Cynllun hwn, mae gwasanaeth pensiynadwy person yn cronni wrth i gyfraniadau pensiwn gael eu talu, ac mae wedi'i ffurfio o'r canlynol—
(a)unrhyw gyfnod y mae'r person wedi talu cyfraniadau pensiwn ar ei gyfer fel aelod o'r Cynllun hwn;
(b)unrhyw gyfnod o wasanaeth a gymerwyd i ystyriaeth at ddibenion dyfarndal o dan reol 3 (pensiwn gohiriedig) neu reol 7 (hawlogaeth i gael dau bensiwn) o Ran 3 os, ar ôl dechrau cyflogaeth eto gydag awdurdod —
(i)daw'r person yn aelod o'r Cynllun; a
(ii)yn unol â rheol 4 o Ran 3 (dileu pensiwn gohiriedig), y mae'r dyfarndal o dan reol 3 neu reol 7 yn cael ei ddileu;
(c)unrhyw gyfnod y mae gan y person hawlogaeth i'w gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy o dan reol 4 (cyfrif cyfnod absenoldeb di-dâl) neu reol 5 (cyfrif seibiant mamolaeth, seibiant tadolaeth a seibiant mabwysiadu, etc) o'r Rhan hon neu o dan unrhyw un o reolau 5 i 9 o Ran 11;
(ch)unrhyw gyfnod o wasanaeth pensiynadwy a gymerwyd i ystyriaeth at ddibenion dyfarndal afiechyd o dan reol 2 o Ran 3, ac eithrio unrhyw gyfnod sydd wedi'i gynnwys fel gwelliant, pan fo—
(i)y dyfarndal wedi'i ddileu o dan reol 2 o Ran 9; a
(ii)y person yn aros yn aelod o'r Cynllun hwn (p'un ai fel un o gyflogeion yr awdurdod a wnaeth y dyfarndal ai peidio);
(d)os yw'r person yn ailymuno â'r Cynllun hwn ar ôl dechrau cyflogaeth eto gydag awdurdod, unrhyw gyfnod o wasanaeth fel cyn aelod o'r Cynllun, nad oes—
(i)unrhyw bensiwn wedi'i dalu ar ei gyfer;
(ii)unrhyw ad-daliad cyfraniadau pensiwn wedi'i wneud ar ei gyfer; a
(iii)nad oes unrhyw daliad gwerth trosglwyddo wedi'i wneud ar ei gyfer; ac
(dd)unrhyw gyfnod o wasanaeth a gredydwyd i'r Cynllun fel gwasanaeth pensiynadwy yn sgil derbyn trosglwyddiad i mewn i'r Cynllun o dan Ran 12.
(2) Ni chaiff gwasanaeth pensiynadwy aelod-ddiffoddwr tân fod yn hwy na 45 o flynyddoedd.
(3) Ni chaiff person—
(a)prynu gwasanaeth ychwanegol os byddai hynny'n peri i'w wasanaeth pensiynadwy gynyddu i fwy na 40 o flynyddoedd erbyn yr oedran ymddeol arferol; neu
(b)trosglwyddo gwasanaeth i mewn i'r Cynllun os byddai cyfanred—
(i)y gwasanaeth hwnnw,
(ii)ei wasanaeth rhagolygol hyd at yr oedran ymddeol arferol, a
(iii)unrhyw wasanaeth sydd eisoes wedi cronni yn y Cynllun,
yn hwy na 40 o flynyddoedd erbyn yr oedran ymddeol arferol.
(4) Mae unrhyw gyfnod ychwanegol o wasanaeth a brynwyd neu sydd wrthi'n cael ei brynu o dan Ran 11 i'w gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy; ond pan fo cyfran yn unig o'r cyfraniadau pensiwn sy'n daladwy ar gyfer cyfnod o wasanaeth ychwanegol wedi'i thalu, dim ond y gyfran gyfwerth o'r cyfnod sydd i'w chyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae cyfnod ychwanegol o wasanaeth a brynwyd neu sydd wrthi'n cael ei brynu o dan Ran 11 i'w gymryd i ystyriaeth at ddibenion dyfarnu—
(a)swm y pensiwn sy'n daladwy i'r aelod-ddiffoddwr tân neu i oroeswyr yr aelod-ddiffoddwr tân; a
(b)faint o wasanaeth sydd gan yr aelod-ddiffoddwr tân neu faint y caiff ei gronni yn y Cynllun.
(6) Nid yw cyfnod ychwanegol o wasanaeth i'w gymryd i ystyriaeth wrth asesu—
(a)swm y pensiwn afiechyd haen uwch sydd wedi'i gynnwys mewn dyfarndal afiechyd haen uwch o dan Ran 3; neu
(b)swm grant marwolaeth o dan Ran 5.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: